Neidio i'r prif gynnwy

Cyffredinrwydd clefydau anadlol – tueddiadau, ffactorau risg a rhagamcaniadau 10 mlynedd

Awduron: Rhys Powell, Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk 

Diolch yn fawr am ddarparu tystiolaeth a sylwadau ychwanegol i: Clare Withey, Scott Wright, Llion Davies, Louisa Nolan, Nathan Lester, Rhian Hughes, Sarah Jones, Paul Callow, Huw Brunt, Amber Horton, Sian Evans, Anthony Gibson, Malorie Perry

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2025

 

1. Pwrpas 

Mae ffocws yr erthygl hon ar glefydau anadlol. Mae’n cynnwys:

  • Rhagamcaniadau newydd am glefydau anadlol hyd 2033/34

  • Trafodaeth am y ffactorau risg sy’n gyrru’r rhagamcaniadau hyn

  • Effaith clefyd anadlol ar y GIG 

  • Crynodeb o weithgareddau’r system iechyd i fynd i’r afael â chyffredinrwydd a chanlyniadau iechyd clefydau anadlol.

Yr erthygl hon yw’r bumed yn ein cyfres sy’n edrych ar dueddiadau a rhagamcaniadau rhai o’r clefydau anhrosglwyddadwy mwyaf cyffredin yng Nghymru.

Mae’r term clefyd anadlol yn cyfeirio at amrywiaeth o anhwylderau sy’n effeithio ar lwybrau anadlu a ffurfiadau eraill yr ysgyfaint.  Mae’r erthygl hon yn ymdrin â’r clefydau anadlol a’r ffactorau risg y mae gennym ddata ar eu cyfer, yn cynnwys archwilio anghydraddoldebau posibl lle bo modd. Nid oedd data ar gael am rai agweddau o glefyd anadlol ar gyfer ein dadansoddiad.  Mae’r erthygl hefyd yn rhestru rhai o’r gwasanaethau, rhaglenni, gwasanaethau ataliol a deddfwriaeth sy’n mynd i’r afael â chlefyd anadlol yng Nghymru.

Rydym yn rhagweld y bydd y gyfres hon o erthyglau’n ddefnyddiol i’r bobl hynny sy’n gwneud penderfyniadau, y rheiny sydd â diddordeb mewn ataliad, y cynllunwyr, ac yn wir unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhagamcaniadau am glefydau yn y dyfodol, a’u ffactorau risg sylfaenol.

Gellir lawrlwytho’r data i gyd o’r erthygl hon, ynghyd â rhai manylion ychwanegol. 
Mae’r erthyglau yn y gyfres yn cynnwys:

2. Penawdau 

  • Ar sail data cofrestru meddygon teulu yn hanesyddol, os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, rhagamcannir y bydd y nifer o gleifion ar gofrestri asthma a Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) yn cynyddu dros y 10 mlynedd nesaf. Rhagwelir y bydd asthma yn cynyddu i fwy na 256,000 o achosion wedi eu cofrestru a COPD i fwy na 84,000 (Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19, a Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru).

  • Rhwng 2009/10 a 2023/24, cynyddodd y nifer o gleifion ar y gofrestr asthma a gedwir gan feddygon teulu o tua 211,000 i 237,400, sef cynnydd o 13%. Roedd y nifer wedi bod yn cynyddu cyn COVID-19, ac yn ystod COVID-19 gostyngodd, ond mae’n uwch yn awr nag ydoedd cyn y pandemig (Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19 a Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru).

  • Yn yr un cyfnod, cynyddodd y nifer o gleifion ar y gofrestr COPD a gedwir gan feddygon teulu o tua 62,700 i 75,600, sef cynnydd o 21%. Roedd y nifer wedi bod yn cynyddu cyn COVID-19, ac yn ystod COVID-19 gostyngodd, ond mae’n uwch yn awr nag ydoedd cyn y pandemig (Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19, a Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru).

  • Mae’r rhai sy’n byw yn y bum ardal fwyaf difreintiedig yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) fwy na dwywaith mor debygol o farw o glefyd anadlol o’i gymharu â’r rhai sy’n byw yn y bum ardal leiaf difreintiedig. Yn 2023, y gyfradd farwoldeb wedi’i safoni yn ôl oedran ym mhumed ran fwyaf difreintiedig WIMD oedd 203 fesul 100,000 o’i gymharu â 91 ymhob 100,000 yn y lleiaf difreintiedig (Marwoldeb Iechyd Cyhoeddus, Amcangyfrifon Poblogaeth Canol Blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

  • Clefydau anadlol cronig (ICD-10 codau J40-J47) a ffliw a niwmonia (ICD-10 codau J09-J18) oedd yr achos sylfaenol mewn 3,666 o farwolaethau yng Nghymru yn 2023. Mae hyn yn cymharu â 3,796 o farwolaethau o ganlyniad i ddementia a chlefyd Alzheimer, sef prif achos marwolaeth (Marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, 2014 - 2023, ONS). 

 

3. Cynnwys

1. Pwrpas

2. Penawdau

3. Cynnwys

4. Trosolwg

5. Cyffredinrwydd a rhagamcaniadau

     5.1 Cyffredinrwydd Hanesyddol

     5.2 Rhagamcaniadau

     5.3 Demograffeg

6. Derbyniadau

7. Marwolaeth

8. Costau a thueddiadau

     8.1 Y gost gyffredinol

     8.2 Cost meddyginiaeth ar bresgripsiwn

     8.3 Strategaeth datgarboneiddio mewnanadlwyr

9. Imiwneiddio a Brechlynnau

     9.1 Crynodeb o'r rhaglen imiwneiddio clefydau anadlol

10. Ffactorau risg

     10.1 Ffactorau amgylcheddol

          10.1.1 Llygredd aer awyr agored

          10.1.2 Llygredd aer dan do a pheryglon amgylcheddol

     10.2 Newid hinsawdd

     10.3 Penderfynyddion ehangach – amddifadedd

11. Trosolwg o wasanaethau, rhaglenni, gwasanaethau ataliol a deddfwriaeth yng Nghymru

     11.1 Strategaethau a Deddfwriaeth

     11.2 Gwasanaethau

12. Ansawdd a dehongliad y data

     12.1 Y pandemig COVID-19

     12.2 Cyffredinrwydd data

     12.3 Dulliau rhagamcannu

     12.4 Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru

     12.5 Data arolwg a hunanadroddir

     12.6 Arolwg Iechyd Cymru

     12.7 Arolwg Cenedlaethol Cymru

     12.8 Llygredd aer

     12.9 Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)

     12.10 Presgripsiynau

13. Llwytho’r data i lawr

     13.1 Gellir llwytho i lawr y data yn yr erthygl hon – Excel

     13.2 Llwytho i lawr y data yn yr erthygl hon gyda dadansoddiadau ychwanegol - CSV

     13.3 Lawrlwythwch ddata ffactorau risg gyda dadansoddiadau ychwanegol- CSV

 

4. Trosolwg

Mae cyffredinrwydd clefydau anadlol wedi parhau’n sefydlog dros amser, ond mae nifer y bobl y nodir eu bod wedi cael diagnosis o glefydau anadlol wedi cynyddu ers 2009/10. Os bydd y patrwm hwn yn parhau, rhagamcannir y bydd y nifer o gleifion ar gofrestri a gedwir gan feddygol teulu’n cynyddu ymhellach erbyn 2033/34. Yn 2023/24, roedd tua 237,400 o bobl a 75,600 o bobl wedi eu cofrestru fel rhai ag asthma a Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint yn y drefn honno. Rhagamcannir y bydd hyn yn cynyddu i 256,400 a 84,800 yn y drefn honno erbyn 2033/34 (Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 – 2018/19, Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, 2019/20 – 2023/24, Llywodraeth Cymru).

Mae bwlch wedi bodoli, ac yn parhau i fodoli, rhwng y bumed ran fwyaf difreintiedig a’r bumed ran leiaf difreintiedig yng Nghymru yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD). Mae pobl o’r bumed ran fwyaf difreintiedig yn profi cyfraddau uwch o dderbyniadau brys oherwydd clefydau anadlol. Cyn y pandemig COVID-19, yn 2019/20 roedd 2,514 ymhob 100,000 o dderbyniadau yn y bumed ran fwyaf difreintiedig, o’i gymharu â 1,422 ymhob 100,000 yn y lleiaf difreintiedig.

