Neidio i'r prif gynnwy

Stormydd: Mellt, Gwyntoedd Cryfion ac Asthma cysylltiedig â Stormydd Taranau

Mae stormydd mellt a tharanau yn gallu digwydd trwy gydol y flwyddyn ond maen nhw’n fwy cyffredin yn ystod yr haf.

Mae mellt yn gallu cyrraedd y ddaear trwy wrthrychau, pobl ac adeiladau. Nid yw gwisgo gemwaith neu ategolion metel yn gwneud fawr o wahaniaeth. Y prif ffactorau yw gwrthrychau ac adeiladau uchel.

Un o beryglon eraill mellt yw llifogydd sydyn , yn enwedig ar ôl tywydd poeth iawn.