Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant

Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg. 

Pa newidiadau fydd yn digwydd yn 2026? 

Apwyntiad 18 mis oed: 

  • Ar 1 Ionawr 2026, cafodd apwyntiad brechu newydd ei ychwanegu at yr amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru. Bydd yr apwyntiad hwn yn digwydd pan fydd baban yn 18 mis oed.

  •  Bydd babanod yn cael y brechlyn MMRV yn yr apwyntiad 18 mis hwn. Gweler yr adran ‘Cyflwyno'r brechlyn rhag y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela)’ isod. Bydd babanod hefyd yn cael dos ychwanegol o'r brechlyn 6-mewn-1.  

  • Mae'r dos ychwanegol o’r brechlyn 6-mewn-1 yn helpu i amddiffyn rhag Hib (Haemophilus influenzae math b). Math o germ yw Hib sy’n gallu achosi afiechydonl difrifol. Mae'r rhain yn cynnwys llid yr ymennydd (haint o amgylch yr ymennydd) a niwmonia (haint ar y frest). Yn y gorffennol, roedd amddiffyniad rhag Hib yn cael ei roi fel rhan o'r brechlyn Hib/MenC.

  • Rhoddir y dos ychwanegol o'r brechlyn 6 mewn 1 yn yr apwyntiad 18 mis oed newydd hwn i ddarparu amddiffyniad Hib a roddwyd yn flaenorol gyda Hib/MenC.  
     

Cyflwyno'r brechlyn rhag y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela) 

Ar 1 Ionawr 2026, cafodd brechlyn newydd o'r enw MMRV ei ychwanegu at yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant. Mae MMRV yn helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela).  

Rhoddir y brechlyn MMRV i fabanod yn rhad ac am ddim gan y GIG fel rhan o'u brechiadau rheolaidd. Mae’r brechlyn MMRV wedi cael ei ddefnyddio'n llwyddiannus mewn gwledydd eraill ers blynyddoedd lawer. 

  • Rhoddir y dos cyntaf i fabanod pan fyddant yn 12 mis oed.  

  • Rhoddir yr ail ddos ​​pan fyddant yn 18 mis oed (gweler 'Apwyntiad 18 mis oed' isod). . 

Rhoddir y brechlyn MMRV hefyd i rai plant cymwys yn dibynnu ar oedran eich plentyn ac a yw wedi cael haint brech yr ieir neu'r brechlyn rhag brech yr ieir yn y gorffennol. 

Mae'r brechlyn MMR yn dal i fod ar gael i rai plant hŷn neu oedolion sydd wedi methu un neu'r ddau ddos ​​o frechlyn sy'n cynnwys MMR, neu nad ydynt yn gymwys i gael y brechlyn MMRV.  

Mae'n bwysig cael dau ddos ​​o frechlyn sy'n cynnwys MMR i gael yr amddiffyniad gorau posibl. Gallwch ddysgu mwy am y brechlyn MMRV yn brechlynnau MMRV a MMR 


Rhaglen dal i fyny brech yr ieir 

Mae rhaglen dal i fyny brech yr ieir ar gael i blant cymwys rhwng 3 blwydd a 4 mis oed ac ychydig o dan 6 oed. Mae'r rhaglen hon yn cynnig un dos o'r brechlyn MMRV. Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2028. Mae’r rhaglen ar gyfer plant nad ydynt wedi cael haint brech yr ieir nac wedi cael dau ddos ​​o frechlyn brech yr ieir yn y gorffennol.  

Mae atebion i gwestiynau cyffredin ar gael yn yr adran ‘cwestiynau cyffredin am y newidiadau’ isod
 

Pa frechlynnau sy'n cael eu rhoi a phryd?  

Gan fod yr amserlen imiwneiddio yn newid, bydd cyfnod byr o addasu
Bydd yr hyn y disgwylir i'ch plentyn gael yn dibynnu ar ei oedran ar 1 Ionawr 2026, pan fydd y rhaglen newydd yn dechrau. 

Mae'r canllaw cymhwysedd ar gyfer brechu isod yn rhoi gwybodaeth am ba frechlynnau a roddir i blant a phryd. Bydd eich nyrs practis neu'ch meddyg teulu yn cadarnhau cymhwysedd eich plentyn. 
Mae'n bwysig eu bod yn cael eu brechlynnau cyn gynted ag y cânt eu cynnig.   
Gweler y tablau isod am fanylion.
 

I weld amserlen imiwneiddio gyflawn Cymru, ewch i Amserlenni imiwneiddio rheolaidd i Gymru 

 

Cwestiynau cyffredin am y newidiadau

 

Adnoddau