Mae’r bobl sy’n byw yn y bumed ran fwyaf difreintiedig fwy na dwywaith mor debygol o farw o glefyd anadlol na’r rhai sy’n byw yn y bumed ran leiaf difreintiedig. Yn 2023, y gyfradd farwoldeb wedi’i safoni yn ôl oedran yn y bumed ran fwyaf difreintiedig oedd 203 fesul 100,000 o’i gymharu â 91 ymhob 100,000 yn y lleiaf difreintiedig (Marwoldeb Iechyd Cyhoeddus, Amcangyfrifon Poblogaeth Canol Blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Ymysg y ffactorau risg niferus ar gyfer clefyd anadlol mae ysmygu a llygredd aer. Yn ein herthygl am ffactorau risg tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer y bobl sy’n profi ymddygiadau nad ydynt yn iach, fel byw gyda gordewdra a diffyg symud corfforol, wedi bod yn cynyddu. Ond, roedd cyffredinrwydd ysmygu wedi gostwng. Cydnabyddir bod gan y DU un o’r polisïau rheoli tybaco mwyaf cynhwysfawr yn y byd (Cairney, 2019). Mae deddfwriaeth y DU wedi cynnwys gwahardd ysmygu mewn gweithleoedd a mannau cyhoeddus sydd wedi eu cau i mewn, atal gwerthu tybaco i bobl iau nag 18 oed a mandadu deunydd pecynnu plaen ar gyfer cynhyrchion tybaco. Mae’r rhain i gyd wedi cyfrannu at wneud ysmygu’n llai cyffredin.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth sydd wedi’i anelu at ymdrin â llygredd aer, Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) 2024. Mae hon yn nodi ymrwymiadau i godi ymwybyddiaeth pobl o’r effeithiau iechyd a achosir gan lygredd aer. Mae hefyd yn ymrwymo i ostwng llygredd aer. Mae’n cyflenwi’r Cynllun Aer Glan i Gymru sydd, yn ogystal ag ymdrin â llygredd aer, yn edrych ar ffyrdd o alluogi ac annog teithio llesol.  Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o lygredd aer dan do hefyd.  Gall llygredd aer dan do ddod o sawl ffynhonnell, yn cynnwys gwresogyddion sy'n llosgi coed neu lo a chemegau o chwistrellau glanhau.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

5. Cyffredinrwydd a rhagamcaniadau

5.1 Cyffredinrwydd Hanesyddol

Mae cyffredinrwydd yn fesur sy’n edrych ar faint o achosion hysbys o glefydau sydd yn y boblogaeth ar unrhyw bwynt penodol. Mae ein dadansoddiad yn defnyddio cyfraddau cyffredinol a chyfrifiadau. Nid yw cynnydd mewn cyfrifiadau’n golygu o anghenraid bod cynnydd yn y cyfraddau cyffredinrwydd oherwydd gallai nifer y boblogaeth gyfan gynyddu hefyd. Fodd bynnag, mae cyfrifiadau’n ddefnyddiol oherwydd maen nhw’n dangos i ni’r effaith bosibl ar y system, er enghraifft, y nifer o gleifion sydd angen derbyniad brys i’r ysbyty. Ymhellach, y cyfrifon yw’r mesuriad data mwyaf cyson sydd ar gael i ni dros gyfnod digon hir o amser i ganiatáu i ragamcaniadau gael eu cyfrifo. Mae cyfraddau cyffredinrwydd yn cynrychioli’r cyffredinrwydd go iawn am eu bod yn cymryd maint y boblogaeth i ystyriaeth ac yn dangos a yw’r sefyllfa’n gwaethygu mewn ffordd gymesur. Mae cyfrifon ar gael o 2009/10 drwy’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau a hyd at 2019/20 drwy’r Fframwaith Ansawdd a Gwelliant. Dim ond o 2019/20 y mae’r cyfraddau cyffredinrwydd ar gael drwy’r Fframwaith Ansawdd a Gwelliant. Mae rhai dadansoddiadau sydd wedi’u safoni yn ôl oedran ar gael yn ein Dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol.

Fel y dangosir yn ein herthygl cyffredinrwydd a rhagamcaniadau, mae nifer y bobl ar y cofrestri asthma anadlol a chlefyd COPD (Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint) a gedwir mewn meddygfeydd yng Nghymru wedi cynyddu dros y 13 mlynedd diwethaf (Tabl 1). Disgwylir cynnydd am fod y boblogaeth yn heneiddio, am fod achosion yn cael eu canfod yn well ac am fod y boblogaeth yn gyffredinol yn cynyddu. Gwelodd y cofrestri asthma a COPD ostyngiad yn y cyfrifiad rhwng 2020 a 2021 (Ffigur 1), cyn cynyddu yn y blynyddoedd dilynol.  Mae mynediad at sbirometreg, sef prawf gweithrediad yr ysgyfaint hanfodol a ddefnyddir wrth ddiagnosio a rheoli cyflyrau fel Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) ac asthma, wedi amrywio ledled Cymru ers blynyddoedd lawer (Llywodraeth Cymru, 2024).  Gall yr anghysondeb hwn o ran argaeledd, yn enwedig ar ôl y pandemig lle effeithiwyd ar wasanaethau (Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, 2022), ddylanwadu ar gywirdeb diagnosis o achosion newydd sy'n cael eu hychwanegu at y gofrestr.

Nifer y cleifion ar gofrestri sy’n ymwneud â chlefyd anadlol a gedwir gan feddygon teulu, y newid o 2009/10 hyd 2023/24 

Y Cyflwr Y cyfrifiad yn 2009/10 Y cyfrifiad yn 2023/24 Canran y cynnydd
Asthma 211,000 237,400 13%
COPD 62,700 75,600 21%

Tabl 1: Mae nifer y cleifion ar gofrestri clefydau anadlol a gedwir gan feddygon teulu wedi cynyddu dros amser. Disgwylir cynnydd am fod y boblogaeth yn heneiddio ac am ei bod hi’n haws darganfod y clefydau. Mae’r canrannau wedi eu talgrynu i’r rhif cyfan agosaf a’r cyfrifiadau i’r cant agosaf. (Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19, a Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru) 

 

Cyfrifiad asthma a COPD a gadwyd ar gofrestri cleifion a gedwir gan feddygon teulu a welwyd (2009/10 hyd 2023/24) ac a ragamcanwyd (2009/10 hyd 2023/24)

Asthma

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

COPD

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 1: Os yw’r tueddiadau presennol yn parhau, bydd nifer y bobl gydag asthma neu COPD ar gofrestri a gedwir gan feddygon teulu yn parhau i gynyddu. Fodd bynnag, bydd y ffaith bod ysmygu’n llai cyffredin, y dad-ddiwydianeiddio yng Nghymru a chyflwyniad y ddeddfwriaeth iechyd mwy tynn yn y gweithle, yn dylanwadu ar gyffredinrwydd COPD dros amser. Roedd y rhagamcanion cyfres amser (model ARIMA) yn dilyn y cyfrifiadau a welwyd. (Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19, a Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru).

Mae Tabl 2 yn dangos cyffredinrwydd (cyfradd fesul 100,000 o’r boblogaeth) clefydau anadlol ar gofrestri a gedwir gan feddygon teulu. Mae’r rhain wedi gostwng ychydig bach rhwng 2019/20 a 2023/24. (Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru).   

Y newid yn y gyfradd gyffredinrwydd ar gofrestri clefydau anadlol a gedwir gan feddygon teulu, 2019/20 hyd 2023/24 

Y cyflwr Canran cyffredinrwydd yn 2019/20 Canran cyffredinrwydd yn 2023/24
Asthma 7.4% 7.2%
COPD 2.4% 2.3%

Tabl 2: Mae’r gyfradd gyffredinrwydd wedi parhau’n sefydlog ers 2019/20.  Am fod hyn yn edrych ar y ganran o’r boblogaeth a effeithiwyd, ac nid ar nifer y cleifion yn unig, mae hyn yn dangos bod y cyffredinrwydd wedi parhau’n sefydlog (Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19, a’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru). 

Wrth ddehongli data cofrestri meddygon teulu, mae’n bwysig nodi y gallai newidiadau i bolisi a datblygiadau gofal iechyd gael effaith, fel cymhelliant i adnabod clefydau penodol neu wella canfyddiad clefydau, yn y drefn honno. Felly, gallai cynnydd yn y gyfradd gyffredinrwydd ar gofrestri adlewyrchu newid mewn casglu data yn hytrach na newid gwirioneddol yng nghyfradd cyffredinrwydd y boblogaeth. Mae cofrestri’n debygol o ddangos tangyfrifiad yng nghyffredinrwydd y boblogaeth oherwydd, yn y byd go iawn, ni fydd pob achos o’r clefyd yn cael ei gofnodi. Pan ddisodlwyd y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau gan y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd yn 2019/20, mae’n bosibl bod y newid mewn contract ar gyfer casglu data o ofal sylfaenol wedi arwain at newidiadau yn ansawdd y data - yn benodol, tangyfrif y data oherwydd codio o ansawdd is (Davies et al., 2025).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

5.2 Rhagamcaniadau

Rydym wedi edrych ar y data ar gofrestri a gedwir gan feddygon teulu a’i ragamcannu ymlaen 10 mlynedd, o’n pwynt data diweddaraf ym mis Ebrill 2024, i ragamcannu’r cyfrifiadau yn 2033/34. Nid ydym yn disgwyl i’r rhagamcaniadau hyn fod yn fanwl gywir, yn hytrach maen nhw’n dangos cyfeiriad y teithio tebygol os na fydd unrhyw beth arall yn newid yn y cyfamser. Er enghraifft, gallai cyflwyno polisi neu ymyriad deddfwriaethol fel y ddeddfwriaeth i ostwng ysmygu drwy waharddiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus ac mewn gweithleoedd wedi eu cau i mewn, gwerthu tybaco i bobl iau nag 18 oed a mandadu deunydd pecynnu plaen ar gyfer cynhyrchion tybaco, newid cyfeiriad y cyffredinrwydd go iawn i ffwrdd oddi wrth y cyfeiriad a ragamcannir. Mae rhagor o wybodaeth am y dull ar gael yn adran 12, neu gallwch gysylltu â ni drwy Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk

Y newid a ragwelir yn y nifer o gleifion ar gofrestri clefydau anadlol a gedwir gan feddygon teulu 2023/24 i 2033/34 

Y cyflwr Y cyfrifiad a ragamcannir yn 2033/34 Y cynnydd yn y canran
Asthma 7.4% 7.2%
COPD 2.4% 2.3%

 

Tabl 3: Tabl sy’n dangos cofrestri clefydau anadlol a gedwir gan feddygon teulu a’r newid a ragwelir yn y cyfrifiad, a’r newid canran y mae hyn yn ei gynrychioli. Rhagamcannir y bydd y cyfrifiadau cofrestri i gyd yn cynyddu rhwng y data a welwyd ddiwethaf, 2023/24, a 2033/34. Mae’r canrannau wedi eu talgrynu i’r rhif cyfan a’r cyfrifiadau i’r cant agosaf.  (Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau, 2009/10 i 2018/19, a’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, 2019/20 i 2023/24, Llywodraeth Cymru).

Fel y gwelwn yn Nhabl 3 a Ffigur 1, os yw’r tueddiadau cyfredol yn parhau, bydd nifer y cleifion ar y cofrestri hyn a gedwir gan feddygon teulu yn parhau i gynyddu dros y 10 mlynedd nesaf. Rhagwelir y bydd asthma’n cynyddu i fwy na 256,000 a COPD i fwy na 84,000.

Bydd hyn yn digwydd beth bynnag – yn rhannol – am fod y boblogaeth yn cynyddu, yn ogystal â’r gyfran o bobl hŷn yn y boblogaeth. Un o’r prif ffactorau risg ar gyfer clefyd anadlol yw ysmygu tybaco. Mae oddeutu 90% o achosion o COPD yn gysylltiedig ag ysmygu a gall ysmygu gynyddu amlder yr ymosodiadau ar gyfer y rhai gydag Asthma (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ffactor risg ar gyfer COPD a chymhlethdodau asthma). Gostyngodd cyffredinrwydd ysmygu rhwng 2003/04 a 2022/23, o 26% i 13% (Arolwg Iechyd Cymru, 2003/04 – 2015/16, Arolwg Cenedlaethol i Gymru 2016/17 - 2022/23, Llywodraeth Cymru). Gallai hyn, yn ei dro, arwain at olygu bod COPD yn llai cyffredin. Heblaw am ysmygu, mae cysylltiad â phethau galwedigaethol, fel cemegau a tharthau penodol, yn gysylltiedig ag 20% o achosion o COPD (30% mewn pobl sydd erioed wedi ysmygu) (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ffactor risg ar gyfer COPD). 

Rydym yn gwybod bod ysmygu ac amlygiad galwedigaethol yn cael effaith ychwanegol ar achosion o COPD, er enghraifft fel y disgrifir gan (Pallasaho et al. 2013).  Nid yw ein rhagamcanion yn gallu rhoi cyfrif am effeithiau ychwanegol. 

Wrth i nifer yr achosion o ysmygu yng Nghymru leihau, mae'r gweithlu wedi dad-ddiwydiannu a chyflwynwyd deddfwriaeth fwy llym i weithleodd er mwyn diogelu iechyd. Bydd hyn yn dylanwadu ar nifer yr achosion o COPD yn y dyfodol.       

Dychwelyd i'r cynnwys

 

5.3 Demograffeg

Yn gyffredinol, gall asthma effeithio ar bobl o bob oedran tra bo COPD yn cychwyn mewn oedolion, yn bennaf mewn pobl fwy oedrannus. Yn 2023/24, roedd asthma ar ei fwyaf cyffredin mewn benywod 65-69 oed, gyda chyffredinrwydd o 11.2% o’i gymharu ag 8.1% mewn dynion (Ffigur 2).

Roedd COPD ar ei fwyaf cyffredin yn y grŵp oedran 80-84. Mae’n fwy cyffredin mewn dynion, gyda 10.3% o ddynion 80-84 oed yn cael eu heffeithio, o’i gymharu ag 8.2% yn y boblogaeth fenywaidd. (Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, Llywodraeth Cymru).  Y rheswm am hyn yn rhannol yw ymddygiadau nad ydynt yn iach a hanes diwydiannol Cymru. Am ein bod wedi dad-ddiwydianeiddio fwy a mwy, a bod deddfwriaeth wedi sicrhau gwell diogelwch iechyd yn y swyddi diwydiannol sy’n weddill, mae’n debyg y bydd y proffiliau hyn yn newid dros y blynyddoedd nesaf.

Y pyramid poblogaeth i gofrestri clefydau anadlol a gedwir gan feddygon teulu 2023/24

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 2: Mae cyffredinrwydd COPD yn uwch mewn pobl hŷn ac mewn dynion. Mae asthma yn gyffredin ar draws yr holl oedrannau ac yn uwch mewn benywod.  (Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd, 2023/24, Llywodraeth Cymru).  

Dychwelyd i'r cynnwys

 

6. Derbyniadau

Roedd y mesurau a roddwyd ar waith i geisio lleihau lledaeniad COVID-19 wedi cael effaith gymhleth ar dderbyniadau ysbyty, ac nid oedd y tueddiadau mewn derbyniadau’n gymaradwy â derbyniadau cyn COVID. Bydd yr adran hon yn canolbwyntio ar dueddiadau hyd at 2019/20, gyda thrafodaeth ar wahân ar gyfer y data diweddar, ôl-bandemig.

Roedd y cyfraddau derbyniad brys ar gyfer clefydau anadlol oedd wedi eu safoni yn ôl oedran yn cynyddu cyn COVID-19, o 1,470 fesul 100,000 yn 2011/12 i 1,840 fesul 100,000 yn 2019/20, sef cynnydd o 25%.  (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru).    

Gostyngodd y cyfraddau derbyniadau yn ystod y pandemig. Mae cyfraddau derbyniad sydd wedi’u safoni yn ôl oedran wedi cynyddu ers 2020/21 i 1,504 fesul 100,000 yn 2022/23, ond maen nhw’n dal i fod yn is na’r lefelau cyn y pandemig.

Roedd cyfradd y derbyniadau brys ar gyfer clefydau anadlol gan bobl oedd yn byw yn y bumed ran fwyaf difreintiedig o Gymru’n llawer uwch na’r gyfradd ar gyfer y rheiny oedd yn byw yn y bumed ran leiaf difreintiedig rhwng 2011/12 a 2022/23 (Ffigur 3). Yn 2019/20, roedd y gyfradd derbyniad brys yn y bumed ran fwyaf difreintiedig oddeutu 77% yn uwch na’r bumed ran leiaf difreintiedig, 2,514 o oedolion fesul 100,000 o’i gymharu â 1,422 fesul 100,000 (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru). 

Cyn COVID-19, gostyngodd y gwahaniaeth rhwng y cyfraddau derbyniad brys yn y bumed ran fwyaf difreintiedig a’r bumed ran leiaf difreintiedig o 1,188 fesul 100,000 yn 2016/17 i 1,092 fesul 100,000 yn 2019/20. Er bod y cyfraddau yn gyffredinol yn is nag oedden nhw cyn y pandemig, maen nhw’n cynyddu ac mae’r bwlch amddifadedd wedi lledu. Yn 2020/21 y gwahaniaeth oedd 543 i bob 100,000 ac mae hyn wedi tyfu i 755 fesul 100,000 yn 2022/23. Dim ond tri phwynt data a gafwyd ar ôl y pandemig hyd yn hyn, mae’n rhy fuan i ddod i gasgliadau cadarn ynghylch tueddiadau.

Y derbyniadau brys ar gyfer clefyd anadlol (J00-J99) fesul pumed rhan amddifadedd, gyda’r gyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran (EASR) fesul 100,000

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 3: Mae’r gyfradd Ewropeaidd o dderbyniadau brys ar gyfer clefyd anadlol, wedi’i safoni yn ôl oedran, wedi cynyddu’n gyffredinol dros amser. Roedd gostyngiad mawr oherwydd COVID-19, gyda lefelau yn dal heb ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig. (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

Ers 2010, niwmonia yw prif achos derbyniadau brys i’r ysbyty ar gyfer clefydau anadlol. Yn 2019, sef y flwyddyn olaf o ddata cyn y pandemig, o’r 58,897 o dderbyniadau brys a gafwyd i’r ysbyty gyda chlefyd anadlol fel diagnosis sylfaenol, roedd 14,320 ohonynt oherwydd niwmonia (Ffigur 4). Mae hyn yn cynrychioli 24% o’r derbyniadau hyn (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru).  Mae’r cynnydd o un flwyddyn i’r llall yn debygol o fod wedi digwydd oherwydd nifer o ffactorau sy’n cynnwys niferoedd cynyddol o gydafiacheddau mewn poblogaeth sy’n heneiddio, tymhorau ffliw difrifol a hefyd newidiadau i godio diagnosis. Mae’n bwysig nodi nad yw’r duedd gynyddol hon wedi’i hadlewyrchu mewn niferoedd uwch o farwolaethau.

Er bod y data hwn yn canolbwyntio ar brif achosion derbyniad, mae’n bwysig ystyried amodau tanategol. Er enghraifft, mae cleifion sydd â COPD yn cael cyfnodau o waethygiad dwys a allai arwain at dderbyniad i’r ysbyty. Mae’r rhain yn cael eu hachosi’n aml gan heintiau (niwmonia mewn geiriau eraill), ac felly gallant gael eu codio fel niwmonia. Yn dilyn y pandemig, dechreuodd cyfraddau derbyniad gynyddu eto, a gwelwyd cynnydd cychwynnol llym ymhob math o glefyd, cyn iddynt ddechrau cynyddu’n fwy graddol.

Cyfrifiad y derbyniadau brys ar gyfer clefyd anadlol, yn ôl math

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 4: Mae derbyniadau brys ar gyfer niwmonia wedi gweld cynnydd mawr ers 2010, ond credir bod hyn yn ymwneud yn rhannol â chodio diagnosis, ac nid cynnydd go iawn mewn derbyniadau (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

7. Marwolaeth

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, clefydau anadlol cronig y llwybr anadlu isaf (ICD-10 codau J40-J47) a ffliw a niwmonia (ICD-10 codau J09-J18) oedd y ddau brif achos sylfaenol yn gyson am farwolaethau yng Nghymru. Mae’r niferoedd sy’n marw o glefyd anadlol cronig y llwybr anadlu isaf wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn ers 2020 ac, yn 2023, dyma oedd yr achos sylfaenol am 2,132 o farwolaethau.  Mae marwolaethau oherwydd ffliw a niwmonia wedi amrywio, a dyma oedd yr achos sylfaenol am 1,534 o farwolaethau yn 2023.  O gyfuno’r rhain, roedd y ddau grŵp clefyd anadlol hyn yn cyfrif am 3,666 o farwolaethau, 10% o’r holl farwolaethau yng Nghymru (Marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, 2014 - 2023, ONS).  Doedd y cyfuniad hwn ond ychydig bach yn is na’r brif achos marwolaeth, ‘dementia a chlefyd Alzheimer’, sef yr achos tanseiliol ar gyfer 3,796 o farwolaethau.  Mae’r ffigurau hyn wedi eu seilio ar achos sylfaenol marwolaeth, sef y clefyd neu’r anaf a gychwynnodd y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd yn uniongyrchol at farwolaeth.

Mae bwlch wedi bodoli erioed rhwng y pumed rhannau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn yr WIMD, gyda’r rhai sy’n byw yn y bumed ran fwyaf difreintiedig fwy na dwywaith mor debygol o farw o glefyd anadlol na’r rhai sy’n byw yn y bum rhan leiaf difreintiedig. Cyn y pandemig, roedd y bwlch hwn yn cynyddu, a’r gwahaniaeth ar ei fwyaf oedd 140 ymhob 100,000 yn 2018. Yn y flwyddyn honno, y gyfradd farwolaeth wedi’i safoni yn ôl oedran yn y bumed ran fwyaf difreintiedig oedd 261 o bob 100,000 o’i gymharu â 121 fesul 100,000 yn y lleiaf. Yn 2023, y gyfradd farwolaeth wedi’i safoni yn ôl oedran yn y bumed ran fwyaf difreintiedig oedd 203 fesul 100,000 o’i gymharu â 91 fesul 100,000 yn y lleiaf (Ffigur 5) (Marwoldeb Iechyd Cyhoeddus, Amcangyfrifon Canol Blwyddyn y Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau o glefyd anadlol (J00-J99) yn ôl y pumed rhan difreintiedig, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran i bob 100,000

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 5: Marwolaethau gyda chlefyd anadlol yn achos sylfaenol iddynt, y cyfraddau Ewropeaidd wedi’u safoni yn ôl oedran (EASR) fesul 100,000. Llinell las tywyll: y bumed ran leiaf difreintiedig. Llinell las golau: Y bumed ran leiaf difreintiedig. Roedd bwlch clir a chyson mewn marwolaethau rhwng y bumed ran leiaf a mwyaf difreintiedig, gyda chyfradd uwch yn y bumed ran fwyaf difreintiedig. (Marwolaeth Iechyd Cyhoeddus, Amcangyfrifon Poblogaeth Canol Blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Hyd at ffigurau 2012-14, roedd y cyfraddau – wedi’u safoni yn ôl oedran – o farwolaeth y gellid ei osgoi (Ffigur 6) ar gyfer clefydau’r system anadlol wedi cynyddu. Yna rhwng 2012-14 a 2016-18 arhosodd y nifer yn weddol sefydlog, gyda’r gyfradd yn parhau oddeutu 39 ymhob 100,000 hyd y pandemig (Marwoldeb Iechyd Cyhoeddus ac Amcangyfrifon Canol Blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol).

O 2018-20 hyd 2020-22 gostyngodd y gyfradd. Fodd bynnag, bydd y blynyddoedd hynny wedi eu heffeithio gan COVID-19.  Yn y cyfnod diweddaraf sydd ar gael, 2021-23, gwelwyd cynnydd i 32 ymhob 100,000.   Mae hyn 6 ymhob 100,000 yn is na’r 39 ymhob 100,000 yr adroddwyd amdanynt yn y cyfnod olaf cyn y pandemig, 2017-2019. Nid oes digon o bwyntiau data ar ôl y pandemig eto i ddod i ddod i gasgliadau cadarn ynghylch y duedd.

Cyn COVID-19, roedd y gyfradd oedd wedi’i safoni yn ôl oedran wedi bod yn gostwng ac, oherwydd y boblogaeth sy’n heneiddio yng Nghymru, gallai’r rhain barhau i ostwng, ond gallai niferoedd absoliwt a chyfraddau crai barhau i gynyddu.

Marwolaethau y gellir eu hosgoi ar gyfer clefydau’r system anadlol, cyfradd 3 blynedd treigl Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran fesul 100,000

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 6: Yn dangos bod marwolaethau y gellir eu hosgoi oherwydd clefydau’r system anadlol wedi bod yn cynyddu, ond eu bod wedi gostwng mewn blynyddoedd diweddar, efallai oherwydd COVID-19. Am fod y gyfradd hon wedi’i safoni o ran oedran, nid yw’n dangos yr effeithiau oherwydd y boblogaeth sy’n heneiddio neu gynnydd yn y boblogaeth (Marwoldeb Iechyd Cyhoeddus, Amcangyfrifon Poblogaeth Canol Blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau Gwladol). 

Mae marwolaethau y gellir eu hosgoi o glefydau’r system anadlol wedi’u diffinio am fod yr holl farwolaethau o dan 75 oed o ganlyniad i ffliw, niwmonia, clefyd anadlol cronig y llwybr anadlu isaf a chlefydau’r ysgyfaint oherwydd deunyddiau allanol, yn farwolaethau a ystyrir yn rhai y gellid eu hatal. Mae’r holl glefydau anadlol eraill yn cael eu hystyried yn rhai y gellir eu trin. (Marwolaethau y gellir eu hosgoi gan Fyrddau Gofal Integredig yn Lloegr a Byrddau Iechyd yng Nghymru, Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Dychwelyd i'r cynnwys

 

8. Costau a thueddiadau

8.1 Y gost gyffredinol

Ers 2009/10, mae’r gwariant cyfan ar broblemau anadlol gan GIG Cymru wedi cynyddu o £338 miliwn i £518 miliwn yn 2022/23, sef cynnydd o 53%, ond nid yw hyn yn cymryd chwyddiant i ystyriaeth. (Cyllidebau rhaglen gwariant y GIG, Llywodraeth Cymru).  Gyda chwyddiant, byddai £338 miliwn yn 2010 yn gyfwerth â £521 miliwn ym mis Ebrill 2025.

O’r £518 miliwn hwnnw:

  • Gwariwyd £125 miliwn mewn lleoliadau gofal sylfaenol, h.y. y gymuned, fel meddygfeydd Meddygon Teulu
  • Gwariwyd £393 miliwn mewn lleoliadau gofal eilaidd, h.y. ysbytai. Mae hyn yn gyfartal ag oddeutu 76% o’r cyfanswm

Dychwelyd i'r cynnwys

 

8.2 Cost meddyginiaeth ar bresgripsiwn

Mae nifer yr eitemau a roddir ar bresgripsiwn mewn gofal sylfaenol wedi cynyddu o bron i 60%, rhwng 2001/02 a 2023/24.  Yn 2023/24 cafodd oddeutu 6.1 miliwn o eitemau eu rhoi ar bresgripsiwn. (Eitemau ar bresgripsiwn a chost yn ôl ardal a phennod BNF, Gwasanaeth Rhoi Eitemau ar Bresgripsiwn, Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru).  Gostyngodd cost cynhwysion net yr eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn (Ffigur 7) cyn COVID-19, ond ers 2019/20 mae’r costau wedi cynyddu i £88 miliwn yn 2023/24. Mae costau cynhwysion yn ganlyniad i nifer o  ffactorau, nid cynnydd mewn presgripsiynau yn unig. Gallai ffactorau eraill gynnwys prinderau a’r ffaith bod deunyddiau mwy newydd wedi dod ar y farchnad sy’n trin y cyflwr yn well ond sy’n fwy costus.

