Neidio i'r prif gynnwy

Brechu COVID-19: Beth i'w ddisgwyl ar ôl y brechiad COVID-19 cyngor i blant a phobl ifanc

 

Brechu COVID-19

Beth i'w ddisgwyl ar ôl y brechiad COVID-19 − cyngor i blant a phobl ifanc pump i 17 oed

 

Awst 2022

Mae'r daflen hon ar gyfer plant a phobl ifanc ac mae'n dweud wrthych beth i'w ddisgwyl ar ôl y brechiad COVID-19.

 

Sgil-effeithiau

Fel pob meddyginiaeth, gall brechiadau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhain fel rheol yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig, ac nid yw pawb yn eu cael. Dylai'r sgil-effeithiau cyffredin iawn bara diwrnod neu ddau yn unig.

Mae sgil-effeithiau cyffredin iawn yn y diwrnod cyntaf neu ddau yn cynnwys:

  • Teimlad trwm neu ddolur lle cawsoch y pigiad
  • Poenau cyffredinol neu symptomau tebyg i ffliw
  • Teimlo’n flinedig
  • Pen tost/cur pen, a  
  • thwymyn ysgafn.

Un sgil-effaith anghyffredin yw chwarennau chwyddedig yn y gesail neu'r gwddf ar yr un ochr â'r fraich lle y rhoddwyd y brechlyn. Gall hyn bara tua 10 diwrnod, ond os yw'n para'n hirach cysylltwch â'ch meddygfa i gael cyngor.

Efallai y bydd gennych dwymyn ysgafn am ddau i dri diwrnod ar ôl y brechiad. Fodd bynnag, mae tymheredd uchel yn anarferol a gall fod oherwydd bod gennych haint neu salwch arall. Os ydych yn poeni, siaradwch â'ch meddyg neu nyrs. Gall plant a phobl ifanc gymryd parasetamol (yn y dos a'r ffurf gywir ar gyfer eu hoedran) i'w helpu i deimlo'n well. Mae'n bwysig darllen y cyfarwyddiadau ynghylch dos ar (neu yn) y pecyn.

Cofiwch ─ ni ddylai plant a phobl ifanc o dan 16 oed gymryd meddyginiaethau sy'n cynnwys asbrin.

 

A oes sgil-effeithiau eraill mwy difrifol?

Mae achosion o lid y galon (o'r enw myocarditis neu bericarditis) wedi'u nodi'n anaml iawn ar ôl brechlynnau COVID-19. 

Mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn gwella ac yn teimlo'n well ar ôl gorffwys a thriniaeth syml.

Mynnwch gyngor meddygol ar frys os byddwch yn sylwi ar y sgil-effeithiau canlynol.

  • Poen yn y frest.
  • Prinder anadl.
  • Calon sy'n curo'n gyflym, yn dirgrynu neu'n curo fel gordd

 

Beth i'w wneud os ydych yn pryderu am symptomau

Mae’r symptomau yma’n para llai nag wythnos fel rheol.

Os yw'r symptomau fel pe baent yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, gallwch fynd i 111.wales.nhs.uk ar-lein, ffonio GIG 111 Cymru drwy ddeialu 111, neu cysylltwch â'ch meddygfa.

Os byddwch yn cael cyngor gan feddyg neu nyrs, sicrhewch eich bod yn dweud wrthynt am y brechiad (dangoswch y cerdyn cofnod brechlyn iddynt, os oes modd) er mwyn iddynt allu cynnal asesiad iawn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r cerdyn cofnod brechlyn yn ddiogel.

Gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau a amheuir brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Yellow Card. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy chwilio am y cynllun Yellow Card, drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

 

A allwch ddal COVID-19 o'r brechlyn?

Ni allwch ddal COVID-19 o’r brechlyn gan nad yw'r brechlynnau'n cynnwys organebau sy'n tyfu yn y corff felly ni allant achosi haint COVID-19.  Mae'n bosibl eich bod wedi dal COVID-19 a heb gael y symptomau tan ar ôl y brechiad. Symptomau pwysicaf COVID-19 yw:

  • Peswch cyson newydd,
  • tymheredd uchel, neu
  • golli, neu newid, yn y synnwyr blasu neu arogli arferol.

Os oes gennych symptomau haint COVID-19, arhoswch gartref a dilyn y canllawiau cenedlaethol presennol drwy fynd i: llyw.cymru/coronafeirws

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am symptomau ewch i: 111.wales.nhs.uk

 

Amddiffyniad o'r brechiad COVID-19

Mae'r brechlyn yn cynhyrchu ymateb imiwnyddol cryf ac mae'n rhoi amddiffyniad da yn erbyn salwch difrifol o COVID-19.

Gall gymryd ychydig wythnosau i ddatblygu rhywfaint o amddiffyniad o'r brechlyn. Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol – efallai y bydd rhai pobl yn dal i gael COVID-19 er iddynt gael brechiad, ond dylai'r effeithiau fod yn llai difrifol.

Efallai na fydd plant a phobl ifanc ag anhwylderau'r system imiwnedd yn creu ymateb imiwnyddol cryf i'r brechlyn, ond dylai gynnig amddiffyniad iddynt yn erbyn clefyd difrifol.

 

Sut y mae COVID-19 yn lledaenu?

Mae COVID-19 yn cael ei ledaenu drwy ddafnau sy’n cael eu hanadlu allan o’r trwyn neu’r geg, yn enwedig wrth siarad neu besychu. Hefyd gellir ei ddal drwy gyffwrdd eich llygaid, eich trwyn a’ch ceg ar ôl cyswllt â gwrthrychau ac arwynebau wedi’u llygru.

Rhaid i chi barhau i ddilyn y canllawiau presennol yn llyw.cymru/coronafeirws

 

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechlynnau a gynigir yng Nghymru yn:  icc.gig.cymru/brechlyn

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau, gan gynnwys eu cynhwysion a sgil-effeithiau posibl, yn: www.medicines.org.uk/emc. Bydd angen i chi roi'r geiriau ‘brechlyn COVID’ yn y blwch chwilio.

Gallwch roi gwybod am sgil-effeithiau a amheuir yn www.mhra.gov.uk/yellowcard neu drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card,  neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

I gael gwybod sut y mae'r GIG yn defnyddio eich gwybodaeth, ewch i:

111.wales.nhs.uk/amdanomni/eichgwybodaeth

I gael y daflen hon mewn fformatau eraill ewch i:

icc.gig.cymru/brechlynnau/adnoddau-hygyrch

 

© Iechyd Cyhoeddus Cymru, Awst 2022

(gyda chydnabyddiaeth i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU)

Fersiwn 1