Neidio i'r prif gynnwy

A ellir rhoi RSV ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Mae'n bwysig eich bod yn cael eich brechlynnau ar yr adeg gywir yn ystod beichiogrwydd. Mae brechlyn y pas fel arfer yn cael ei gynnig yn gynharach o 16 wythnos ymlaen. Gellir rhoi’r brechlynnau ffliw a COVID-19 ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Dylech gael y rhain cyn gynted ag y byddant ar gael i chi.  

Pan gynigir eich brechlyn RSV i chi, os nad ydych wedi cael eich brechlynnau’r pas, ffliw neu COVID-19 eto, gallwch eu cael ar yr un pryd. 

Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch am y brechlynnau, sut y gallant eich diogelu chi a'ch babi a phryd y dylech eu cael, gallwch ofyn i'ch bydwraig.