Nifer yr eitemau ar gyfer y system anadlol a roddir ar bresgripsiwn a chost y cynhwysion net rhwng 2001/02 a 2023/24

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 7: Mae nifer yr eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn i drin a rheoli clefyd anadlol wedi bod yn cynyddu’n raddol i 6.1 miliwn yn 2023/24. (Gwasanaeth rhoi Eitemau ar Bresgripsiwn, Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

8.3 Strategaeth datgarboneiddio mewnanadlwyr

Ar gyfartaledd, mae mwy na 4 miliwn o eitemau mewnanadlwyr yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn bob blwyddyn, am gost o oddeutu £74 miliwn. Yn 2023, cafodd oddeutu 350,000 o eitemau mewnanadlwyr eu rhoi yng Nghymru bob mis. Mae hyn yn gyfatebol â gwariant o oddeutu £6 miliwn ar eitemau mewnanadlwyr (Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan, 2023). Mae llawer o fewnanadlwyr sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn yn fewnanadlwyr dos mesuredig (MDIs) ac maen nhw’n cael eu dosbarthu’n foddion sydd â photensial uchel i effeithio ar gynhesu byd-eang am eu bod yn defnyddio erosolau sy’n cynnwys nwyon tŷ gwydr niweidiol i’r amgylchedd. Mae MDIs yn gyfrifol am 4% o ôl-troed carbon GIG Cymru (mwy na 58.2 miliwn o CO2Kg (58,200 o dunelli o CO2) bob blwyddyn).

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i’r cyrff sector cyhoeddus i gyd i gyflawni gostyngiad net mewn allyriadau carbon cyfan o 16% erbyn 2025, a 34% erbyn 2030.  Yn benodol ar gyfer mewnanadlwyr, targed Llywodraeth Cymru yw sicrhau erbyn 2025 bod 80% o fewnanadlwyr yn opsiynau amgen gyda photensial isel i achosi cynhesu byd-eang (GWP). Roedd y targed wedi ei seilio ar ganfyddiadau adroddiad Ôl-troed Carbon GIG Cymru 2018-2019 a’i gynnwys yng Nghynllun Darparu Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru, 2021.

Mewn ymateb i’r Cynllun Darparu, cafodd Grŵp Tasg a Gorffen – Datgarboneiddio – Defnyddio a Gwaredu Mewnanadlwyr ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2022. O ganlyniad i hyn, ardystiwyd a chyhoeddwyd Strategaeth Datgarboneiddio: Rhoi Mewnanadlwyr ar Bresgripsiwn a Defnyddio a Gwaredu Mewnanadlwyr 2023 gan y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan.

Mae un agwedd o’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar roi mewnanadlwyr ar bresgripsiwn a’u defnyddio a’u gwaredu.  Y nod yw:

  • sicrhau bod mewnanadlwyr yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn yn briodol, yn arbennig mewn perthynas â phresgripsiynau amlroddadwy
  • cyfeirio’r bobl hynny sy’n rhoi meddyginiaethau at roi fewnanadlwyr sydd ag ôl troed carbon isel pan fo hynny’n glinigol briodol
  • sicrhau bod cleifion yn defnyddio mewnanadlwyr yn gywir
  • pwysleisio pwysigrwydd defnyddio prosesau gwaredu ac ailgylchu sy’n benodol berthnasol i fewnanadlwyr

Mae sicrhau bod mewnanadlwyr yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn yn briodol, a’u defnyddio’n briodol, yn rhoi buddion clir i gleifion. Gallai gostyngiad mewn presgripsiynau arwain at ostyngiad yn y gost a lleihau ôl troed GIG Cymru.

Canllawiau Rhoi Eitemau ar Bresgripsiwn i Gymru Gyfan ar gyfer COPD ac asthma mewn oedolion ac asthma mewn plant i hyrwyddo triniaeth effeithiol a phriodol diogel ar gyfer asthma a COPD ac atgyfnerthu rhoi mewnanadlwyr GWP is ar bresgripsiwn.

Mae’r broses o roi mewnanadlwyr ar bresgripsiwn a’u hôl troed carbon yn cael ei monitro gan ddefnyddio SPIRA.  Er bod gostyngiad i’w weld yn y nifer o fewnanadlwyr a roddir ar bresgripsiwn sydd â photensial uchel i effeithio ar gynhesu byd-eang – sef 98% o fewnanadlwyr GWP uchel ar bresgripsiwn yn 2021 i 42% ym mis Medi 2024 (Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan 2024), mae’n annhebygol y cyrhaeddir y targed o sicrhau bod 80% o fewnanadlwyr yn ddewisiadau potensial isel i achosi cynhesu byd-eang erbyn 2025.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9. Imiwneiddio a Brechlynnau

Mae sawl rhaglen imiwneiddio yng Nghymru wedi'u cynllunio'n benodol i atal lledaeniad rhai afiechydon anadlol. Mae GIG Cymru yn cynnal rhaglenni ffliw tymhorol a rhaglenni COVID-19 ddwywaith y flwyddyn ar gyfer unigolion yn y grwpiau risg mwyaf. Mae brechlynnau niwmococol (y brechlyn cyfun niwmococol (PCV) a’r brechlyn polysacarid niwmococol (PPV)), yn ogystal â'r brechlyn feirws syncytiol anadlol (RSV) sydd newydd ei gyflwyno, yn cael eu cynnig drwy gydol y flwyddyn i grwpiau cymwys.  Er bod symptomau’r afiechydon hyn yn gallu bod yn ysgafn, gallai rhai unigolion brofi symptomau mwy difrifol sy’n arwain at dderbyniad i’r ysbyty ac efallai farwolaeth. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer poblogaethau agored i niwed, fel pobl oedrannus, pobl ag imiwnedd gwan, pobl gydag asthma a COPD, a babanod newydd-anedig yn achos y firws syncytiol anadlol. Nod y rhaglenni brechu hyn yw atal trosglwyddiad clefydau a gostwng difrifoldeb y clefyd os bydd trosglwyddiadau’n digwydd.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

9.1 Crynodeb o'r rhaglen imiwneiddio clefydau anadlol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cyhoeddi adroddiadau wythnosol am ffliw a heintiau anadlol acíwt sy’n rhoi manylion lefelau cyfredol o weithgarwch, yn ogystal ag adroddiadau blynyddol. Mae hefyd nifer o ddangosfyrddau ac adroddiadau sy'n cynnwys data brechu ar gael i'r cyhoedd. 

Cynhelir y rhaglenni brechu rhag y ffliw a COVID-19 yn flynyddol a ddwywaith y flwyddyn yn y drefn honno.  Yn gyffredinol, mae nifer uwch o oedolion 65 oed a hŷn yn cael eu brechu rhag y ffliw na phobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd mewn grŵp risg glinigol. 

Dechreuodd rhaglen imiwneiddio RSV ar gyfer oedolion hŷn a menywod beichiog ar 1 Medi 2024. Nod y rhaglen hon yw amddiffyn miloedd o fabanod a phobl hŷn rhag salwch difrifol bob gaeaf. Bydd hyn yn cadw mwy o bobl allan o'r ysbyty a rhag gorfod gweld meddyg teulu. Yn wahanol i raglenni imiwneiddio rhag y ffliw a COVID-19, cynigir y brechiad hwn drwy gydol y flwyddyn.

Mae dau frechlyn niwmococol gwahanol. Rhoddir y Brechlyn Niwmococol Cyfun (PCV) i blant yn rhan o’r rhaglen imiwneiddio arferol a rhai unigolion sydd mewn perygl oherwydd cyflyrau meddygol sylfaenol. Yn ystod 2023-24, cafodd 96.0% o blant cymwys y brechiad PCV cyntaf a chafodd 92.6% yr ail ddos ​​(adroddiad blynyddol COVER, Iechyd Cyhoeddus Cymru).

Mae’r Brechlyn Niwmococol Polysacarid (PPV) yn cael ei gynnig yn rheolaidd i bob oedolyn 65 oed ac yn hŷn ac yn cael ei gynnig i bobl rhwng dwy flwydd oed a 64 oed sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol sy’n eu gwneud nhw’n fwy agored i ddatblygu clefyd niwmococol.  Yn 2024, derbyniodd 65% o oedolion cymwys 65+ oed y brechlyn PPV, o’i gymharu â 37% o oedolion cymwys yn y grŵp 2-64 oed clinigol sydd dan risg.  (Y nifer a gafodd frechlyn niwmococol polisacarid (PPV) yng Nghymru yn 2023/24, Iechyd Cyhoeddus Cymru).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

10. Ffactorau risg

Mae ffactorau ymddygiadol yn ffactorau risg allweddol ar gyfer iechyd anadlol ac yn cael eu disgrifio’n fanylach yn ein herthygl am ffactorau risg.  Mae hyn yn cynnwys ysmygu, anweithrededd corfforol ac unigolion sy’n byw gyda gordewdra.  Mae llygredd aer yn ffactor risg arall ar gyfer clefyd anadlol a bydd yn cael ei archwilio yn yr adran hon.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

10.1 Ffactorau amgylcheddol

10.1.1 Llygredd aer awyr agored

Mae llygredd aer awyr agored yn cael ei ddylanwadu nid yn unig gan allyriadau o drafnidiaeth a diwydiant, ond hefyd gan ffynonellau naturiol fel llwch, paill a thanau gwyllt (Kovats a Brisley, 2021).

Mae llygredd aer wedi bod yn gwella’n fras ers 2007 (Ffigur 8). Mae’r crynodiad cyfartalog o nitrogen deuocsid (NO2) yng Nghymru wedi haneru bron iawn, o grynodiad o 14µg/m3 yn 2007 i oddeutu 8µg/m3 yn 2022. Yn yr un cyfnod, mae PM10 wedi gostwng o 16 µg/m3 i 11 µg/m3, a PM2.5 o 9 µg/m3 i 7 µg/m3 (Llygredd aer yng Nghymru, Llywodraeth Cymru). Y rheswm am hyn yw polisïau a thargedau tynn i ostwng llygredd o ddiwydiant, cludiant a’r sector ynni. Fodd bynnag, mae llygredd aer yn dal i fod yn gyfrannwr amgylcheddol mawr i farwolaeth cyn amser. Mae ein dealltwriaeth o effaith ansawdd aer gwael ar iechyd wedi cynyddu, ac mae Canllawiau Ansawdd Aer Byd-eang WHO yn argymell bod gwledydd yn gostwng eu cyfyngiadau ansawdd aer i adlewyrchu’r dystiolaeth gynyddol o effeithiau iechyd ar lefelau is o lygredd aer. Y rhai mewn Cymdeithas sydd fwyaf agored i effeithiau negyddol llygredd aer yw’r ifanc, yr oedrannus a’r rhai sydd â chyflyrau meddygol oedd yn bodoli’n barod.   

Amcangyfrifir bod llygredd aer yn costio tua £5bn - £18bn y flwyddyn i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU. Mae gwaith yn Lloegr yn awgrymu y gallai gostyngiad o ddim ond 1μg/m3 of PM2.5 atal 50,900 o achosion o glefyd coronaidd y galon, 16,500 stroc, 4,200 o ganserau’r ysgyfaint a 9,300 achos o asthma mewn pobl 18+ oed erbyn 2035 (Pimpin et al., 2018). Mae hyn o fudd nid yn unig i iechyd yn uniongyrchol ond mae hefyd yn gostwng costau’r gwasanaeth iechyd ac yn cynyddu cynhyrchiant economaidd am fod gweithwyr a’u teuluoedd yn fwy iach ac angen llai o ddiwrnodau o absenoldeb oherwydd salwch.  

Er bod dangosyddion llygredd aer cyfartalog Cymru oll yn is na’r safonau llygredd aer cenedlaethol, mae ansawdd aer gwaelach i’w gweld mewn rhai ardaloedd lleol iawn. Ar brydiau, mae Caerdydd a Phort Talbot wedi cofnodi lefelau uwch o PM10 na Birmingham neu Fanceinion (Senedd Cymru, 2018).

Crynodiad y llygredd aer yng Nghymru (µg/m3) 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 8: Mae llygredd aer yng Nghymru wedi bod yn gwella dros amser, gyda gostyngiad cyffredinol mewn lefelau o NO2, PM10 a PM2.5, a phob un o’r tri yn is na gwerthoedd y cyfyngiad blynyddol ar lefel genedlaethol. O ganlyniad i natur leol llygredd aer, gallai’r glynu hwn amrywio mewn ardaloedd llai.  (Llygredd aer yng Nghymru, 2007-2022, Llywodraeth Cymru). 

Gall llygredd aer gael effaith sylweddol ar iechyd cronig. Mae rheoliadau’r DU yn dweud bod yn rhaid mesur nifer o lygryddion aer, a’r un sy’n cael ei fonitro’n fwyaf cyffredin yw;

  • y crynodiad o ronynnau gyda diamedr sy’n llai na 10 micrometr (PM10)
  • y crynodiad o ronynnau gyda diamedr sy’n llai na 2.5 micrometr
  • nitrogen deuocsid (NO2)

Mae maint y ffracsiynau mater gronynnol yn bwysig, a gall gronynnau llai fynd i mewn i’r llif gwaed a chael eu cludo o amgylch y corff, gan fynd yn sownd yn y galon, yr ymennydd ac organau eraill, a chynyddu’r risg o ddatblygu clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed, ymysg eraill. Gallai dod i gysylltiad ag NO niweidio’r galon a’r ysgyfaint

Mae angen cymryd camau ar y cyd i wella ansawdd aer i bawb, ac mae’r rhain yn bosibl drwy reoliadau, polisi, technoleg ac ymdrechion unigol. Mae defnyddio ceir a cherbydau eraill yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at lygredd aer, yn arbennig dros bellteroedd byr. Mae’n hanfodol cael ymdrechion polisi ac ymarferion i’w gwneud hi’n haws i fwy o bobl ddewis teithio llesol neu gludiant cyhoeddus, ac mae hynny’n wir hefyd am opsiynau i ostwng teithio ar gyfer gwaith.

Mae tystiolaeth o’r adroddiad Gwneud Gwahaniaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod teithio llesol a defnyddio cludiant cyhoeddus yn llawer iawn mwy buddiol i gymdeithas na defnyddio ceir. Mae llygredd aer yn cael effaith gronnus gronig, sy’n golygu y gall gymryd degawdau i weld effaith unrhyw welliannau mewn llygredd aer. Dyna pam mae’n hanfodol gwella ymddygiadau iechyd, fel gweithgaredd corfforol, am fod ganddynt fuddion iechyd llawer mwy a mwy uniongyrchol na’r niwed sy’n gysylltiedig â dod i gysylltiad â llygredd aer (Mitsakou et al., 2021).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

10.1.2 Llygredd aer dan do a pheryglon amgylcheddol

Mae lleithder a llwydni yn y cartref yn un enghraifft o berygl amgylcheddol dan do. Mae ffactorau eraill yn cynnwys radon, ysmygu a gwresogyddion a stofiau llosgi pren.  Er na allwn edrych ar eu cyfraniadau perthynol yn unigol, mae’n bwysig mesur unrhyw ffactorau y gallwn, yn enwedig os yw’n bosibl eu haddasu. Mae’r ffynonellau hyn o lygredd dan do a pheryglon amgylcheddol yn ffactorau risg ar gyfer datblygiad, neu waethygiad, clefydau anadlolGall effaith lleithder a llwydni amrywio o symptomau cyffredinol fel pesychu a gwichian y frest, risg cynyddol o heintiau’r llwybr anadlu a hyd yn oed ddatblygu neu waethygu clefydau anadlol fel asthma a COPD.

Mae awdurdodau lleol yn gwneud asesiadau’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) bob blwyddyn. Yn 2023/24, gwnaethpwyd 4,821 o asesiadau, ac roedd 1,929 (40%) o’r rhain yn dangos lleithder a thwf llwydni (Casgliad data trwyddedau a pheryglon, Llywodraeth Cymru).  Er ei fod yn ymwneud â’r holl safleoedd preswyl, mae’r HHSRS yn cael ei ddefnyddio’n fwy cyffredin i asesu safonau mewn tai sector preifat. 

Dychwelyd i'r cynnwys

 

10.2 Newid hinsawdd

Mae newid hinsawdd yn risg i bawb ac yn fygythiad uniongyrchol i iechyd anadlol. Nododd astudiaeth yn 2014 bod newid hinsawdd yn gallu hyrwyddo neu waethygu clefydau anadlol yn uniongyrchol neu gynyddu cysylltiad â ffactorau risg ar gyfer clefyd anadlol. Gall hyn ddigwydd drwy gynyddu maint y paill a’r alergenau a gynhyrchir gan bob planhigyn, trwy waethygu llwydni a chrynodiadau defnydd gronynnol ac oson awyr agored ar lefel y tir (D’Amato et al., 2014).

Roedd asesiad o’r effaith ar iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw hefyd at yr effaith y gall newid hinsawdd ei gael ar glefyd anadlol, drwy gynyddu gwres a gostwng ansawdd yr aer (Edmonds a Green, 2023).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

10.3 Penderfynyddion ehangach – amddifadedd

Fel y nodwyd yn adrannau 6 a 7, mae bwlch parhaol ac amlwg yn y cyfraddau marwolaeth a chyfraddau derbyniad i ysbytai oherwydd clefydau anadlol rhwng y bobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hyn wedi ei adlewyrchu hefyd yng nghyffredinrwydd ffactorau risg ymddygiadol, yn cynnwys ysmygu. Yn 2022/23, dywedodd 22% o oedolion yn y bumed ran fwyaf difreintiedig eu bod yn ysmygwyr cyfredol, o’i gymharu ag 8% yn y bumed ran leiaf difreintiedig (Ffigur 9) (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru).

Y ganran o oedolion sy’n dweud eu bod yn ysmygwyr ar hyn o bryd yn ôl y bumed ran fwyaf a lleiaf difreintiedig

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 9: Mae patrwm clir o gynnydd yng nghyffredinrwydd yr ysmygwyr cyfredol wrth i amddifadedd gynyddu. Mae cyffredinrwydd ysmygu bron 3 gwaith yn uwch yn y bumed ran fwyaf difreintiedig nag yn y bumed ran leiaf difreintiedig. Nodyn 1: Oedwyd yr arolwg ym mis Mawrth 2020 oherwydd COVID-19 (Arolwg Cenedlaethol Cymru, y ganran a welwyd, 2016/17 – 2022/23, Llywodraeth Cymru).

Fel y dywedwyd yn ein herthygl am glefyd cardiofasgwlaidd, gallai amddifadedd gael effaith y tu hwnt i ymddygiadau nad ydynt yn iach. Roedd dadansoddiad gan The Kings Fund yn edrych ar y berthynas rhwng tlodi a’r GIG. Yn 2022, soniodd arolwg bod 56% o ddarparwyr y GIG wedi dweud bod cynnydd mewn pobl oedd yn oedi cyn gwneud cais am gymorth oherwydd costau byw. Soniodd hefyd am anawsterau cyrchu’r cymorth, oedd yn cynnwys materion ymarferol fel y gallu i deithio i apwyntiadau meddygol a llythrennedd iechyd (The Kings Fund, 2025).

