Neidio i'r prif gynnwy

Brechlyn polysacarid niwmococol (PPV) (23 seroteipiau)

Mae haint niwmococol yn cael ei achosi gan facteria niwmococol (Streptococcus pneumoniae) a gall achosi salwch difrifol, fel sepsis a llid yr ymennydd.

Ar y dudalen hon

 

Cefndir

Mae haint niwmococol yn cael ei achosi gan facteria niwmococol (Streptococcus pneumoniae) a gall achosi salwch difrifol, fel sepsis a llid yr ymennydd.

Mae rhai unigolion yn cario bacteria niwmococol yng nghefn eu trwyn a'u gwddf a gallant eu pasio o gwmpas trwy beswch, tisian, a chyswllt agos. Fel arfer, nid yw hyn yn arwain at salwch difrifol, ond gall arwain at haint niwmococol, gan gynnwys llid yr ymennydd niwmococol.

Mae pobl 65 oed neu hŷn ac unigolion â chyflyrau iechyd penodol yn fwy tebygol o fynd yn sâl gyda haint niwmococol. Maent yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd hirdymor difrifol oherwydd haint niwmococol a gallant hyd yn oed farw. Mae’r grwpiau hyn yn cael cynnig brechiad niwmococol ar y GIG. Mae'n frechlyn diogel a all helpu i atal rhai o'r mathau difrifol o heintiau niwmococol.

GIG 111 Cymru - Pam fod angen y brechlyn niwmococol (safle allanol).

 

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Mae dau fath gwahanol o frechlyn niwmococol. Mae'r dudalen hon yn rhoi sylw i'r Brechlyn Polysacarid Niwmococol (PPV).

Imiwneiddio rheolaidd gyda PPV

Mae'r brechlyn polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig yn rheolaidd i bob oedolyn 65 oed a hŷn.

Imiwneiddio ar gyfer y rhai sy'n wynebu risg

Efallai y bydd angen y brechlyn hwn hefyd ar rai pobl rhwng dwy a 64 oed sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol sy’n eu gwneud yn fwy tebygol o ddatblygu afiechyd niwmococol:

  • Asplenia neu ddueg diffygiol
  • Afiechyd cronig ar y galon
  • Afiechyd anadlol cronig (nid yw asthma yn arwydd oni bai ei fod mor ddifrifol fel bod angen defnydd ailadroddus parhaus neu aml o steroids systemig)   
  • Afiechyd cronig ar yr arennau
  • Afiechyd cronig ar yr iau / afu  
  • Diabetes melitws sydd angen meddyginiaeth
  • Imiwnoddiffygiant
  • Cyflyrau lle gall gollwng CSF ddigwydd 
  • Unigolion sydd â mewnblaniadau yn y glust
  • Y rhai sy’n wynebu risg alwedigaethol oherwydd mwg metel e.e. Weldwyr

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Siaradwch â'ch meddyg neu nyrs os ydych chi'n meddwl bod arnoch chi neu'ch plentyn angen y brechlyn.

Brechlyn cyfun niwmococol (PCV)

Cynigir y brechlyn PCV i bob plentyn dan ddwy oed fel rhan o raglen frechu plentyndod arferol y GIG. Efallai y bydd angen y brechlyn hwn hefyd ar rai unigolion â chyflyrau meddygol sylfaenol. Mae gwybodaeth am y brechlyn PCV ar gael ar y dudalen Brechlyn cyfun niwmococol (PCV) Niwmococol (13 seroteip).

 

Am y brechlyn

Mae'r brechlyn niwmococol yn darparu rhywfaint o warchodaeth rhag un o achosion mwyaf cyffredin llid yr ymennydd, a rhag cyflyrau eraill fel heintiau difrifol ar y glust a niwmonia a achosir gan facteria niwmococol. Nid yw'r brechlyn hwn yn gwarchod rhag llid yr ymennydd a achosir gan facteria neu feirysau eraill.

Nid yw’r brechlyn polysacarid niwmococol (PPV) yn atal niwmonia, ond mae tystiolaeth dda ei fod yn weddol effeithiol (50-70%) wrth atal afiechyd niwmococol ymledol.

Mae'r brechlyn Polysacarid Niwmococol yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd. Mae'r brechlyn yn anweithredol. Fel arfer caiff ei roi fel pigiad i gyhyr rhan uchaf y fraich.

Gallwch gael gwybod mwy am y brechlyn hwn drwy ddarllen y daflen i gleifion sydd ar gael ar y ddolen ganlynol: Pneumovax23®.

Ble a phryd

Os ydych chi’n gymwys, gallwch gael y brechlyn ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Y tro nesaf y byddwch yn siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gofynnwch iddo ef neu hi am y brechlyn niwmococol.

Sawl dos

Y brechlyn niwmococol a ddefnyddir ar gyfer oedolion yng Nghymru yw'r brechlyn polysacarid niwmococol (PPV, Pneumovax23®). Dim ond un dos o PPV sydd ei angen ar y rhan fwyaf o bobl.

Bydd angen un dos unigol neu un dos bob 5 mlynedd ar unigolion â chyflyrau iechyd hirdymor gan gynnwys rhai plant, yn dibynnu ar eu cyflwr / triniaeth iechyd sylfaenol.

Sgîl-effeithiau'r brechlyn eryr

Fel y rhan fwyaf o frechlynnau, mae sgîl-effeithiau’r brechlyn PPV yn ysgafn fel rheol. Efallai y bydd rhai pobl yn dioddef o’r canlynol: 

  • Chwyddo ac anesmwythyd o amgylch safle’r pigiad am ychydig ddyddiau 
  • Tymheredd fymryn yn uchel

Mae adweithiau eraill yn anghyffredin neu'n brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin, anghyffredin a phrin edrychwch ar:

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru (tudalen allanol) ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn yellowcard.mhra.gov.uk neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

 

Gwybodaeth i'r cyhoedd