Ar y dudalen hon
Mae'r pas (sy’n cael ei alw hefyd yn pertwsis) yn haint sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r llwybrau anadlu. Mae'r pas yn heintus iawn, sy'n golygu ei fod yn pasio'n hawdd o un person i'r llall.
Mae'n achosi pyliau hir o beswch a thagu, sy'n ei gwneud hi'n anodd anadlu. Mae’r sŵn ‘hŵp’ yn cael ei achosi gan ebychu am anadl ar ôl pob cyfnod o beswch. Dydi babanod ifanc ddim yn gwneud hyn bob amser, sy’n gallu ei gwneud yn anodd adnabod yr afiechyd. Gall symptomau'r pas bara am ddau i dri mis. Mae'n cael ei ledaenu'n hawdd drwy anadlu dafnau bach iawn sy'n cael eu rhyddhau i'r aer pan fydd pobl sydd â'r afiechyd yn pesychu a thisian.
Gall y pas effeithio ar bobl o bob oed. Gall fod yn ddifrifol iawn ac arwain at broblemau ysgyfaint difrifol (niwmonia) a niwed parhaol i'r ymennydd. Babanod iau na blwydd oed sy’n wynebu'r risg fwyaf o salwch difrifol ac sydd mewn perygl o farw o'r afiechyd.
Mae brechiad y pas yn ffordd ddiogel ac effeithiol o warchod merched beichiog, babanod heb eu geni, babanod a phlant rhag yr haint yma.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechiad a'r afiechyd mae'n gwarchod yn ei erbyn yn GIG 111 Cymru – Brechiadau (safle allanol).
Mae brechiad y pas yn cael ei gynnig i bob menyw feichiog o 16 wythnos y beichiogrwydd ymlaen.
Mae'r warchodaeth o’r brechiad yn cael ei drosglwyddo i'r babi heb ei eni drwy'r brych, gan ei warchod rhag y pas yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd nes iddo gael ei imiwneiddiad arferol cyntaf pan fydd yn wyth wythnos oed. Mae'r brechiad hefyd yn gwarchod merched beichiog rhag cael y pas ac yn lleihau'r risg y byddant yn ei drosglwyddo i'w babi.
Os byddwch yn cael y brechiad yn agos at yr amser y caiff eich babi ei eni, efallai y bydd yn llai effeithiol. Felly, cofiwch gael eich brechiad cyn gynted â phosibl, ar ôl i chi ddod yn gymwys ar ôl 16 wythnos o feichiogrwydd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechiad y pas yn ystod beichiogrwydd ar y dudalen ganlynol.
Beichiogrwydd: Brechiad y pas (pertwsis) yn ystod beichiogrwydd
Mae brechiad y pas yn cael ei gynnig i bob babi a phlentyn ifanc fel rhan o amserlen imiwneiddio plentyndod arferol y GIG.
Hyd yn oed os ydych chi wedi cael brechiad y pas pan oeddech yn feichiog, bydd angen i'ch babi gael ei frechu rhag y pas eto.
Mae babanod yn cael cynnig y brechiad rhag y pas yn wyth, 12 ac 16 wythnos oed. Wedyn mae plant cyn-ysgol yn cael cynnig pedwerydd brechiad y pas yn dair oed a phedwar mis.
Mae'r amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru yn darparu gwybodaeth am frechiadau arferol ac anarferol.
Gall gweithwyr gofal iechyd drosglwyddo heintiau i fabanod yn hawdd. Mae gweithwyr gofal iechyd sydd â chyswllt uniongyrchol â merched beichiog neu fabanod, a’r rhai nad ydynt wedi cael brechiad y pas yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn gymwys i gael brechiad fel rhan o’u gofal iechyd galwedigaethol.
Nid oes brechiad sy'n gwarchod rhag y pas yn unig. Yn lle hynny, mae'r brechiadau sy’n cael eu cynnig yn frechiadau cyfunol sy'n gwarchod rhag gwahanol afiechydon, gan gynnwys y pas.
Nid yw'r brechiadau'n fyw ac ni allant achosi'r pas.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechiad y pas ar y tudalennau canlynol.
Babanod: Brechiad 6 mewn 1
Plant ac oedolion: Brechiad 4 mewn 1
Beichiogrwydd: Brechiad y pas (pertwsis) yn ystod beichiogrwydd
Gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechiad neu’r afiechydon mae’n gwarchod rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Brechu yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r pas. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae'n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau'r pas, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am y pas ewch i
GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Y pas (safle allanol)
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechiad neu’r afiechydon mae’n gwarchod rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.