Dychwelyd i'r cynnwys

 

11. Trosolwg o wasanaethau, rhaglenni, gwasanaethau ataliol a deddfwriaeth yng Nghymru

Yma, rydym yn amlinellu rhai o’r strategaethau a deddfwriaeth, rhaglenni a gwasanaethau sydd wedi eu hanelu at ostwng cyffredinrwydd rhai o’r ffactorau risg a ddisgrifir yn yr erthygl hon. Nid yw hon yn rhestr gyflawn, ac os oes gennych raglen neu wasanaeth yr hoffech eu hychwanegu at y rhestr, cysylltwch â ni drwy Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

11.1 Strategaethau a Deddfwriaeth

  • Y Bil Tybaco a Fêps: cyflwynwyd hwn i Dŷ’r Cyffredin ar 5 Tachwedd 2024, ac mae’n ei gwneud yn anghyfreithlon i werthu cynhyrchion tybaco i unrhyw un a aned ar ôl 1 Ionawr 2009. Mae hefyd yn cynnwys cynigion i greu pwerau i’r DU a gweinyddiaethau datganoledig ymestyn mannau dim ysmygu a fepio, gwahardd deunydd pecynnu fêps, eu harddangosiad a’u blasau a chyflwyno trwyddedu ar fannau gwerthu tybaco a fêps.  
  • Bydd deddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth Cymru a gwledydd eraill y DU yn gwahardd fêps tafladwy o fis Mehefin 2025  
  • Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod targedau mewn perthynas â llygredd aer ac yn rhoi dyletswyddau newydd i Weinidogion Cymru gymryd camau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r risgiau i iechyd dynol a achosir gan lygredd aer, a ffyrdd o ostwng neu gyfyngu ar lygredd aer. Mae hefyd yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo teithio llesol fel ffordd o ostwng neu gyfyngu ar lygredd aer ac yn galluogi i’r ddyletswydd hon gael ei gorfodi gan reoleiddwyr ar awdurdodau cyhoeddus eraill.
  • Yn rhan o gynllun darparu strategol datgarboneiddio GIG Cymru, lansiwyd strategaeth ar gyfer datgarboneiddio mewnanadlwyr yng Nghymru yn 2023.  Mae sicrhau bod mewnanadlwyr yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn a’u defnyddio’n briodol yn dod â buddion amlwg i gleifion. Gallai gostyngiad mewn presgripsiynau arwain at ostyngiad mewn costau a gostwng ôl-troed carbon GIG Cymru. Mae newid hinsawdd yn risg i bawb ac yn fygythiad uniongyrchol i iechyd anadlol.
  • O dan Ddeddf Tai 2004, cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru arweiniad statudol i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ar ddefnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai. Mae hon yn system a ddatblygwyd i asesu’r prif beryglon posibl sy’n ymwneud â thai, yn cynnwys rhai a allai effeithio ar glefydau anadlol fel lleithder a llwydni.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

11.2 Gwasanaethau

  • Mae Pwysau Iach Byw’n Iach yn strategaeth gynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o atal a gostwng gordewdra. Yn rhan o hyn mae’r rhaglen Pwysau Iach Byw’n Iach yn cynnig arweiniad wedi’i bersonoli i gefnogi unigolion i reoli eu pwysau’n effeithiol. Mae Byrddau Iechyd ledled Cymru hefyd yn cynnig gwasanaethau i gefnogi unigolion i reoli eu pwysau. 
  • Lansiwyd Helpa Fi i Stopio yn 2017 ac mae’n frand unigol ar gyfer gwasanaethau stopio ysmygu’r GIG yng Nghymru. Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol sy’n darparu Helpa Fi i Stopio.
  • Mae rhaglenni imwneiddio a brechu’n cael eu sefydlu yng Nghymru i atal lledaeniad salwch anadlol. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni ar gyfer:

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12. Ansawdd a dehongliad y data

12.1 Y pandemig COVID-19

Wrth ystyried y tueddiadau hyn, mae’n bwysig ystyried effaith bosibl y pandemig COVID-19 a rheolaeth gofal sylfaenol yn gyffredinol. Yn ystod y pandemig, cafodd y mynediad i wasanaethau ei ostwng yn 2020. Mae hyn yn debygol o fod wedi arwain at gwymp mewn diagnosis a thriniaethau, ac yn dilyn hynny ymchwydd eto pan ddaeth gwasanaethau ar gael eto.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12.2 Cyffredinrwydd data 

Mae’r data am gyffredinrwydd o’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (2009/10 hyd 2018/19) a’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd (2019/20 ymlaen) wedi dod gan Lywodraeth Cymru. Mae’r data hwn, a gyflenwir gan feddygon teulu, yn dangos y nifer o gleifion cofrestredig ar gofrestr clefydau penodol a’r boblogaeth gofrestredig gyfan.

Wrth ddehongli data ar gofrestri meddygon teulu, mae’n bwysig nodi y gallai newidiadau i bolisi a datblygiadau gofal iechyd gael effaith, megis cymhellion i adnabod clefydau penodol neu well ffyrdd o ganfod clefydau yn y drefn honno, ac nad ydynt yn adlewyrchu newid gwirioneddol yn y gyfradd gyffredinrwydd. Mae hyn yn golygu y gall fod yn anodd penderfynu a yw newid yn cynrychioli newid go iawn neu a ydyw wedi digwydd oherwydd newid yn y ffordd y cesglir y data. Pan gafodd y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau ei ddisodli gan y Fframwaith Sicrhau a Gwell Ansawdd yn 2019/20, efallai bod y newid yn y contract ar gyfer casglu data o ofal sylfaenol wedi arwain at newidiadau mewn ansawdd data. Yn benodol, tangyfrif data oherwydd codio o ansawdd gwaelach (Davies et al., 2025).

Daw’r data o un ffynhonnell ddata wedi ei seilio ar gleifion cofrestredig meddygon teulu. O ganlyniad, nid yw’n cofnodi unrhyw un a allai fod heb gael diagnosis neu sydd wedi cael diagnosis ond sydd heb gofrestru. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bosib bod y ffigurau a ddarperir yn tangyfrif y gwir gyffredinrwydd. 

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12.3. Dulliau rhagamcannu

Ar gyfer ein rhagamcaniadau, rydym wedi defnyddio model ARIMA.  Mae’r model yn rhagamcannu cyfrifiadau cyffredinrwydd hanesyddol ymlaen at 2033/34.  Y ffigur y cyfeiriwn ato yn yr erthygl, yr amcangyfrif canolog, yw’r amcangyfrif mwyaf tebygol, o ystyried yr hyn a welwyd yn barod. Rydym hefyd wedi rhoi cyfyngau hyder uwch ac is o 95%, gan amcangyfrif cyfwng lle gallai cyffredinrwydd y dyfodol ostwng. Mae’r rhain yn dangos ein bod 95% yn hyderus y bydd y rhagamcaniad a ragwelir yn disgyn o fewn y ffiniau hyn.

Mae’r rhagamcaniadau hyn yn ddangosol ac wedi eu bwriadu i ddangos cyfeiriad tebygol y teithio os na fydd unrhyw beth yn newid dros y cyfnod amser. Er enghraifft, gallai cyflwyno ymyriad polisi neu iechyd, fel gwaharddiad ar ysmygu, newid cyfeiriad y teithio.

Mae’r data i gyd ar gael yn y lawrlwythiad data. Os hoffech ragor o wybodaeth am fanylionn technegol y rhagamcaniadau, cysylltwch â ni ar: Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12.4 Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru

Mae ein data derbyniadau’n defnyddio’r Gronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru (PEDW).  Mae PEDW yn gronfa ddata genedlaethol sy’n cofnodi gwybodaeth am weithgareddau Ysbyty. Darperir y data hwn gan fyrddau iechyd. Mae amrywiadau yng nghyflawniad y data (er enghraifft efallai fod y meysydd diagnosis neu’r dulliau derbyniad ar goll) yn gallu effeithio ar gywirdeb dadansoddiadau. Felly, dylid dehongli dadansoddiadau’n ofalus oherwydd maen nhw’n gallu achosi i ffigurau gael eu tanamcangyfrif. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau hyn i’w cael hefyd ar gyfer data arsylwadol yn gyffredinol a’r data yma yw’r gorau sydd gennym ar gael ar gyfer dadansoddiadau o’r fath.  Gallwch weld rhagor o wybodaeth am gwblhau PEDW ar wefan DHCW.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12.5 Data arolwg a hunanadroddir  

Cesglir data sy’n ymwneud ag ymddygiadau dulliau o fyw drwy’r arolygon a ganlyn:

  • Arolwg Iechyd Cymru
  • Arolwg Cenedlaethol Cymru

Yn debyg i bob arolwg sy’n ddibynnol ar ddata a hunanadroddir, ac y gellir effeithio arno gan amrywiol ffynonellau bias, gall y rhain gynnwys dymunoldeb cymdeithasol, adalw neu ddulliau ymateb. Er enghraifft, efallai fod pobl yn ateb yn rhy isel wrth ddweud pa mor aml maen nhw’n yfed alcohol ac yn rhoi ateb rhy uchel pan maen nhw’n dweud pa mor aml maen nhw’n gwneud ymarfer corff.

