Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Absenoldeb Salwch

Yn yr adran hon:
  • Beth yw rheoli absenoldeb salwch?

  • Pam mae rheoli absenoldeb salwch yn bwysig?

  • Sut i reoli absenoldeb salwch

  • Cefnogi gweithwyr i ddychwelyd i'r gwaith

  • Monitro Presenoldeb

  • Adnoddau a gwybodaeth bellach

  • Dyddiadau Allweddol

 
Beth yw rheoli absenoldeb salwch?

Mae rheoli absenoldeb salwch yn cwmpasu sut mae cyflogwyr yn monitro, yn mynd i'r afael â gweithwyr nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd salwch neu faterion sy'n ymwneud ag iechyd, ac yn eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sydd â'r nod o leihau effaith absenoldebau ar gyflogwyr gan sicrhau bod cyflogeion yn cael cymorth priodol.

Mae rheoli absenoldeb yn effeithiol yn hanfodol i’r cyflogai a’r cyflogwr:

Trwy ddeall a gweithredu arferion rheoli absenoldeb salwch effeithiol, gall cyflogwyr greu gweithle iachach, mwy cynhyrchiol sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

Bydd y rhan fwyaf o absenoldebau a gymerir yn y gweithle yn absenoldebau tymor byr. Absenoldeb salwch tymor byr yw pan na all cyflogai ddod i’r gwaith oherwydd afiechyd neu salwch am lai na phedair wythnos.

Absenoldeb salwch hirdymor yw pan fydd angen i weithiwr gymryd mwy na phedair wythnos o absenoldeb salwch. Mae cefnogi staff â chyflyrau hirdymor yn agwedd bwysig ar weithle cynhwysol a chynhyrchiol. Yr achos mwyaf cyffredin o absenoldebau hirdymor yn y flwyddyn ddiwethaf oedd salwch yn ymwneud ag iechyd meddwl, megis iselder clinigol a gorbryder, ac yna anafiadau corfforol mwy difrifol.

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn 2023 gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) a Simplyhealth, mân afiechydon (94%), anafiadau cyhyrysgerbydol (45%) a phroblemau iechyd meddwl (39%) oedd y prif resymau dros absenoldeb tymor byr. Roedd absenoldeb hirdymor yn cael ei yrru’n bennaf gan broblemau iechyd meddwl (63%), cyflyrau meddygol acíwt fel strôc neu ganser (51%), ac anafiadau cyhyrysgerbydol (51%).

 

Pam mae rheoli absenoldeb salwch yn bwysig?

Dylai cyflogwyr reoli absenoldebau salwch yn effeithiol er mwyn blaenoriaethu llesiant gweithwyr tra'n cynnal cynhyrchiant. Mae cefnogi gweithwyr yn ystod eu habsenoldeb yn creu amgylchedd gwaith iachach a mwy cadarnhaol. 

Gall absenoldebau salwch effeithio ar y gweithlu mewn nifer o ffyrdd:

  • Lleihad mewn morâl gweithwyr

Mae absenoldeb cydweithwyr gwerthfawr yn lleihau morâl ac yn creu ansefydlogrwydd, gan effeithio ar ymgysylltiad a chymhelliant.

  • Effaith ar ddeinameg tîm

Gall cydlyniant tîm a chynhyrchiant ddioddef oherwydd yr addasiad sydd ei angen pan fo aelod allweddol yn absennol.

  • Colli arbenigedd a gwybodaeth

Mae absenoldebau staff medrus yn arwain at fylchau mewn arbenigedd, gan effeithio ar ansawdd ac effeithlonrwydd gwaith.

  • Amharu ar barhad

Mae absenoldebau hirdymor yn amharu ar brosiectau a phrosesau, gan achosi oedi.

  • Llwyth gwaith cynyddol i eraill

Gall y staff sydd ar ôl wynebu mwy o straen oherwydd ailddosbarthu cyfrifoldebau.

O safbwynt cyflogwr, gall rheoli absenoldeb gwael arwain at y canlynol:

  • Cynnydd mewn costau ariannol

Gall dod o hyd i weithwyr newydd a’u hyfforddi i gymryd lle staff gwerthfawr fod yn gostus a chymryd llawer o amser, gan roi straen ar adnoddau a chyllideb.

  • Cynnyrch yn cael ei golli a pherfformiad gwannach

Mae absenoldebau yn amharu ar lif gwaith a llinellau amser prosiectau, gan arwain at golli cynhyrchiant a llai o ansawdd ac effeithlonrwydd gwaith.

