Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd angen i mi ei wneud?

 

Bydd y GIG yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch pryd a ble i gael eich brechu. Os nad ydych yn siŵr beth sydd orau i chi, trafodwch hyn gyda'ch bydwraig, a fydd yn esbonio mwy ynghylch y brechiadau a sut gallant helpu i'ch diogelu chi a'ch babi. Mae'n ddiogel cael yr holl frechiadau yn yr un apwyntiad os yw'n briodol.

Os ydych chi’n sâl ar adeg eich apwyntiad, mae'n well aros nes y byddwch wedi gwella cyn cael eich brechiadau, ond dylech geisio eu cael cyn gynted â phosibl.