Neidio i'r prif gynnwy

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Dros y pedair blynedd diwethaf, mae nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty ac yn marw o COVID-19 wedi gostwng. I'r rhan fwyaf o bobl, mae COVID-19 yn haint ysgafn, er y gall wneud i chi deimlo'n sâl o hyd. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn wynebu risg uwch o gael salwch difrifol.  

 Nod rhaglen brechu rhag COVID-19 yw amddiffyn y rhai sydd â'r risg uchaf o ddatblygu salwch difrifol. Mae COVID-19 yn fwy difrifol i bobl hŷn (gan gynnwys y rhai mewn cartrefi gofal) a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol. Wrth i COVID-19 barhau i ledaenu yng Nghymru, mae’n bwysig iawn i chi neu’ch plentyn gael eich brechu os ydych chi’n gymwys i’w gael. Mae brechu yn helpu i leihau'r risg y bydd unigolyn angen gofal ysbyty oherwydd bod COVID-19 ganddynt.    

Mae Cymru yn dilyn polisi Llywodraeth Cymru ar bwy sy’n gymwys i gael brechiadau COVID-19. Mae’r polisi hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch pwy sy’n wynebu’r risg fwyaf o gael salwch difrifol a marw o COVID-19.  

Cynnwys

Gall cael eich brechu rhag COVID-19 helpu i leihau’r risg y byddwch yn datblygu salwch difrifol a marw o’r feirws. Rhowch amddiffyniad i’ch hun a'ch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.   

Bydd y bobl sy’n wynebu’r risg uchaf o ddatblygu salwch difrifol o haint COVID-19 yn cael cynnig brechiad y gwanwyn hwn. Rydym yn argymell y dylech gael eich brechiad cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.  

Rhaglen frechu'r gwanwyn

Pam mae angen brechiad COVID-19 ar rai pobl yn ystod y gwanwyn?

Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefel yr amddiffyniad leihau dros amser. Bydd dos tymhorol y gwanwyn yn helpu i'ch amddiffyn am gyfnod hwy. Bydd hefyd yn helpu i leihau’r risg y bydd angen i chi fynd i’r ysbyty oherwydd haint COVID-19. 

Pryd fydd brechlyn tymhorol y gwanwyn yn cael ei roi? 

Os ydych yn gymwys i gael dos y gwanwyn, caiff ei gynnig rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl i chi gael eich dos diwethaf o'r brechlyn. Os byddwch yn sâl rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, efallai y byddwch yn gallu cael y brechlyn ym mis Gorffennaf. 

Sut fyddaf yn cael fy mrechlyn?

Bydd y GIG yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd a ble y gallwch gael y brechlyn. Mae'n bwysig dod i'r apwyntiad pan gewch wahoddiad i wneud hynny.  

Os na allwch fynd i’r apwyntiad, rhowch wybod i'r tîm archebu fel y gallant roi eich apwyntiad i rywun arall. Mae manylion cyswllt y tîm ar y llythyr apwyntiad.  

Am fwy o fanylion, ewch i Rhaglen brechu rhag COVID-19 - LLYW.CYMRU (safle allanol). 

Oedolion

Mae COVID-19 yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol i oedolion hŷn a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Bydd oedolion sydd â risg uwch o ddatblygu salwch COVID-19 difrifol yn cael cynnig brechiad y gwanwyn hwn. Mae cael brechlyn COVID-19 yn helpu i leihau’r risg y bydd unigolyn yn datblygu salwch difrifol neu’n marw o COVID-19.  

Bydd oedolion yn y grwpiau canlynol yn gymwys i gael un dos o frechlyn COVID-19 yn ystod gwanwyn 2025:  

  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn  

  • oedolion 75 oed a hŷn   

  • oedolion 18 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan.  

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf addas ar gyfer eich oedran a'ch cyflwr.   

Gwnewch yn siŵr nad ydych yn oedi cyn cael eich brechlyn COVID-19 os cewch eich cynghori i wneud hynny.  

Sut fyddaf i'n gwybod a oes gennyf system imiwnedd wan?   

Mae system imiwnedd wan yn golygu na all eich corff frwydro yn erbyn heintiau cystal ag y byddai fel arfer. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd:  

  • yn cael cemotherapi neu radiotherapi radical 

  • wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn, bôn-gelloedd neu organau 

  • yn byw gyda HIV (ar unrhyw gam) 

  • yn cael diagnosis o fyeloma ymledol 

  • ag anhwylder genetig sy'n effeithio ar y system imiwnedd (megis IRAK-4, NEMO, anhwylder antigen neu SCID) 

  • yn cael therapi biolegol i atal y system imiwnedd (er enghraifft, rituximab, alemtuzumab neu anti-TNF) 

  • yn cymryd (neu ar fin cymryd) steroidau am fwy na mis ar ddos penodol 

  • â hanes o lewcemia, lymffoma, neu fyeloma 

  • yn cael triniaeth hirdymor i atal imiwnedd ar gyfer clefyd awto-imiwn. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i Rhaglen brechu rhag COVID-19 - LLYW.CYMRU (safle allanol) neu cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch Bwrdd Iechyd lleol.  