  • Risg i enw da

Gall cyfraddau absenoldeb uchel niweidio enw da cyflogwr, gan wneud denu a chadw talent yn anodd.

  • Cymhlethdodau gyda threfniadau cyflenwi staff a llif gwaith

Gall cyflenwi ar gyfer gweithwyr absennol fod yn gymhleth ac yn aflonyddgar, gan arwain at aneffeithlonrwydd llif gwaith a mwy o straen i weithwyr presennol, gan leihau cynhyrchiant a morâl cyffredinol yn y pen draw.

Dylai rheoli absenoldeb fod yn fater o flaenoriaeth uchel i fusnesau Cymru, gan fod data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn awgrymu bod gan Gymru’r gyfradd absenoldeb uchaf yn y DU yn 2022, tuedd a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

 

Ffigur 1: Cyfradd absenoldeb salwch, yn ôl gwlad breswylio (DU), 2022

 

 

Mae’r SYG hefyd yn adrodd ynghylch y canlynol yng Nghymru:

  • Cynyddodd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch, sy’n mesur canran yr oriau gwaith a gollwyd oherwydd salwch neu anaf, i bron i 4% yn 2022. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o bron i un pwynt canran o gymharu â 2021 a dyma’r gyfradd uchaf a gofnodwyd ers 2001, pan oedd hefyd bron i 4%.
  • Amcangyfrifir bod 11.6 miliwn o ddiwrnodau gwaith wedi'u colli oherwydd salwch neu anaf yn 2022

 

Ffigur 2:    Canran yr achosion o absenoldeb oherwydd salwch, yn ôl y pum prif reswm, y DU, 2019 i 2022

 

 

Nodiadau:

*Mae 'Arall' yn cynnwys damweiniau, gwenwyno, clefydau heintus, anhwylderau'r croen, diabetes ac unrhyw beth arall nad yw wedi'i gynnwys.

* Mae cyflyrau anadlol yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynnwys cyflyrau cyffredin fel asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), canser yr ysgyfaint, heintiau fel niwmonia a’r ffliw

Mae Ffigur 2, a gynhyrchwyd gan y SYG, yn dangos canran yr achosion o absenoldeb oherwydd salwch yn y DU, wedi’u categoreiddio yn ôl y pum prif reswm rhwng 2019 a 2022. Yn ôl y SYG, yn ystod y cyfnod hwn:

  • Roedd salwch fel annwyd a’r ffliw, poen stumog, cur pen, a meigryn yn parhau i fod yn brif achosion absenoldeb salwch tymor byr.
  • Aeth cyflyrau anadlol y tu hwnt i gyflyrau iechyd meddwl i ddod y pedwerydd rheswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb salwch yn 2022, gan gyfrif am dros ddwywaith cyfran y digwyddiadau cyn y pandemig.

 

Sut i reoli absenoldeb salwch

Dylai fod gan sefydliadau bolisi absenoldeb salwch cynhwysfawr ar waith i reoli absenoldeb salwch yn effeithiol. Dylid gwneud ymdrechion i sicrhau bod pob gweithiwr yn ei ddeall, a dylai rheolwyr llinell gael hyfforddiant ar sut i'w weithredu.

Gallai camau i reoli absenoldeb salwch gynnwys:

 

Absenoldeb cysylltiedig ag anabledd

Mae person yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ‘sylweddol’ a ‘hirdymor’ ar ei allu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol.

Bydd angen i rai gweithwyr gymryd absenoldeb o'r gwaith oherwydd rhesymau'n ymwneud â'u hanabledd. Gelwir hyn yn absenoldeb anabledd. Er enghraifft, gallai eu hanabledd wneud iddynt deimlo’n rhy sâl i fynychu’r gwaith o bryd i’w gilydd, neu efallai y bydd angen amser i ffwrdd arnynt i fynychu apwyntiadau meddygol, triniaeth neu therapi. Mae'n hanfodol bod gennych bolisi absenoldeb anabledd ar wahân ac nad ydych yn trin absenoldeb salwch ac absenoldeb sy'n gysylltiedig ag anabledd yn yr un modd.

I gael gwybod sut i gefnogi absenoldebau cysylltiedig ag anabledd, gweler ein tudalen we cyflyrau iechyd a namau.

