Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Platfform Adnoddau Newydd ar gyfer Staff Cartrefi Gofal a Gofal Cartref i sicrhau mynediad hawdd at wybodaeth hanfodol a chyfoes

Mae ein tîm Cartref Gofal Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn falch o lansio Platfform Adnoddau ar-lein newydd heddiw ar gyfer Staff Gofal yn y Cartref a Staff Cartrefi Gofal.

Cydnabu’r tîm fod angen i staff o’r sectorau gael mynediad yn rheolaidd at wybodaeth o sawl ffynhonnell wahanol ar-lein, sy’n gallu bod yn llafurus ac yn ymarferol anodd mewn lleoliadau amrywiol.  Gan fod y pandemig wedi ychwanegu pwysau enfawr at amser staff, gellid arbed amser hanfodol pe bai staff yn gallu mynd at wybodaeth mewn un lle, naill ai ar ffôn symudol neu gyfrifiadur.

Mae tîm Cartref Gofal Cymru yn datblygu, ymgorffori a darparu gwelliannau ledled y system ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol i GIG Cymru ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector gofal a gofal yn y cartref.  Fel rhan o Gwelliant Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, maent yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector gofal a gofal cartref. Trwy weithio gyda’i gilydd, fe wnaethant allu nodi’r wybodaeth y mae angen i staff gael mynediad ati, a datblygu platfform adnoddau un stop i ddarparu’r holl ddolenni at y gwefannau hynny

Mae ar gael ar ap (Saesneg yn unig) a gwefan (ddwyieithog), mae’n hawdd mynd ato (drwy ffôn neu fwrdd gwaith) mewn lleoliadau amrywiol lle gallai staff fod yn ystod eu sifft. Mae dolenni yn cynnwys gwybodaeth am reoli heintiau, adnabod dirywiad, iechyd meddwl a lles,  COVID-19, hyfforddiant, arweiniad a chysylltiadau defnyddiol.

Hoffai Gwelliant Cymru wneud yr holl dimau cartrefi gofal a staff gofal cartref ledled Cymru yn ymwybodol o’r platfform adnoddau.

Meddai Rosalyn Davies, Arweinydd y Rhaglen yn Gwelliant Cymru: “Rydym yn falch o allu rhoi cymorth i staff cartrefi gofal a gofal yn y cartref trwy’r platfform digidol hwn. Mae’n galluogi staff prysur i gael mynediad at ddolenni ac adnoddau allweddol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y cyfnod anodd hwn. Hoffem ddiolch i Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol am eu cyfraniadau a’u cymorth.”

Gellir cael mynediad at y Platfform Adnoddau trwy: