Ar u dudalen hon:
- Heriau
Mae llawer wedi newid mewn gwaith ym maes iechyd cyhoeddus yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae dulliau newydd o ymdrin â deallusrwydd artiffisial; awtomeiddio tasgau syml a chymhleth; mabwysiadu dyfeisiau symudol a dulliau gweithio o bell; a datblygiadau ym maes diagnosteg ymhlith rhai o’r meysydd y mae datblygiadau ym maes technoleg ddigidol a data wedi effeithio’n sylweddol arnynt. Mae COVID wedi cyflymu llawer o’r gwaith hwn ac wedi newid yn sylfaenol y ffordd y mae llawer ohonom yn gweithio ac yn byw.
Roedd yn rhaid i lawer o bobl yng Nghymru ddysgu cyflawni busnes ar-lein neu dros y ffôn. Mae astudiaethau (Nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd) ar draws y byd wedi dangos bod lefelau gallu ym maes technoleg ddigidol a’r defnydd o dechnoleg ddigidol wedi cynyddu bron ym mhob sector. Mae mwy o bobl nag erioed o grwpiau a gâi eu hystyried yn rhai a oedd wedi’u hallgáu yn ddigidol, megis pobl hŷn, yn sgwrsio drwy gyfleuster fideo, yn defnyddio gwasanaethau megis bancio ar-lein (Nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd) ac yn prynu teganau ac offer chwaraeon ar-lein (Nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd).
Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym wedi bod yn gweithio yn y rheng flaen drwy gydol y pandemig COVID, fel y gwnaethom yn ystod cyfnodau eraill pan oedd achosion o frech y mwncïod neu’r ffliw moch, ymhlith llawer o afiechydon eraill, ar eu hanterth. Ond yr hyn a oedd yn wahanol yn ystod y pandemig COVID oedd y rhan fawr a chwaraeodd technoleg. Ym maes profi ac olrhain, ym maes teithio ac ym maes brechu, gwnaethom greu apiau newydd a darparu dealltwriaeth a gwybodaeth newydd yn gyflym tu hwnt. Ni fyddem wedi gallu gweithio mor gyflym â hynny am byth, ond mae llawer o bobl yng Nghymru am wybod yn awr a allwn ddarparu adroddiadau a gwasanaethau eraill yn yr un ffordd.
Ond roedd ymdrin ag argyfwng cenedlaethol yn golygu bod yn rhaid i ni roi’r gorau i wneud peth o’n gwaith arall. Felly, mae ein systemau ar ei hôl hi’n wirioneddol oherwydd iddynt heneiddio. Mae angen i bob sefydliad reoli cost y gwaddol hwnnw. Mae angen i ni benderfynu pa systemau sy’n dal yn rhai da i’w rhedeg, pa rai y mae angen eu hatgyweirio neu’u huwchraddio, a pha rai y mae angen cyflwyno systemau newydd yn eu lle a’u datgomisiynu. Po hynaf yw system, y drutaf fydd hi i’w hatgyweirio yn ôl pob tebyg, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod diogelwch cleifion a chyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Yn ystod COVID rydym, yn gywir ddigon, wedi bod yn canolbwyntio ar gyhoeddi data mor gyflym ag sy’n bosibl er mwyn diwallu un angen cenedlaethol unedig. Wrth i ni ddod dros COVID a dysgu ohono, mae angen i ni ailasesu’r ystadegau a’r dadansoddiadau yr ydym yn eu cynhyrchu, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r hyn y mae ei angen ar ein defnyddwyr. Bydd angen i ni eu cyflwyno mewn ffyrdd sy’n gweithio i wahanol fathau o ddefnyddwyr, o ddadansoddwyr sydd â gwybodaeth dechnegol drylwyr i uwch-arweinwyr y mae angen iddynt ddeall y negeseuon pwysicaf yn sydyn.
Felly, rydym wedi bod yn ystyried beth yw ein sefyllfa ar hyn o bryd a beth a weithiodd yn dda yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Er mwyn llwyddo, byddwn yn sicrhau cydbwysedd rhwng yr ymdrech a wnawn i reoli gwasanaethau presennol a’r ymdrech a wnawn i ddatblygu cynnyrch newydd er mwyn diwallu angen y cyhoedd. Enghraifft dda o hynny yw’r Dangosfwrdd Trosolwg Cyflym Iechyd Cyhoeddus. Yma, rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd gennym am y data cyflym y mae’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau’n teimlo ei fod yn ddefnyddiol, ac wedi defnyddio rhai sgiliau gwyddor data newydd, i greu trosolwg cyflym o iechyd y genedl.
