Peidiwch â gadael i blant chwarae mewn ardaloedd llifddwr – fyddan nhw ddim yn gwybod pa mor ddwfn yw’r dŵr ac efallai fod yno beryglon cudd
Golchwch ddwylo plant yn aml a chyn prydau bwyd bob amser
Dylai rhieni sydd â babanod sy’n sâl gyda dolur rhydd a chwydu geisio cyngor meddygol
Peidiwch â gadael i’ch plant chwarae ar ardaloedd palmantog neu goncrid sydd wedi’u heffeithio nes eu bod wedi eu glanhau. Mae golau haul a phridd yn helpu i ddinistrio bacteria niweidiol felly mae’n saff, fel rheol, i blant chwarae ar wair tuag wythnos wedi i’r llifddwr fynd.
Golchwch degannau sydd wedi’u halogi â llifddwr â dŵr poeth a glanedydd. Gellir rhoi tegannau meddal mewn golchiad peiriant poeth (60°C).