Mae feirws syncytiol anadlol (RSV) yn achos cyffredin o heintiau'r llwybr anadlol. Mae haint RSV yn fwy cyffredin mewn plant ond mae’n fwyaf difrifol i fabanod bach ac oedolion hŷn. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi cael RSV pan oeddent yn blentyn, ond efallai na fydd haint yn y gorffennol yn eich atal rhag cael RSV eto.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd, ac fel arfer mae'n gwella ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, mae nifer fach o oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn, yn enwedig os oes ganddynt broblemau iechyd eraill, megis clefyd y galon neu'r ysgyfaint neu system imiwnedd wan.
Bob blwyddyn, mae angen gofal ysbyty ar hyd at 1000 o bobl dros 75 oed oherwydd RSV, a gall rhai o'r bobl hyn farw.
Gall heintiau RSV ddigwydd trwy gydol y flwyddyn, ond mae achosion yn codi yn ystod yr hydref a'r gaeaf.
Gallwch helpu i amddiffyn eich hun rhag salwch difrifol o RSV drwy gael y brechiad RSV pan gaiff ei gynnig i chi.