Er mwyn cyflawni strategaeth hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd angen i ni wneud defnydd llawn o rym technoleg ddigidol a data. Mae technoleg ddigidol a data yn newid yn gyflym, o ran yr adnoddau yr ydym yn eu defnyddio, y dulliau sydd ar gael a’r ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â gwasanaethau iechyd a llesiant neu’n darganfod ac yn defnyddio gwybodaeth, ac mae’r rhain yn sail i bob agwedd ar ein strategaeth. Felly, rydym wedi ysgrifennu’r strategaeth technoleg ddigidol a data hon er mwyn rhannu ein gweledigaeth a’n dull o weithredu yn y meysydd hyn.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o’r GIG yng Nghymru, ac mae ein cyfrifoldeb yn ymestyn ar draws y wlad gyfan a phawb sydd ynddi. Ein hegwyddor arweiniol fel sefydliad yw gweithio gyda’n gilydd i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau iachach. Dylai hynny fod yn wir am bopeth a wnawn, boed wyneb yn wyneb neu ar-lein, mewn clinig neu ar ffôn clyfar. Felly, ein hegwyddor arweiniol yn y strategaeth technoleg ddigidol a data hon yw:
Rydym yn defnyddio data a thechnoleg i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru ac i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae’r gwasanaethau digidol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys systemau i ddarparu gwasanaethau sgrinio; cofrestrau; goruchwyliaeth ym maes iechyd cyhoeddus; platfformau ymchwil; systemau ar gyfer ymgysylltu a chynnal arolygon; trefniadau ar gyfer cydweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol â Sefydliad Iechyd y Byd ac asiantaethau iechyd cyhoeddus yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr, yr Undeb Ewropeaidd a’r byd ehangach; labordai microbioleg ar draws Cymru; uned genomeg pathogenau, a mwy.
Mae cynnyrch data yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys gwybodaeth fyw a gaiff ei rhannu â Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd er mwyn darparu gofal iechyd a gwasanaethau hybu llesiant; dangosfyrddau ar gyfer clefydau penodol, iechyd cyhoeddus yn ehangach ac achosion ffactorau sy’n niweidio iechyd cyhoeddus; adroddiadau arbenigol a dadansoddiadau; casgliad eang o ystadegau a dadansoddiadau; cynnyrch gwyddor data megis dadansoddiadau uwch o broblemau iechyd cenedlaethol a lleol, economeg iechyd, deallusrwydd artiffisial a data cymhleth neu fawr; data ymchwil a rennir â banciau data megis Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL); a detholiadau wedi’u teilwra o ddata ar gyfer ymchwil cymeradwy ym maes iechyd a gofal.
Mae’r strategaeth hon ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei gyfanrwydd, felly rydym wedi ei llunio drwy wrando ar anghenion pobl sy’n gweithio ar draws y sefydliad. Bydd y strategaeth hon yn effeithio ar bobl ledled Cymru, felly rydym hefyd wedi ceisio gwrando ar anghenion pobl Cymru yn ogystal ag anghenion y GIG yn ehangach; llywodraeth ganolog a llywodraeth leol; y byd academaidd; a sectorau eraill. Dylai hynny olygu ein bod yn gweithio i ddiwallu anghenion yr holl bobl a’r holl grwpiau hynny. Bob blwyddyn, byddwn yn rhoi prawf ar b’un a yw’r hyn a wnawn yn diwallu’r anghenion hynny mewn gwirionedd a byddwn yn gofyn a allwn ei wneud yn well. Rhowch wybod i ni os oes yna unrhyw beth yr ydych yn credu y gallwn ei newid i wella’r strategaeth hon.