Mae Hepatitis B yn haint ar yr iau / afu sy’n cael ei achosi gan feirws hepatitis B (HBV) sy’n gallu effeithio ar unrhyw grŵp oedran. Mae'r feirws Hepatitis B (HBV) yn cael ei gludo yn y gwaed a gall achosi llid yn yr iau / afu a gall achosi niwed tymor hir ac weithiau hyd yn oed, marwolaeth. Mae'r organeb yn cael ei lledaenu drwy gyswllt gwaed i waed, cyswllt rhywiol, trosglwyddo amenedigol o'r fam i'r plentyn ac yn anaml o frathiadau gan berson wedi’i heintio. Mae ganddo gyfnod deori o 40 i 160 diwrnod.
Mae Hepatitis B yn afiechyd hysbysadwy.
Gall Hepatitis B ddatblygu i fod yn gronig. Y diffiniad o Hepatitis B cronig yw pan fydd antigen arwyneb Hepatitis B (HBsAg) yn parhau yn y serwm am chwe mis neu fwy. Mae'r risg o ddatblygu Hepatitis B cronig yn dibynnu ar yr oedran pan gaiff pobl eu heintio. Mae 90% o'r rhai sydd wedi'u heintio yn union cyn neu ar ôl genedigaeth yn datblygu Hepatitis B cronig. Mae'n llai aml ymhlith y rhai sy’n cael eu heffeithio yn blant (mae'r risg ymhlith y rhai rhwng un a phump oed rhwng 20 a 50%) ac oedolion, er bod y risg yn uwch ymhlith y rhai sydd â nam ar y system imiwnedd.
Gall 20 i 25 y cant o'r bobl sydd â Hepatitis B cronig ddatblygu afiechyd cynyddol ar yr iau / afu, a all arwain at sirosis, ac maent mewn mwy o berygl o ddatblygu carsinoma hepatogellog.
Mae dau ddosbarth o gynhyrchion ar gael ar gyfer imiwneiddio rhag Hepatitis B. Mae imiwnoglobwlin Hepatitis B yn rhoi imiwnedd dros dro a goddefol wrth aros i'r brechlyn ymateb, a'r brechlyn Hepatitis B, sy'n rhoi imiwnedd gweithredol.
Nid yw'r brechlyn Hepatitis B yn cynnwys organebau byw (mae'n anweithredol) ac ni all achosi'r afiechyd. Mae'n cael ei baratoi o gelloedd burum ac yn cael ei weithgynhyrchu gan dechnoleg DNA ailgyfunol.
Mae’r brechlyn Hepatitis B yn cael ei gynnig i bob babi sydd wedi’i eni ar ôl 1 Awst 2017 fel rhan o amserlen frechu reolaidd y GIG (brechlyn “6-mewn-1”).
Mae’r Rhaglen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau rheolaidd ac afreolaidd.
Brechlyn Hepatitis B yn ystod beichiogrwydd
Gall haint Hepatitis B mewn merched beichiog arwain at afiechyd difrifol i’r fam a haint cronig i’r babi felly fe’ch cynghorir i beidio ag atal brechlyn hepatitis B i fenyw feichiog os yw hi mewn categori risg uchel.
Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw risg o frechu merched beichiog neu fenywod sy'n bwydo ar y fron yn erbyn hepatitis B. Gan ei fod yn frechlyn anweithredol (wedi’i ladd), mae'r risgiau i'r babi heb ei eni yn debygol o fod yn fach iawn a dylid rhoi'r brechlyn hepatitis B pan mae risg bendant o haint.
