Proses o heneiddio naturiol a brofir gan fenywod yw’r menopos sy’n digwydd fel arfer rhwng 45 a 55 oed, wrth i lefelau estrogen ddirywio. Gall ddigwydd yn gynharach oherwydd llawdriniaeth neu salwch a gall rhai unigolion brofi symptomau yn eu 20au neu 30au yn ystod y cyfnod perimenopos. Gall y cam hwn effeithio ar ddynion traws, unigolion anneuaidd a hyd yn oed rhai menywod traws, gan amlygu'r angen am arferion gweithle cynhwysol .
Er mwyn cefnogi menywod yn well, dylai cyflogwyr gynnig gwybodaeth glir, offer defnyddiol i helpu gyda phenderfyniadau, a gwneud newidiadau syml yn y gweithle i greu amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol.
Mae symptomau yn aml yn dechrau flynyddoedd cyn y menopos (perimenopos) a gallant bara am sawl blwyddyn, gan effeithio ar gynhyrchiant, presenoldeb a llesiant
Gall symptomau cyffredin menopos, fel pyliau o wres, lludded, aflonyddwch cwsg, poen yn y cymalau a niwl meddwl, effeithio'n sylweddol ar berfformiad. Mae astudiaethau'n (dolen Saesneg yn unig) dangos y gall menopos arwain at:
Fodd bynnag, mae menopos yn effeithio ar bawb yn wahanol ac nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr o symptomau - gall heriau seicogymdeithasol fel hwyliau ansad, gorbryder, neu hunan-barch isel fod yn bresennol hefyd. Mae’n bwysig i gyflogwyr gydnabod nad yw profiadau pob menyw gyda’r menopos yr un fath, gan amlygu’r angen i ddarparu cymorth wedi’i deilwra sy’n mynd i’r afael ag anghenion unigryw pob unigolyn.
Gyda menywod yn cynrychioli cyfran sylweddol o’r gweithlu a phobl yn gweithio’n hirach, mae creu amgylchedd gwaith cefnogol a hyblyg yn hanfodol.
Mae cefnogi gweithwyr wed’r menopos nid yn unig yn ymwneud â chydraddoldeb, ond hefyd cydymffurfiad cyfreithiol a llwyddiant busnes. Gall methu â mynd i’r afael â’r menopos yn y gweithle arwain at y canlynol:
Mae’n bwysig i gyflogwyr godi ymwybyddiaeth a normaleiddio sgyrsiau am y menopos ar draws y gweithlu cyfan, gan gynnwys menywod sy’n profi neu’n agosáu at y menopos, menywod iau a gweithwyr gwrywaidd, er enghraifft:
Mae'r ymgyrchoedd canlynol yn gyfleoedd defnyddiol ar gyfer gweithgareddau yn y gweithle a chodi ymwybyddiaeth, yn aml yn darparu adnoddau gwerthfawr i gyflogwyr eu defnyddio ar draws eu sefydliad.
Misoedd |
Ymgyrch |
18 Hydref |
Diwrnod Menopos y Byd (dolen Saesneg yn unig) |