Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Mae’r wybodaeth ganlynol yn ymwneud â thymor ffliw 2025-26.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys cyfarwyddyd ac adnoddau yn bennaf er mwyn cefnogi'r rhaglen imiwneiddio rhag y ffliw mewn ysgolion ar gyfer 2025 – 2026. Gall rhywfaint o’r cynnwys fod yn berthnasol hefyd ar gyfer imiwneiddio plant cyn oedran ysgol.
Ar y dudalen hon
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. influenza)
Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer y brechlynnau a chlefydau trwy'r dudalen E-ddysgu .
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi .
Cofiwch fod yr wybodaeth am gymhwysedd am frechlynnau yn wahanol ar gyfer Cymru a Lloegr.
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar y dudalen Templedi a chanllawiau Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGDs) – Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol)
Mae gwybodaeth gwyliadwriaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod: