Mae nifer o adnoddau ar gael i helpu cyflogwyr i fynd i’r afael â’r menopos yn y gweithle:
Mae’r Sefydliad Safonau Prydeinig wedi datblygu BS 30416:2023 Menstruation, Menstrual Health a Menopause in the Workplace (Saesneg yn unig), sef canllaw cynhwysfawr sy’n cynnig cyngor manwl i gyflogwyr, gydag adran benodol wedi’i theilwra i fentrau bach a chanolig (BBaCh) ar gyfer cefnogi iechyd mislif a’r menopos yn y Gweithle.
Mae’r Sefydliad Safonau Prydeinig hefyd wedi creu The Little Book of Menstruation, Menstrual Health and Menopause (Saesneg yn unig) sy’n rhoi cyngor ac awgrymiadau syml ac ymarferol ar gyfer creu amgylchedd gwaith cefnogol sy’n cynnwys y mislif a’r menopos.
Mae Canllaw’r Cyfadran Meddygaeth Alwedigaethol (FOM) Guidance on menopause and the workplace (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i wella amgylcheddau yn y gwaith.
Mae Business in the Community (BITC) yn cynnig Pecyn Cymorth Busnes yn y Gymuned (Saesneg yn unig).
Mae UNSAIN (Saesneg yn unig) a TUC Cymru (Saesneg yn unig) wedi datblygu pecynnau cymorth a pholisïau enghreifftiol i helpu i greu amgylcheddau cyfeillgar i’r menopos.