Beth yw rheoli absenoldeb salwch?
Pam mae rheoli absenoldeb salwch yn bwysig?
Sut i reoli absenoldeb salwch
Cefnogi gweithwyr i ddychwelyd i'r gwaith
Monitro Presenoldeb
Adnoddau a gwybodaeth bellach
Dyddiadau Allweddol
Mae rheoli absenoldeb salwch yn cwmpasu sut mae cyflogwyr yn monitro, yn mynd i'r afael â gweithwyr nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd salwch neu faterion sy'n ymwneud ag iechyd, ac yn eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau sydd â'r nod o leihau effaith absenoldebau ar gyflogwyr gan sicrhau bod cyflogeion yn cael cymorth priodol.
Mae rheoli absenoldeb yn effeithiol yn hanfodol i’r cyflogai a’r cyflogwr:
Trwy ddeall a gweithredu arferion rheoli absenoldeb salwch effeithiol, gall cyflogwyr greu gweithle iachach, mwy cynhyrchiol sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.
Bydd y rhan fwyaf o absenoldebau a gymerir yn y gweithle yn absenoldebau tymor byr. Absenoldeb salwch tymor byr yw pan na all cyflogai ddod i’r gwaith oherwydd afiechyd neu salwch am lai na phedair wythnos.
Absenoldeb salwch hirdymor yw pan fydd angen i weithiwr gymryd mwy na phedair wythnos o absenoldeb salwch. Mae cefnogi staff â chyflyrau hirdymor yn agwedd bwysig ar weithle cynhwysol a chynhyrchiol. Yr achos mwyaf cyffredin o absenoldebau hirdymor yn y flwyddyn ddiwethaf oedd salwch yn ymwneud ag iechyd meddwl, megis iselder clinigol a gorbryder, ac yna anafiadau corfforol mwy difrifol.
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn 2023 gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) a Simplyhealth, mân afiechydon (94%), anafiadau cyhyrysgerbydol (45%) a phroblemau iechyd meddwl (39%) oedd y prif resymau dros absenoldeb tymor byr. Roedd absenoldeb hirdymor yn cael ei yrru’n bennaf gan broblemau iechyd meddwl (63%), cyflyrau meddygol acíwt fel strôc neu ganser (51%), ac anafiadau cyhyrysgerbydol (51%).
Dylai cyflogwyr reoli absenoldebau salwch yn effeithiol er mwyn blaenoriaethu llesiant gweithwyr tra'n cynnal cynhyrchiant. Mae cefnogi gweithwyr yn ystod eu habsenoldeb yn creu amgylchedd gwaith iachach a mwy cadarnhaol.
Gall absenoldebau salwch effeithio ar y gweithlu mewn nifer o ffyrdd:
Mae absenoldeb cydweithwyr gwerthfawr yn lleihau morâl ac yn creu ansefydlogrwydd, gan effeithio ar ymgysylltiad a chymhelliant.
Gall cydlyniant tîm a chynhyrchiant ddioddef oherwydd yr addasiad sydd ei angen pan fo aelod allweddol yn absennol.
Mae absenoldebau staff medrus yn arwain at fylchau mewn arbenigedd, gan effeithio ar ansawdd ac effeithlonrwydd gwaith.
Mae absenoldebau hirdymor yn amharu ar brosiectau a phrosesau, gan achosi oedi.
Gall y staff sydd ar ôl wynebu mwy o straen oherwydd ailddosbarthu cyfrifoldebau.
O safbwynt cyflogwr, gall rheoli absenoldeb gwael arwain at y canlynol:
Gall dod o hyd i weithwyr newydd a’u hyfforddi i gymryd lle staff gwerthfawr fod yn gostus a chymryd llawer o amser, gan roi straen ar adnoddau a chyllideb.
Mae absenoldebau yn amharu ar lif gwaith a llinellau amser prosiectau, gan arwain at golli cynhyrchiant a llai o ansawdd ac effeithlonrwydd gwaith.
Gall cyfraddau absenoldeb uchel niweidio enw da cyflogwr, gan wneud denu a chadw talent yn anodd.
Gall cyflenwi ar gyfer gweithwyr absennol fod yn gymhleth ac yn aflonyddgar, gan arwain at aneffeithlonrwydd llif gwaith a mwy o straen i weithwyr presennol, gan leihau cynhyrchiant a morâl cyffredinol yn y pen draw.
Dylai rheoli absenoldeb fod yn fater o flaenoriaeth uchel i fusnesau Cymru, gan fod data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn awgrymu bod gan Gymru’r gyfradd absenoldeb uchaf yn y DU yn 2022, tuedd a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Ffigur 1: Cyfradd absenoldeb salwch, yn ôl gwlad breswylio (DU), 2022
Mae’r SYG hefyd yn adrodd ynghylch y canlynol yng Nghymru:
Ffigur 2: Canran yr achosion o absenoldeb oherwydd salwch, yn ôl y pum prif reswm, y DU, 2019 i 2022
Nodiadau:
*Mae 'Arall' yn cynnwys damweiniau, gwenwyno, clefydau heintus, anhwylderau'r croen, diabetes ac unrhyw beth arall nad yw wedi'i gynnwys.
