“Rydym yn cyfeirio staff at wasanaethau perthnasol os oes angen ac yn tynnu sylw at wybodaeth ac ymgyrchoedd penodol yn ystod cyfarfodydd. Mae hyn yn rhoi cychwyn da ar gyfer sgwrsio am wahanol safbwyntiau a syniadau ar faterion iechyd meddwl.”
Mae meithrinfa Abacus wedi'i lleoli yn ardal Pantygwydr yn Abertawe. Mae’n gweithredu mewn amgylchedd cartrefol o dŷ wedi'i addasu ac mae’n cynnig darpariaeth ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Gallwn gymryd hyd at 43 o blant bob dydd ac mae gennym 18 aelod o staff.
Rydym yn gweithredu mentrau Llywodraeth Cymru gan gynnwys cwricwlwm datblygiadol y Cyfnod Sylfaen a Chynllun Gwên, sef rhaglen hybu iechyd y geg. Yn ogystal â Gwobrau Efydd ac Arian Iechyd y Gweithle Bach Cymru Iach ar Waith, rydym wedi cyflawni ein gwobr Ansawdd i Bawb, gwobr Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy, Gwobr Meithrinfa Ddiogel yn yr Haul, Gwobr Corff Iach, Meddwl Iach, Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur a 5 seren am Iechyd yr Amgylchedd. Ym mis Mai 2019, gwnaethom ennill y Lleoliad Blynyddoedd Cynnar Gorau yng Nghymru (a ddyfarnwyd gan Blynyddoedd Cynnar Cymru).
Rydym yn buddsoddi yn iechyd a lles ein haelodau staff, er enghraifft trwy gynnig dosbarthiadau ioga wythnosol gydag athro cymwys, a chefnogi eu datblygiad proffesiynol parhaus trwy gyrsiau a hyfforddiant a gymeradwyir yn ddibynadwy.
Nod Meithrinfa Abacus yw:
Mae defnyddio Olwyn Lles gyda staff yn ganolog i'n dull - mae'r Olwyn yn canolbwyntio ar bob agwedd ar fywyd sy'n effeithio ar iechyd meddwl unigolyn gan gynnwys ei fywyd gwaith. Mae staff yn ei chwblhau yn ein cyfarfodydd lles rheolaidd ac mae hyn yn arwain at gyfleoedd i reolwyr llinell drafod unrhyw faterion sy'n cyfrannu at straen a nodir mewn ymatebion unigol. Rydyn ni bob amser yn rhoi gwybod i staff ein bod ni yma i gefnogi ni waeth beth yw eu hanghenion.
Mae cyfathrebu dwy ffordd â staff hefyd yn rhan allweddol o'n strategaeth. Rydym yn defnyddio cyfarfodydd staff rheolaidd a grŵp WhatsApp staff i dynnu sylw at gyflawniadau unigol ac ar y cyd a dathliadau fel penblwyddi ac i drefnu cyfleoedd i ddod at ein gilydd. Yn ystod y pandemig, arhosodd y feithrinfa ar agor - roedd staff yn yr adeilad yn cael sgyrsiau rheolaidd ac roedd aelodau o staff ar ffyrlo yn galw heibio am sgyrsiau gydag aelodau eraill o staff.
Mae ein grŵp WhatsApp yn caniatáu i staff rhan-amser ac amser llawn wybod beth sy'n digwydd yn y feithrinfa, beth yw eu rôl nhw, a'u bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi. Mae'n rhoi ymdeimlad o berthyn i bawb a gallwn rannu gwybodaeth am ddod o hyd i gefnogaeth os oes ei hangen ar unrhyw un. Mae cynnwys yr holl staff trwy'r sianel hon wedi bod yn werth chweil gan ei fod yn codi calonnau staff. Mae gan ein rheolwyr bolisi drws agored hefyd fel y gall pob aelod o staff gysylltu â ni i drafod unrhyw faterion sydd ganddyn nhw neu heriau y gallen nhw fod yn eu hwynebu.
Mae cyflawni Gwobr Arian Cymru Iach ar Waith a gweithio tuag at y Wobr Aur wedi agor ein llygaid i'r ystod eang o sefydliadau a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a lles sydd ar gael ar lefel leol a chenedlaethol. Rydym yn cyfeirio staff at wasanaethau perthnasol os oes angen ac rydym yn tynnu sylw at wybodaeth ac ymgyrchoedd penodol yn ystod cyfarfodydd. Mae hyn yn rhoi cychwyn da ar gyfer sgwrsio gydag aelodau staff am wahanol safbwyntiau a syniadau ar faterion iechyd meddwl. Mae gennym bolisïau cynhwysfawr ar bynciau a allai effeithio ar iechyd meddwl fel bwlio ac aflonyddu ac yn ystod y broses Gwobr Arian gwnaethom ganolbwyntio ar y rhain ynghyd â chyfoeth o wybodaeth arall a gyfeiriwyd atom trwy Cymru Iach ar Waith.