Mae meintiau sampl yn effeithio ar ba mor hyderus y gallwn fod wrth adrodd am ganfyddiadau. Lle bo modd, rydym wedi cynnwys cyfyngau hyder o 95% yn y lawrlwythiadau data. Mae hyn yn cynrychioli amrywiaeth o werthoedd y gallwn fod 95% yn hyderus eu bod yn cynnwys cyfradd danategol ‘wir’.  Yn gyffredinol, po fwyaf yw maint y sampl, y lleiaf yw’r bwlch rhwng y cyfyngau hyder uchaf ac isaf.

Mae’r erthygl hon yn adrodd am y canrannau a welwyd heb eu haddasu ar gyfer newidiadau mewn ffurfiad oed. Byddai canrannau wedi’u safon yn ôl oed yn rhoi cymariaethau tecach dros amser, yn enwedig ar gyfer ymddygiadau sydd wedi eu dylanwadu gan oedran, a byddent yn cael eu hychwanegu at lawrlwythiadau data yn hwyrach ymlaen. Ar hyn o bryd, mae’r canrannau a welwyd yn cael eu cyflwyno i amlygu eu heffaith uniongyrchol ar wasanaethau a chynllunio am eu bod yn cynrychioli’r gwir ganran yn y boblogaeth.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12.6 Arolwg Iechyd Cymru

Rhedodd Arolwg Iechyd Cymru o 2003/04 hyd 2015 ac roedd ganddo sampl targed o 15,000. Yn 2016, cafodd Arolwg Iechyd Cymru ei ddisodli gan Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae data wedi’i archifo ac adroddiadau technegol ar gael ar-lein.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12.7 Arolwg Cenedlaethol Cymru

Cafodd Arolwg Iechyd Cymru ei ddisodli gan Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2016. Er mai dyma’r olynydd i Arolwg Iechyd Cymru, ni ddylid eu cymharu. Y rheswm am hyn yw, wrth i fethodoleg yr arolwg newid, gallem weld newid mawr sy’n gysylltiedig yn syml iawn â’r newid yn y dulliau. Ar gyfer rhai ymddygiadau iach, efallai y bydd hefyd newid yn y canllawiau CMO, sy’n golygu nad oes dadansoddiadau tymor hir ar gael. Fodd bynnag, er bod angen ystyried y newid mawr hwn wrth i’r fethodoleg newid, gellir dod i gasgliadau o hyd am dueddiadau tymor hir. Dim ond dau ddadansoddiad sy’n ymwneud â’r ddau arolwg, y tueddiadau BMI ac ysmygu. Mae’r dosbarthiad ar gyfer y ddau’n parhau yr un fath drwy gydol y cyfnodau. Fodd bynnag, efallai y bydd newid bach unwaith eto rhwng yr arolygon a allai ddigwydd oherwydd y newid yn yr arolwg yn hytrach nag unrhyw newid naturiol.

O ganlyniad i bandemig Covid-19, roedd yn rhaid i Arolwg Cenedlaethol Cymru newid ei ddull darparu arferol, oedd yn cynnwys cyfuniad o gyfweliadau wyneb yn wyneb a chyfweliadau ffôn. Roedd yr arolygon misol a chwarterol rhwng Mai 2020 a Mawrth 2021 yn arolygon ffôn samplu ar hap, graddfa fawr, a gyrhaeddodd oddeutu 1,000 o bobl y mis. Cafodd cyfanswm o 12,000 o bobl eu cynnwys yn ystod y flwyddyn honno. O fis Gorffennaf 2021, gofynnwyd i is-sampl o ymatebwyr gwblhau adran ar-lein yn dilyn yr adran ffôn. O ganlyniad i’r newid hwn yn y dull, ni all canlyniadau gael eu cymharu’n uniongyrchol. Fodd bynnag, yn debyg i’r newid o Arolwg Iechyd Cymru i Arolwg Cenedlaethol Cymru, rhaid ystyried unrhyw newid mawr. Nid yw hyn yn golygu na chafwyd newid ymddygiad gwirioneddol yn dilyn pandemig COVID-19.  Dyna pam mae ystyried y gyfres ddata dymor hir yn hanfodol. Mae rhagor o wybodaeth am fethodoleg yr arolwg a gwybodaeth dechnegol ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12.8 Llygredd aer

Mae’r DU yn monitro llygredd aer yn genedlaethol drwy nifer o rwydweithiau o orsafoedd monitro. Mae’r rhwydwaith mwyaf, sef y Rhwydwaith Trefol a Gwledig Awtomatig (AURN), yn monitro crynodiadau o’r llygredyddion mwyaf adnabyddus ac yn adrodd ar ddata bob awr mewn amser agos at fod yn real ar wefan UK-AIR. Yn ogystal mae’r rhwydweithiau monitro Awdurdod Lleol, academaidd ac a weithredir gan y diwydiant.

Cynhyrchir ystadegau cenedlaethol ar lygredd aer yn y DU ym mis Ebrill bob blwyddyn ac maen nhw’n rhoi asesiad hygyrch o dueddiadau tymor hir mewn llygredd aer fel y maent wedi eu mesur gan yr AURN. Ym mis Medi bob blwyddyn, mae mesuriadau o rwydweithiau monitro cenedlaethol yn cael eu cyfuno â chanlyniadau modelu i ffurfio asesiad cenedlaethol o lygredd aer yn erbyn y cyfyngiad a’r gwerthoedd targed ar gyfer crynodiadau o lygryddion aer sydd wedi eu gosod yn rhyngwladol ac yn ddomestig. Mae’r llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ganlyniadau’r asesiad hwn, ac mae’r data modelu a ddefnyddir ar gyfer yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi mewn ap rhyngweithiol ar wefan UK-AIR.

Bob blwyddyn mae model Mapio Hinsawdd Llygredd (PCM) Llywodraeth Cymru’n cyfrifo crynodiadau llygryddion cyfartalog ar gyfer pob cilometr sgwâr o’r DU. Mae’r model wedi’i galibradu yn erbyn mesuriadau a gymerwyd o’r AURN.

Mae Llywodraeth  Cymru wedi defnyddio’r data cyhoeddedig hwn i aseinio crynodiad o NO2, PM2.5 a PM10 i bob annedd preswyl yng Nghymru, wedi’i seilio ar ba bynnag gilomedr sgwâr o Gymru y mae ynddo.

I bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol, cyfrifiwyd cyfartaledd wedi’i bwysoli gan y boblogaeth dros ei ardaloedd allbwn cyfrifiad etholaeth i roi crynodiad cyfartalog o NO2, PM2.5 a PM10 wedi ei seilio ar yr ardal lle mae pobl yn byw yn yr awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd hynny. Cafodd yr un cyfrifiad ei ailadrodd hefyd dros holl ardaloedd allbwn y cyfrifiad, i roi ffigur cymaradwy ar gyfer Cymru gyfan.

Ar gyfer diweddariad 2022 o’r dangosyddion cenedlaethol llygredd aer, cafodd gwelliant methodolegol ei weithredu i’r ffordd y mae’r pwysoli aneddiadau’n cael eu cyfrifo.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y data a ddefnyddiwyd ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12.9 Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS)

Mae’r wybodaeth a gyflwynir yma’n ymdrin â chyflwr eiddo preswyl, yn cynnwys Tai Amlfeddiannaeth, wedi’i asesu gan awdurdodau lleol o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS).

Defnyddir yr HHSRS i benderfynu a yw eiddo preswyl yn ddiogel i fyw ynddynt. Cymerodd le’r Safon Ffitrwydd ym mis Gorffennaf 2006. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r System i benderfynu a oes perygl yn bodoli a allai achosi niwed i iechyd a diogelwch preswylydd posibl.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

12.10 Presgripsiynau

Mae’r data am bresgripsiynau’n cynnwys cyfanswm y nifer o unedau a roddir ar bresgripsiwn (waeth ymhle y cawsent eu rhoi) neu a roddwyd gan Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol yng Nghymru. Mae cost cynhwysyn net un eitem yn cyfeirio at gost y cyffur cyn disgowntiau ac nid yw’n cynnwys unrhyw ffioedd neu gostau rhoi ar bresgripsiwn. Nid yw costau cynhwysion net ar gyfer yr holl flynyddoedd yn cael eu haddasu ar gyfer chwyddiant. Nid yw addasiadau safonol ar gyfer chwyddiant yn cael eu hystyried yn briodol am fod prisiau cyffuriau’n amodol ar reolaethau o dan Gynllun Rheoli Prisiau Fferyllol a rheolyddion canolog eraill. Mae rhagor o wybodaeth am y data hwn ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Dychwelyd i'r cynnwys

 

13. Llwytho’r data i lawr

Rydym yn ymwybodol y gall fod problemau wrth lawrlwytho'r ffeiliau data yn Microsoft Edge.  Os hoffech gael y data, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio porwr gwahanol, defnyddiwch 'Cadw fel' os yw'r data'n agor mewn tab ar-lein neu cysylltwch â ni yn Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk

13.1 Gellir llwytho i lawr y data yn yr erthygl hon – Excel  
13.2 Llwytho i lawr y data yn yr erthygl hon gyda dadansoddiadau ychwanegol - CSV  

13.3 Lawrlwythwch ddata ffactorau risg gyda dadansoddiadau ychwanegol- CSV 

Dychwelyd i'r cynnwys