* Mae cyflyrau anadlol yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynnwys cyflyrau cyffredin fel asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), canser yr ysgyfaint, heintiau fel niwmonia a’r ffliw
Mae Ffigur 2, a gynhyrchwyd gan y SYG, yn dangos canran yr achosion o absenoldeb oherwydd salwch yn y DU, wedi’u categoreiddio yn ôl y pum prif reswm rhwng 2019 a 2022. Yn ôl y SYG, yn ystod y cyfnod hwn:
Dylai fod gan sefydliadau bolisi absenoldeb salwch cynhwysfawr ar waith i reoli absenoldeb salwch yn effeithiol. Dylid gwneud ymdrechion i sicrhau bod pob gweithiwr yn ei ddeall, a dylai rheolwyr llinell gael hyfforddiant ar sut i'w weithredu.
Gallai camau i reoli absenoldeb salwch gynnwys:
Absenoldeb cysylltiedig ag anabledd
Mae person yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 os oes ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ‘sylweddol’ a ‘hirdymor’ ar ei allu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol.
Bydd angen i rai gweithwyr gymryd absenoldeb o'r gwaith oherwydd rhesymau'n ymwneud â'u hanabledd. Gelwir hyn yn absenoldeb anabledd. Er enghraifft, gallai eu hanabledd wneud iddynt deimlo’n rhy sâl i fynychu’r gwaith o bryd i’w gilydd, neu efallai y bydd angen amser i ffwrdd arnynt i fynychu apwyntiadau meddygol, triniaeth neu therapi. Mae'n hanfodol bod gennych bolisi absenoldeb anabledd ar wahân ac nad ydych yn trin absenoldeb salwch ac absenoldeb sy'n gysylltiedig ag anabledd yn yr un modd.
I gael gwybod sut i gefnogi absenoldebau cysylltiedig ag anabledd, gweler ein tudalen we cyflyrau iechyd a namau.
Mae gan gyflogwyr rôl i annog gweithwyr cyflogedig i ofalu am eu hiechyd meddwl a chorfforol trwy hybu dewisiadau ffordd iach o fyw. Mae'r CIPD yn argymell gweithredu strategaeth iechyd a llesiant i ddangos ymrwymiad y sefydliad i gefnogi iechyd gweithwyr. Gallai’r strategaeth gynnwys y canlynol:
I gefnogi eich gweithwyr i aros yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol ac i leihau absenoldebau salwch, edrychwch ar ein tudalennau pynciau eraill ar wefan Cymru Iach ar Waith.
Mae cefnogi gweithwyr i ddychwelyd i'r gwaith yn elfen hanfodol o gynnal gweithle iach a chynhyrchiol. Mae'n hanfodol sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u paratoi wrth iddynt drosglwyddo yn ôl i'w rolau. Dyma elfennau allweddol i’w hystyried:
Mae gweithredu system rheoli presenoldeb yn galluogi cyflogwyr i fonitro absenoldebau gweithwyr ar lefel sefydliadol, gan sicrhau bod data’n cael ei goladu’n ddienw. Drwy sefydlu prosesau clir ar gyfer monitro a mynd i'r afael â materion presenoldeb, gall cyflogwyr gefnogi eu gweithlu yn rhagweithiol a lleihau absenoldeb cyffredinol trwy.
Cydnabod pryd y gall fod angen cymorth neu ymyrraeth ar weithwyr neu dimau penodol.
Defnyddio’r data a gasglwyd i sefydlu a chyflawni targedau ar gyfer lleihau absenoldebau. Dylai'r targedau hyn fod yn seiliedig ar ymdrech ar y cyd i ddeall a lliniaru'r rhesymau dros absenoldebau.
Agweddau allweddol ar y system:
Casglu data dienw ar hyd absenoldebau a’r rhesymau dros absenoldebau tymor byr a thymor hir.
Gwahaniaethu rhwng absenoldebau cyffredinol ac absenoldebau cysylltiedig ag anabledd, gan eu trin fel categorïau ar wahân i sicrhau eglurder.
Ystyried olrhain nifer yr absenoldebau mynych i nodi patrymau a meysydd sydd angen sylw.
Trosolwg ac argymhellion:
Ffurfio grŵp penodol i oruchwylio'r broses fonitro, adolygu data a gwneud argymhellion ar gyfer ymyriadau a gwelliannau.
Cynnal arolygon gweithwyr rheolaidd i gasglu adborth a mewnbwn ar amodau’r gweithle ac achosion posibl absenoldebau. Gellir hwyluso hyn trwy offer arolwg ar-lein i sicrhau cyfranogiad eang ac anhysbysrwydd.
Noder: Rhaid i gyflogwyr gydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 (DPA) wrth gasglu a defnyddio data sy’n ymwneud ag absenoldeb gweithwyr.
Mae'r ymgyrchoedd canlynol yn gyfleoedd defnyddiol ar gyfer gweithgareddau yn y gweithle a chodi ymwybyddiaeth, yn aml yn darparu adnoddau gwerthfawr i gyflogwyr eu defnyddio ar draws eu sefydliad.
Misoedd |
Ymgyrch |
Chwefror |
Diwrnod Amser i Siarad (diwrnod ymwybyddiaeth iechyd meddwl mwyaf y DU) |
Ebrill |
|
Mai |
|
Mehefin |
|
Hydref |
|
Tachwedd |
|
|
|
Rhagfyr |