Neidio i'r prif gynnwy

Tetanws, difftheria a pholio (Td/IPV)(atgyfnerthiad 3 mewn 1)

Rhoddir y brechlyn Td/IPV, a elwir hefyd yn frechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, i hybu gwarchodaeth rhag 3 afiechyd ar wahan: tetanws, difftheria a pholio.

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Rhoddir y brechlyn Td/IPV, a elwir hefyd yn frechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, i hybu gwarchodaeth rhag 3 afiechyd ar wahan: tetanws, difftheria a pholio.

Tetanws

Mae tetanws yn afiechyd sy'n effeithio ar y system nerfol a all achosi sbasmau yn y cyhyrau a phroblemau anadlu a gall lladd. Mae'n cael ei achosi pan fydd bacteria a geir mewn pridd a thail yn mynd i mewn i'r corff drwy friwiau agored.

GIG 111 Cymru - Tetanws (tudalen allanol)

Difftheria

Mae difftheria yn afiechyd difrifol sydd fel rheol yn dechrau gyda dolur gwddw a gall achosi problemau anadlu yn gyflym. Gall niweidio'r galon a'r system nerfol ac, mewn achosion difrifol, gall ladd. Mae'n brin yn y DU, fodd bynnag mae'n bosibl ei ddal wrth deithio mewn gwahanol ranbarthau o'r byd.

GIG 111 Cymru -  Difftheria (tudalen allanol)

Polio

Mae polio yn feirws sy'n gallu ymosod ar y system nerfol a gall achosi parlys parhaol yn y cyhyrau. Os yw'n effeithio ar gyhyrau'r frest neu'r ymennydd, gall polio ladd. Roedd polio yn gyffredin unwaith yn y DU a ledled y byd. Mae bellach yn brin oherwydd bod modd ei atal gyda brechlyn.

GIG 111 Cymru -Polio (tudalen allanol)

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Mae’r brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ar gael am ddim gan y GIG i bob person ifanc yn eu harddegau fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio genedlaethol.

Mae’n cael ei roi fel mater o drefn ar yr un pryd â’r brechlyn MenACWY.

 

Am y brechlyn 3 mewn 1

Enw brand y brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau sy’n cael ei roi yn y DU yw Revaxis.

Pigiad sengl yw hwn fel rheol a roddir yng nghyhyr rhan uchaf y fraich.

Sgîl-effeithiau y brechlyn 3 mewn 1

Mae’r brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau yn frechlyn diogel iawn.

Fel gyda phob brechlyn, mae rhai pobl yn cael mân sgîl-effeithiau fel:

  • Chwyddo
  • Cochni
  • Safle’r pigiad fymryn yn ddolurus  

Weithiau gall lwmp bach, di-boen ddatblygu, ond fel rheol mae’n diflannu mewn ychydig wythnosau.

Mae adweithiau eraill yn brin. Am fwy o wybodaeth am y sgîl-effeithiau cyffredin a phrin ewch i: GIG 111 Cymru - Brechlynnau (tudalen allanol).

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (tudalen allanol) ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn 3 mewn 1 neu'r afiechydon y mae'n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.