Neidio i'r prif gynnwy

E-ddysgu COVID-19: Modiwl penodol Brechlyn COVID-19 Moderna ar gael nawr

Cyhoeddwyd: 13 Ebrill 2021
 
 
I ddechrau, bydd brechlyn Moderna yn cael ei weinyddu i nifer dethol o fyrddau iechyd wedi’u halinio i sicrhau bod swm y brechlyn a gafwyd yng Nghymru yn cael ei weinyddu yn y modd gorau posibl.
 
Mae modiwl e-ddysgu Brechlyn COVID-19 Moderna bellach ar gael. Gall imiwneiddwyr a gyflogir gan y GIG gael mynediad at y modiwl hwn drwy ESR, edrychwch yma i gael rhagor o wybodaeth http://nww.immunisation.wales.nhs.uk/elearning (Mewnrwyd)
 
Gall staff nad ydynt yn rhan o GIG Cymru gael mynediad at y modiwl drwy lwyfan Dysgu@Cymru ewch i phw.nhs.wales/immslearning (Mewnrwyd) i gael rhagor o wybodaeth.
Mae arweinwyr ESR ac awdurdodau lleol wedi cael gwybod bod y modiwl e-ddysgu hwn ar gael. Maent wedi cael eu briffio ar sut i gefnogi staff os oes unrhyw broblemau o ran cael mynediad at e-ddysgu imiwneiddio COVID-19. Os bydd unrhyw un yn cael problemau mewngofnodi neu unrhyw anawsterau technegol wrth geisio cael mynediad at e-ddysgu drwy lwyfan ESR neu Dysgu@Cymru gallant gysylltu ag elearning@wales.nhs.uk
 
Efallai y bydd ychydig bach o oedi cyn y bydd modiwl e-ddysgu brechlyn COVID-19 Moderna yn ymddangos ar lwyfannau ESR a Dysgu@Cymru.
 
Os ceir unrhyw broblemau o ran mynediad at y modiwlau COVID-19 cysylltwch â: support@e-lfh.org.uk
 
Mae dogfennau hyfforddi a chanllawiau brechu COVID-19 ar gael yma: http://nww.immunisation.wales.nhs.uk/covid-19-vaccination-programme (GIG Cymru yn unig)
 
Ceir microwefan allanol (sy'n wynebu’r cyhoedd) hefyd: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/  mae gan y safle hwn adran i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae adnoddau hyfforddi COVID-19 hefyd yn cael eu lanlwytho yma.
 
Atgoffir pob hyfforddwr bod offeryn asesu cymhwysedd a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi’i ddiweddaru ar 15 Mawrth. Gan mai brechlyn Moderna bellach yw’r trydydd brechlyn COVID-19 sydd ar gael, mae colofn ychwanegol wedi’u hychwanegu fel y gall brechwyr gael eu hasesu/hunanasesu ar gyfer y gwahanol fathau o frechlyn COVID-19. Yn ogystal, ychwanegwyd dau gymhwysedd penodol newydd ar y wybodaeth ofynnol ynghylch gwanedu a chyfaint y brechlyn.