Mae Cymru Iach ar Waith wedi gweithio gyda deiliaid gwobrau i ddatblygu astudiaethau achos sy'n dogfennu eu hymatebion i'r pandemig. Mae adroddiad trosfwaol yn rhoi cyd-destun i'r gyfres o astudiaethau achos ac yn cynnwys uchafbwyntiau gan bob un.
Mae pob astudiaeth achos unigol yn taflu goleuni ar y mathau o heriau a chyfleoedd sy'n wynebu pob cyflogwr yng Nghymru o ganlyniad i bandemig Covid-19. Maent yn dangos y ffyrdd creadigol y mae cyflogwyr wedi ymateb, gan flaenoriaethu iechyd a llesiant eu staff ac ymgorffori ffyrdd newydd o weithio a fydd, mewn llawer o achosion, yn parhau ar ôl Covid-19.