Plant a phobl ifanc 

Gall COVID-19 effeithio ar unrhyw un. I'r rhan fwyaf o blant, mae COVID-19 yn salwch ysgafn nad yw’n arwain at broblemau yn aml. Fodd bynnag, mae rhai plant yn wynebu risg uwch, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda chyflyrau iechyd penodol.   

Cynghorir plant a phobl ifanc rhwng chwe mis ac 17 oed sydd â system imiwnedd wan i gael y brechlyn COVID-19 y gwanwyn hwn. Mae brechu yn ei gwneud hi’n llai tebygol y bydd unigolyn yn mynd yn ddifrifol wael neu farw o COVID-19. Mae cael eich brechu yn ffordd ddiogel ac effeithiol o amddiffyn eich plentyn rhag salwch difrifol ac angen gofal mewn ysbyty.

Pa blant a phobl ifanc fydd yn cael cynnig brechlyn COVID-19 y gwanwyn hwn?   

Bydd plant rhwng chwe mis ac 17 oed sydd â system imiwnedd wan yn cael cynnig brechlyn COVID-19. Mae hyn yn cynnwys plant sydd:  

 

  • yn cael cemotherapi neu radiotherapi radical 

  • wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn, bôn-gelloedd neu organau 

  • ag anhwylder genetig sy'n effeithio ar y system imiwnedd (megis IRAK-4, NEMO, anhwylder antigen neu SCID) 

  • â chanser y gwaed neu’r mêr esgyrn 

  • yn cael therapi biolegol i atal y system imiwnedd (er enghraifft, rituximab, alemtuzumab neu anti-TNF) 

  • yn cael eu trin neu’n debygol o gael eu trin â steroidau dos uchel neu gymedrol 

  • cymryd meddyginiaeth drwy'r geg sy'n effeithio ar y system imiwnedd 

  • yn dioddef o glefyd awto-imiwn sydd angen triniaeth hirdymor. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i Rhaglen brechu rhag COVID-19 - LLYW.CYMRU (safle allanol) neu cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch Bwrdd Iechyd lleol.  

A yw'r brechlyn COVID-19 yn ddiogel i blant a phobl ifanc?   

Mae'r holl feddyginiaethau a brechlynnau yn y DU yn cael eu monitro'n agos gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Mae wedi cymeradwyo'r brechlynnau i'w defnyddio mewn plant a phobl ifanc, gan eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol.   

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau COVID-19 a roddir i blant a phobl ifanc, gan gynnwys eu cynhwysion a’u sgil-effeithiau posibl, ewch i medicines.org.uk/emc (safle allanol, Saesneg yn unig). Bydd angen i chi roi'r geiriau 'COVID vaccine' yn y blwch chwilio. Gallwch hefyd weld y daflen i gleifion ar-lein.   

Brechiad COVID-19 ac imiwnoataliaeth difrifol  

Mae’n bosibl na fydd pobl chwe mis oed a hŷn sydd ag imiwnoataliaeth difrifol yn ymateb yn dda i frechlyn COVID-19. Mae gan y bobl hyn system imiwnedd wan iawn oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd neu’n cael triniaeth feddygol.  

Efallai y bydd angen dos ychwanegol o’r brechlyn arnynt.   

  • Os nad ydych erioed wedi cael brechlyn COVID-19, neu os ydych wedi datblygu imiwnoataliaeth difrifol yn ddiweddar, dylech gael eich ystyried ar gyfer cael eich dos cyntaf o’r brechlyn, ni waeth beth fo’r adeg o’r flwyddyn.   

  • Os ydych wedi cael brechiad COVID-19 o’r blaen ac rydych chi wedi datblygu imiwnoatalaeth difrifol, dylech gael eich ystyried am gael dos ​​ychwanegol. Dylech gael y brechlyn dri mis ar ôl eich dos diwethaf, ni waeth beth fo'r adeg o'r flwyddyn.   

Nod y dos ychwanegol yw rhoi hwb i'ch amddiffyniad tan yr ymgyrch dymhorol nesaf. Gall pobl sy'n dioddef imiwnoataliaeth difrifol hefyd fod yn gymwys ar gyfer rhagor o ddosau tymhorol, yn seiliedig ar gyngor arbenigol.    

Am ragor o wybodaeth, ewch i:   

Er mwyn canfod sut i gael eich brechlyn COVID-19, ewch i: 

Brechlyn Gwanwyn COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru