Mae’r wybodaeth ganlynol yn ymwneud â thymor ffliw 2025-26.
Ar y dudalen hon
Mae’r ffliw yn hynod heintus ac yn achosi haint feirol acíwt ar y llwybr anadlol. Mae'r feirws hwn yn cael ei ledaenu drwy ddafnau, aerosol neu gyswllt uniongyrchol â hylifau anadlol gan unigolyn sydd wedi’i heintio. Y cyfnod deor arferol yw un i dri diwrnod.
Ar gyfer unigolion iach, mae'r ffliw yn annymunol ond fel rheol yn bosib ei reoli, gydag adferiad rhwng dau a saith diwrnod. Mae rhai pobl mewn mwy o berygl iddo achosi salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth. Gall cymhlethdodau’r ffliw gynnwys y canlynol:
Ymhlith y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol oherwydd y ffliw mae:
Mae’r rhan fwyaf o’r brechlynnau ffliw sydd ar gael yn y DU yn anweithredol ac eithrio’r brechlyn ffliw byw wedi’i wanhau (LAIV) – dyma’r brechlyn sy’n cael ei roi i’r rhan fwyaf o blant cymwys. Yr enw brand ar gyfer y LAIV sydd ar gael yn y DU yw Fluenz®. Mae LAIV yn cynnwys feirysau byw sydd wedi'u gwanhau a'u haddasu'n oer fel mai dim ond yn nhymheredd is y llwybrau trwynol y gallant atgynhyrchu.
Oherwydd natur gyfnewidiol feirysau’r ffliw, a newidiadau yn y straen sy'n cylchredeg ac yn achosi afiechyd, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn monitro epidemioleg feirysau'r ffliw ledled y byd ac yn gwneud argymhellion blynyddol ynghylch pa straen y dylid ei chynnwys ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Mae nifer o frechlynnau ffliw wedi'u hanactifadu ar gael. Gallwch ddysgu rhagor am bob brechlyn yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch (SmPC) sydd i'w gael yn y ddolen crynodeb meddyginiaethau electronig (emc) isod drwy nodi enw'r brechlyn:
Mae'r SmPC ar gyfer Brechlyn Ffliw Gwanedig Byw (LAIV) (chwistrell trwyn) ar gael yn:
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. influenza)
Mae'r modiwl e-ddysgu hwn yn addas ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cymorth gofal iechyd sy'n imiwneiddio rhag y ffliw neu'n rhoi cyngor ar imiwneiddio rhag y ffliw. Dyma’r diweddariad clinigol ar gyfer Cymru ac mae wedi’i ddiweddaru ar gyfer tymor y ffliw 2025-26. Mae'r modiwl hwn ar gael ar ESR ac ar y platfform Dysgu@Cymru. Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad at y modiwl yma ar dudalen diweddariad clinigol ar y ffliw ar gyfer Cymru 2025-26.
Mae’r modiwl hwn yn egluro pam mae’r brechlyn ffliw blynyddol mor bwysig i bob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n rhoi trosolwg o’r ffliw a’i gymlethdodau ac yn rhoi manylion am bwy sy’n gymwys i gael y brechlyn a sut i’w gael. Mae’n addas ar gyfer holl weithwyr GIG Cymru, gweithwyr gofal iechyd nad ydynt yn gweithio i’r GIG, pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, y maes gofal cymdeithasol a’r trydydd sector/sector gwirfoddol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad at y modiwl yma: Gwybodaeth am y brechlyn ffliw ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru 2025-26 - Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid yw’r modiwl hwn yn ddiweddariad clinigol.
Mae rhagor o wybodaeth am y modiwlau hyn a sut i gael mynediad iddynt ar gael yma: e-Ddysgu Imiwneiddio - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant brechu ar y dudalen Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio .
Cofiwch fod gwybodaeth am gymhwystra i gael brechlyn yng Nghymru a Lloegr yn wahanol.
Mae templedi Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD) ar gyfer y brechlyn ffliw ar gael o Gyfarwyddiadau Grŵp Cleifion - Gwasanaeth Cyngor Meddyginiaethau Cymru (wales.nhs.uk) (safle allanol).
Mae gwybodaeth am yr oruchwyliaeth ar y ffliw, gan gynnwys y niferoedd sy’n cael y brechiad, i’w gweld yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: Adroddiad wythnosol y ffliw a haint anadlol acíwt.
Mae posib defnyddio ‘cyflymderometr’ i ddangos data am y niferoedd sy’n cael brechiad y ffliw. Ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a hoffai greu eu cyflymderometr eu hunain ar gyfer y niferoedd sy'n cael y brechiad, dyma dempled sy'n cynnwys cyfarwyddiadau.