 

Hybu Iechyd a Llesiant yn y Gweithle

Mae gan gyflogwyr rôl i annog gweithwyr cyflogedig i ofalu am eu hiechyd meddwl a chorfforol trwy hybu dewisiadau ffordd iach o fyw. Mae'r CIPD yn argymell gweithredu strategaeth iechyd a llesiant i ddangos ymrwymiad y sefydliad i gefnogi iechyd gweithwyr. Gallai’r strategaeth gynnwys y canlynol:

  • Ymgyrchoedd cenedlaethol a diwrnodau ymwybyddiaeth: defnyddiwch y cyfleoedd hyn i rannu gwybodaeth am bynciau iechyd penodol a dangos cefnogaeth gan uwch arweinwyr.
  • Cefnogi diwylliant agored: annog diwylliant yn y gweithle sy'n creu deialog agored a gonest am iechyd meddwl a chorfforol.
  • Hyrwyddo arferion gweithio hyblyg: lle bo modd, cefnogi trefniadau gweithio hyblyg i ddarparu ar gyfer anghenion iechyd a llesiant gweithwyr.

I gefnogi eich gweithwyr i aros yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol ac i leihau absenoldebau salwch, edrychwch ar ein tudalennau pynciau eraill ar wefan Cymru Iach ar Waith.

 

'Dychwelyd i'r Gwaith' - Cefnogi Gweithwyr

Mae cefnogi gweithwyr i ddychwelyd i'r gwaith yn elfen hanfodol o gynnal gweithle iach a chynhyrchiol. Mae'n hanfodol sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u paratoi wrth iddynt drosglwyddo yn ôl i'w rolau. Dyma elfennau allweddol i’w hystyried:

 

Monitro Presenoldeb

Mae gweithredu system rheoli presenoldeb yn galluogi cyflogwyr i fonitro absenoldebau gweithwyr ar lefel sefydliadol, gan sicrhau bod data’n cael ei goladu’n ddienw. Drwy sefydlu prosesau clir ar gyfer monitro a mynd i'r afael â materion presenoldeb, gall cyflogwyr gefnogi eu gweithlu yn rhagweithiol a lleihau absenoldeb cyffredinol trwy.

  • Nodi pwyntiau ymyrraeth

Cydnabod pryd y gall fod angen cymorth neu ymyrraeth ar weithwyr neu dimau penodol.

  • Gosod targedau absenoldeb

Defnyddio’r data a gasglwyd i sefydlu a chyflawni targedau ar gyfer lleihau absenoldebau. Dylai'r targedau hyn fod yn seiliedig ar ymdrech ar y cyd i ddeall a lliniaru'r rhesymau dros absenoldebau.

Agweddau allweddol ar y system:

  • Casglu data

Casglu data dienw ar hyd absenoldebau a’r rhesymau dros absenoldebau tymor byr a thymor hir.

  • Categorïau absenoldeb

Gwahaniaethu rhwng absenoldebau cyffredinol ac absenoldebau cysylltiedig ag anabledd, gan eu trin fel categorïau ar wahân i sicrhau eglurder.

  • Absenoldebau mynych

Ystyried olrhain nifer yr absenoldebau mynych i nodi patrymau a meysydd sydd angen sylw.

Trosolwg ac argymhellion:

  • Sefydlu grŵp goruchwylio

Ffurfio grŵp penodol i oruchwylio'r broses fonitro, adolygu data a gwneud argymhellion ar gyfer ymyriadau a gwelliannau.

  • Arolygon gweithwyr

Cynnal arolygon gweithwyr rheolaidd i gasglu adborth a mewnbwn ar amodau’r gweithle ac achosion posibl absenoldebau. Gellir hwyluso hyn trwy offer arolwg ar-lein i sicrhau cyfranogiad eang ac anhysbysrwydd.

Noder: Rhaid i gyflogwyr gydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 (DPA) wrth gasglu a defnyddio data sy’n ymwneud ag absenoldeb gweithwyr.

 

 

Dyddiadau Allweddol

Mae'r ymgyrchoedd canlynol yn gyfleoedd defnyddiol ar gyfer gweithgareddau yn y gweithle a chodi ymwybyddiaeth, yn aml yn darparu adnoddau gwerthfawr i gyflogwyr eu defnyddio ar draws eu sefydliad.

Misoedd

Ymgyrch

Chwefror

Diwrnod Amser i Siarad (diwrnod ymwybyddiaeth iechyd meddwl mwyaf y DU)

Ebrill

Mis Ymwybyddiaeth Straen

Mai

Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang (GAAD)

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Mehefin

Wythnos Anableddau Dysgu

Hydref

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Wythnos Genedlaethol Bywyd a Gwaith

Diwrnod Ymwybyddiaeth Menopos

Tachwedd

Mis Anabledd y DU

 

 Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen

Rhagfyr

Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau