Fel arfer, mae gan nifer yr achosion o bertwsis batrwm cylchol gyda brigau mewn achosion bob tair i bedair blynedd. Y brig cyn 2012 yng Nghymru a Lloegr oedd yn 2008, gyda 902 o achosion wedi'u cadarnhau mewn labordy (PHE, 2013). Yn 2012, cafwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o bertwsis a nodwyd yn y DU (Kmietowicz, 2012), UDA (Canolfannau Atal a Rheoli Clefydau, 2015), Seland Newydd (Institute of Environmental Science and Research Ltd, 2012) ac Awstralia (Llywodraeth Gorllewin Awstralia, 2012). Yng Nghymru, cadarnhawyd 358 o achosion yn 2012, roedd 26 o achosion mewn babanod o dan un oed ac roedd 21 ohonynt o dan dri mis oed (PHE, 2013). Babanod o dan flwydd oed yw'r grŵp sydd fwyaf tebygol o ddioddef cymhlethdodau difrifol.
Yn ystod 2013 a 2014 gostyngodd nifer yr achosion o bertwsis a gadarnhawyd yng Nghymru cyn codi eto yn 2015 a 2016. Yn ystod 2017 a 2018 gostyngodd nifer yr achosion a gadarnhawyd i 171 ac 112 yn y drefn honno cyn cynyddu eto yn 2019 i 182 o achosion a gadarnhawyd. Mae'r rhan fwyaf o achosion mewn oedolion. Mae cadarnhad labordy o bertwsis mewn babanod o dan un oed yn ôl blwyddyn wedi gostwng yn gyson ers 2015, yn enwedig mewn babanod o dan 3 mis oed.
Blwyddyn | Nifer o achosion | Cyfradd fesul 100,000 o'r boblogaeth |
---|---|---|
2010 | 14 | 0.46 |
2011 | 73 | 2.38 |
2012 | 358 | 11.65 |
2013 | 200 | 6.49 |
2014 | 115 | 3.72 |
2015 | 285 | 9.20 |
2016 | 255 | 8.19 |
2017 | 171 | 5.47 |
2018 | 112 | 3.57 |
2019 | 182 | 5.77 |
2020 | 37 | 1.17 |
2021 | 10 | 0.32 |
2022 | 6 | 0.19 |
2023 | 73 | 2.30 |
Blwyddyn | dan 3 mis | 3 i 5 mis | 6 i 11 mis | 1-4 | 5-9 | 10-14 | 15-24 | 25-34 | 35-44 | 45-64 | 65+ | Pob oedran |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
2010 | 2 | 0 | 0 | 0 | 0 | 2 | 3 | 2 | 2 | 3 | 0 | 14 |
2011 | 25 | 0 | 1 | 2 | 2 | 1 | 7 | 7 | 11 | 15 | 2 | 73 |
2012 | 21 | 4 | 1 | 3 | 4 | 24 | 47 | 46 | 74 | 109 | 25 | 358 |
2013 | 6 | 2 | 0 | 1 | 7 | 21 | 26 | 22 | 37 | 62 | 16 | 200 |
2014 | 3 | 0 | 1 | 2 | 6 | 14 | 14 | 17 | 15 | 26 | 17 | 115 |
2015 | 10 | 2 | 1 | 13 | 18 | 36 | 31 | 30 | 45 | 69 | 30 | 285 |
2016 | 8 | 2 | 1 | 4 | 9 | 27 | 22 | 31 | 54 | 66 | 31 | 255 |
2017 | 5 | 1 | 1 | 2 | 4 | 12 | 17 | 16 | 31 | 57 | 25 | 171 |
2018 | 4 | 0 | 1 | 4 | 5 | 9 | 8 | 11 | 17 | 36 | 17 | 112 |
2019 | 0 | 0 | 1 | 8 | 15 | 19 | 9 | 20 | 27 | 57 | 26 | 182 |
2020 | 0 | 0 | 1 | 2 | 3 | 3 | 5 | 2 | 5 | 13 | 3 | 37 |
2021 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 4 | 4 | 2 | 10 |
2022 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 | 0 | 0 | 2 | 1 | 2 | 6 |
2023 | 1 | 0 | 3 | 4 | 5 | 13 | 7 | 5 | 8 | 15 | 12 | 73 |
Chwarter | Nifer yr achosion yn 2019 | % o cyfanswm 2019 | Nifer yr achosion yn 2020 | % o cyfanswm 2020 | Nifer yr achosion yn 2021 | % o cyfanswm 2021 | Nifer yr achosion yn 2022 | % o cyfanswm 2022 | Nifer yr achosion yn 2023 | % o cyfanswm 2023 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Jan-Mar | 30 | 16.5 | 29 | 78.4 | 2 | 20 | 1 | 16.7 | 0 | 0 |
Apr-Jun | 35 | 19.2 | 6 | 16.2 | 1 | 10 | 2 | 33.3 | 13 | 17.8 |
Jul-Sep | 60 | 33 | 2 | 5.4 | 2 | 20 | 0 | 0 | 29 | 39.7 |
Oct-Dec | 57 | 31.3 | 0 | 0 | 5 | 50 | 3 | 50 | 31 | 42.5 |
Mae pertwsis yn glefyd y gellir ei atal drwy frechu. Mae'r brechlyn pertwsis wedi'i gynnwys yn y ‘pigiad 6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/HepB a roddir i fabanod yn 2, 3 a 4 mis oed.
Gan fod imiwnedd rhag pertwsis yn pylu dros amser, mae pigiad atgyfnerthu wedi'i gynnwys hefyd yn y pigiadau atgyfnerthu ‘4 mewn 1’ cyn oed ysgol (a roddir rhwng 3 a 5 oed) gyda'r nod o leihau salwch mewn grwpiau oedran hŷn a thrwy hynny'n lleihau trosglwyddo pertwsis i fabanod heb eu brechu neu wedi'u brechu'n rhannol.
Oherwydd y cynnydd sylweddol yng nghyfraddau pertwsis yn ystod 2011/12, sefydlwyd rhaglen frechu i gynnig brechu pertwsis i bob mam feichiog yn y DU o wythnos 16 beichiogrwydd.Mae hyn er mwyn helpu i amddiffyn eu babanod newydd-anedig rhag y pas nes eu bod yn ddigon hen i gael eu brechiadau arferol sy'n dechrau o 8 wythnos oed.
Caiff nifer y rhai sydd wedi'u brechu a chwmpas imiwneiddio a argymhellir yn ystod plentyndod eu monitro a'u hadrodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarterol ac yn flynyddol yn lleol ac yn genedlaethol yn yr adroddiad COVER (Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau). Cyhoeddir hwn yn chwarterol ac yn flynyddol.