Neidio i'r prif gynnwy

Oes gan y brechiadau hyn sgil-effeithiau?

Mae'r brechiadau hyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd. Mae brechiadau’r ffliw a’r pas wedi cael eu rhoi yn ddiogel i ferched beichiog ers blynyddoedd lawer, ac mae mwy na 200,000 o ferched beichiog wedi cael brechiadau COVID-19 erbyn hyn heb unrhyw bryderon diogelwch.

Fodd bynnag, fel pob meddyginiaeth, gall brechiadau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd eu bod yn gweithio drwy ysgogi ymateb yn eich system imiwnedd. Mae’r rhan fwyaf o'r sgil-effeithiau hyn yn ysgafn ac yn para ychydig ddyddiau yn unig, ac nid yw pawb yn eu cael.

Y sgil-effaith fwyaf cyffredin yw braich ddolurus lle cawsoch y pigiad. Mae sgil-effeithiau eraill yn cynnwys tymheredd braidd yn uchel, teimlo'n flinedig, poenau cyffredinol, oerfel neu symptomau tebyg i’r ffliw, chwydd yn y fraich y cawsoch y brechiad ynddi, colli archwaeth bwyd, anniddigrwydd, a phen tost / cur pen. Mae sgil-effeithiau difrifol yn brin iawn.

Mae'r symptomau hyn yn para llai nag wythnos fel arfer. Os yw eich symptomau fel pe baent yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, ffoniwch 111 i gyrraedd GIG 111 Cymru. Gallwch siarad â’ch meddyg neu eich bydwraig hefyd. Os byddwch yn cael cyngor gan feddyg neu fydwraig, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthynt am eich brechiadau er mwyn iddynt allu eich asesu'n iawn.

Gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau i frechiadau a meddyginiaethau rydych chi’n eu hamau drwy’r cynllun Yellow Card. Gallwch wneud hyn ar-lein yn www.mhra.gov.uk/yellowcard neu drwy lawrlwytho'r ap Yellow Card, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).