Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau a Gwybodaeth Bellach

Rheoli Absenoldeb Salwch

Mae rheoli absenoldeb salwch yn effeithiol yn bwysig i gefnogi llesiant gweithwyr yn ogystal â chynnal cynhyrchiant. Mae'r canlynol yn nodi amrywiaeth o adnoddau i helpu i lywio cymhlethdodau rheoli absenoldeb oherwydd salwch.

  • Busnes Cymru: Gwybodaeth, arweiniad a chymorth i fusnesau yng Nghymru.
    • Cymorth Cyflogwyr: Mae’n cynnig cyngor a chymorth ar reoli absenoldeb salwch, gan gynnwys rhwymedigaethau cyfreithiol ac arferion gorau.
    • Adnoddau Iechyd a Llesiant: Mae’n darparu adnoddau i helpu cyflogwyr i greu gweithle iach a lleihau absenoldeb salwch.
  • Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS): Mae’n darparu arweiniad, hyfforddiant a chyngor arferion gorau ar greu a gweithredu polisïau rheoli absenoldeb. Mae hyn yn cynnwys templedi, gweithdai a chymorth llinell gymorth i gyflogwyr reoli absenoldeb salwch yn deg ac yn gyson.
    • Rheoli Absenoldeb: Mae’n cynnig arweiniad manwl ar reoli absenoldeb salwch, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau ac arferion gorau.
    • Hyfforddiant a Gweithdai: Mae’n darparu sesiynau hyfforddi a gweithdai ar reoli presenoldeb ac absenoldeb salwch.
  • Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) : Mae’n darparu canllawiau cynhwysfawr, adnoddau, a fframweithiau rheoleiddio i greu gweithleoedd diogel ac iach. Mae HSE yn cynnig offer ymarferol i helpu cyflogwyr i leihau lefelau absenoldeb oherwydd salwch a hwyluso dychweliad cyflogeion i'r gwaith.
  • NHS Employers: Mae’n cynnig adnoddau, pecynnau cymorth ac arweiniad ar arferion gorau ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch a llesiant gweithwyr.
  • Nodyn Ffitrwydd: Canllawiau i helpu cyflogwyr a gweithwyr i reoli absenoldeb salwch a chefnogi staff â chyflyrau hirdymor i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith.