Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am frechiadau yn ystod beichiogrwydd

Sut i ddiogelu eich hun a’ch babi

Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn naturiol yn wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod yn llai tebygol o frwydro yn erbyn heintiau a all fod yn niweidiol i chi a'ch babi. 

Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal afiechyd neu wneud salwch yn llai difrifol i chi, ac i'ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo i'ch babi heb ei eni, gan helpu i'w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.  
 

 

 

Pa frechiadau sy'n cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd?

Argymhellir brechiadau i amddiffyn rhag y pas (pertwsis), feirws syncytiol anadlol (RSV), ffliw a COVID-19 yn ystod beichiogrwydd i helpu i'ch cadw chi a'ch babi yn ddiogel. 

Brechlyn 

Pryd i gael y brechlyn 

Y pas (pertwsis) 

Wedi'i gynnig o 16 wythnos. 

Yr amser gorau i gael brechlyn y pas yw rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd.   

RSV (feirws syncytiol anadlol) 

Wedi'i gynnig o 28 wythnos. 

Yr amser gorau i gael y brechlyn RSV yw rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd.   

Ffliw (firws ffliw) 

Wedi'i gynnig yn ystod tymor y ffliw (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd). 

Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.   

COVID-19 (coronafeirws) 

Wedi'i gynnig yn ystod tymor COVID-19 yn unol â chanllawiau'r llywodraeth (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd). 

Dylech gael y brechlyn COVID-19 cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.  

 

Adnoddau pellach