Buom yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i wneud rhywfaint o waith amrywiol iawn ddechrau 2023. Gwnaethom ein holi ein hunain a oedd ein rhagdybiaethau yr un fath â’r hyn yr oedd ar bobl ei angen mewn gwirionedd yn rhai o’n meysydd gwasanaeth. Gwnaethom ddarganfod bod pobl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wirioneddol awyddus i helpu pobl yng Nghymru i fod yn iachach ac yn hapusach. Ond heb allu technegol cadarn, mae llawer o dimau’n treulio mwy o amser nag sydd angen yn casglu data’n bersonol, gan mai dyna’r unig ffordd y maent yn teimlo’n ddigon hyderus i’w gasglu. Drwy sicrhau ei bod yn haws i Iechyd Cyhoeddus Cymru gael gafael ar weithwyr proffesiynol ym maes technoleg ddigidol a data, a thrwy ddatblygu fframwaith proffesiynol, gallwn helpu i wneud ein prosesau’n fwy effeithlon. Mae angen i ni gael perchnogion a enwir ar gyfer ein cynnyrch ym maes technoleg ddigidol a data.
Rydym wedi gweld bod gweithwyr proffesiynol ym maes technoleg ddigidol a data yn awyddus i gael perthynas agosach o lawer ag arbenigwyr eraill yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac i’r gwrthwyneb. Mae yna awydd i ddeall mwy am yr hyn y gall timau ym maes technoleg ddigidol a data ei wneud i helpu. Dywedodd llawer o bobl y gwnaethom wrando arnynt eu bod o’r farn bod yna furiau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oeddent yn teimlo bod ganddynt ddigon o rym i’w chwalu. Dyna pam y mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar weithwyr proffesiynol sydd wedi’u grymuso.
Er mwyn cau’r bwlch rhwng y sefyllfa yr ydym am fod ynddi a’r sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd, byddwn yn defnyddio dogfennau hawdd am bensaernïaeth ar gyfer systemau technegol a llifoedd data. Mae’r ddealltwriaeth bensaernïol hon o’n systemau a’n data yn sail i’n gallu i gael a deall pa ddata sydd gennym, ac i’w wneud yn fwy glân a diogel cyn ein bod yn ei ddefnyddio i ddadansoddi. Pan fyddwn yn gwybod pa ddata yr ydym am ei gofnodi a’i ddefnyddio, byddwn yna’n gwybod pa wasanaethau a systemau y mae angen i ni eu datblygu neu’u newid.
Yn ein gwasanaethau sgrinio a’n cofrestrau, mae gennym systemau ar wahân ar gyfer pob gwasanaeth. Wrth edrych yn fanylach, mae’r rhan fwyaf o’r tasgau y mae’n rhaid i ni eu gwneud yr un fath. O drefnu a chreu ein systemau’n wahanol, gallem gael set lai o systemau sy’n gweithio ar gyfer mwy nag un gwasanaeth. Byddai hynny’n arbed llawer o arian ac ymdrech, a gallem fforddio treulio mwy o amser yn gweithio gyda defnyddwyr i wella’r systemau hynny.
Mae cyfweliadau a gweithdai gyda’n timau yn dangos ein bod am gael dealltwriaeth gyffredin o’r cyfeiriad ar gyfer technoleg ddigidol a data yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac o’r rheswm dros y cyfeiriad hwnnw. Dyna pam yr ydym yn creu’r strategaeth hon. Rydym yn cydnabod bod neilltuo amser i feddwl yn strategol yn rhan yr un mor bwysig o’r proffesiwn technoleg ddigidol a data ag y mae cyflwyno atebion tactegol o ddydd i ddydd.
Rydym am gael dull ehangach o ymdrin â seiberddiogelwch a diogelwch data. Yn ogystal â chynnal gwybodaeth ein harbenigwyr presennol, rydym yn dod o hyd i ffyrdd o gynyddu gwybodaeth ymarferol am seiberddiogelwch ar draws pob un o’n timau, fel bod pawb yn y sefydliad yn haenen arall o warchodaeth. Nid ydym am gael pwyntiau methu unigol yn ein systemau chwaith, felly rydym yn sicrhau bod gan bob gweithgaredd fwy nag un person a all ei gyflawni.
Rydym am gydweithio’n fwy helaeth y tu allan i’n sefydliad. Rydym mewn sefyllfa dda i wella’r modd yr ydym yn rhannu ein setiau data presennol ac yn eu cysylltu â’i gilydd. Yn ogystal â chyfrannu i brosiectau data cenedlaethol megis Banc Data SAIL (Nid yw’r dudalen hon ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd) a pharatoi i fod yn un o nodau’r Adnodd Data Cenedlaethol, gallem gyflwyno newid yn fwy effeithiol o lawer o gael catalog data da a threfniadau ar gyfer cyfnewid data ag eraill. Cyn bod yr Addewid Data Cenedlaethol yn cael ei wireddu, mae yna gyfleoedd o hyd i ni rannu gwybodaeth er mwyn gwneud gwahaniaeth.
Mae’r ffordd yr ydym yn defnyddio data a’r ffordd yr ydym yn defnyddio technoleg yn newid drwy’r amser. Ac mae anghenion pobl yn newid drwy‘r amser hefyd, sy’n golygu bod angen i ni barhau i wirio a pharhau i ddatblygu. Fodd bynnag, mae’n braf cael rhywbeth i anelu ato, felly yn ein gweithdai gwnaethom nodi cyfres o dargedau i anelu atynt.
Dyma ein targedau presennol: