Cyhoeddwyd: 13 Ebrill 2021
I ddechrau, bydd brechlyn Moderna yn cael ei weinyddu i nifer dethol o fyrddau iechyd wedi’u halinio i sicrhau bod swm y brechlyn a gafwyd yng Nghymru yn cael ei weinyddu yn y modd gorau posibl.
Mae arweinwyr ESR ac awdurdodau lleol wedi cael gwybod bod y modiwl e-ddysgu hwn ar gael. Maent wedi cael eu briffio ar sut i gefnogi staff os oes unrhyw broblemau o ran cael mynediad at e-ddysgu imiwneiddio COVID-19. Os bydd unrhyw un yn cael problemau mewngofnodi neu unrhyw anawsterau technegol wrth geisio cael mynediad at e-ddysgu drwy lwyfan ESR neu Dysgu@Cymru gallant gysylltu ag
elearning@wales.nhs.uk
Efallai y bydd ychydig bach o oedi cyn y bydd modiwl e-ddysgu brechlyn COVID-19 Moderna yn ymddangos ar lwyfannau ESR a Dysgu@Cymru.
Atgoffir pob hyfforddwr bod
offeryn asesu cymhwysedd a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi’i ddiweddaru ar 15 Mawrth. Gan mai brechlyn Moderna bellach yw’r trydydd brechlyn COVID-19 sydd ar gael, mae colofn ychwanegol wedi’u hychwanegu fel y gall brechwyr gael eu hasesu/hunanasesu ar gyfer y gwahanol fathau o frechlyn COVID-19. Yn ogystal, ychwanegwyd dau gymhwysedd penodol newydd ar y wybodaeth ofynnol ynghylch gwanedu a chyfaint y brechlyn.