Babanod sy'n cael eu geni i famau sydd â Hepatitis B
Yn ystod beichiogrwydd, cynigir sgrinio ar gyfer Hepatitis B i bob merch. Mae babanod sy'n cael eu geni i famau y canfyddir eu bod, yn dilyn sgrinio, wedi'u heintio'n gronig â feirws hepatitis B (HBV) neu sydd wedi cael hepatitis B acíwt yn ystod beichiogrwydd, mewn perygl o gael eu heintio â HBV. Yn ogystal â’r brechlynnau hepatitis B arferol, mae angen rhoi dosau ychwanegol o’r brechlyn hepatitis B i fabanod sy’n cael eu geni i famau sydd wedi’u heintio â hepatitis B ar enedigaeth, yn 4 wythnos ac yn 1 mlwydd oed.
Mae rhai mamau sydd wedi’u heintio â hepatitis B yn cael eu hystyried yn famau â risg uchel arbennig oherwydd eu bod yn hynod heintus. Dylai babanod sy’n cael eu geni i’r mamau risg uchel hyn gael chwistrelliad o imiwnoglobwlin Hepatitis B (HBIG) adeg eu geni. Mae HBIG wedi'i wneud o waed ac mae'n cynnwys gwrthgyrff i hepatitis B. Mae'n rhoi amddiffyniad cyflym ond nid yw'n para'n hir. Bydd arnynt angen brechlyn Hepatitis B hefyd i roi amddiffyniad iddynt yn y tymor hwy.
Dylai pob babi sy’n cael ei eni i fam sydd wedi’i heintio â hepatitis B gael prawf gwaed yn 12 mis oed i weld a yw wedi ei heintio â hepatitis B.
Brechlyn Hepatitis B ar gyfer y rhai yr ystyrir eu bod ‘mewn perygl’
Mae pawb mewn grwpiau risg uchel yn cael cynnig y brechlyn hepatitis B hefyd. Mae rhai o’r grwpiau hyn yn cynnwys yr unigolion canlynol:
pobl ag afiechyd cronig ar yr arennau (CKD cam 4 a 5, gan gynnwys haemodialysis) sydd angen Hepatitis B
pobl ag afiechyd cronig ar yr iau / afu (er enghraifft y rhai sydd ag afiechyd difrifol ar yr iau / afu, fel sirosis o unrhyw achos, neu sydd ag afiechyd llai difrifol ar yr iau / afu ac a allai rannu ffactorau risg ar gyfer cael haint hepatitis B, fel unigolion sydd â hepatitis C cronig)
pobl sy’n cael gwaed neu gynhyrchion gwaed yn rheolaidd (er enghraifft, unigolion sydd â hemoffilia, thalasaemia, neu anemia cronig arall) neu ofalwyr sy'n rhoi cynhyrchion o'r fath
pobl sy’n chwistrellu cyffuriau
pobl sy'n bartneriaid rhywiol, yn blant, neu'n gysylltiadau teuluol agos neu gartref â phobl sy'n chwistrellu cyffuriau (PWID)
pobl sy’n newid partneriaid rhywiol yn aml, dynion sy'n cael rhyw gyda dynion (MSM) neu weithwyr rhyw masnachol
pobl sy’n gysylltiadau cartref, teulu agos neu’n gysylltiadau rhywiol i unigolyn sydd â haint hepatitis B
pobl sy'n aelodau o deulu sy'n mabwysiadu plant o wledydd sydd â lefel uchel neu ganolig o hepatitis B
pobl sy’n, neu'n aelod agos o deulu neu'n rhannu cartref gyda gofalwyr maeth tymor byr sy'n derbyn lleoliadau brys
pobl sy’n, neu'n aelod agos o deulu neu'n rhannu cartref â gofalwyr maeth parhaol sy'n derbyn plentyn sydd wedi'u heintio â hepatitis B
pobl sy'n garcharorion mewn sefydliadau cystodaeth yn y DU, gan gynnwys y rhai sydd ar remand
pobl sy’n preswylio mewn llety ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu
pobl sy’n oedolion neu'n blant sy'n mynychu gofal dydd, ysgolion, a chanolfannau ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu ac, yn seiliedig ar asesiad risg lleol, sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad drwy'r croen (fel brathu neu gael eich brathu) yn rheolaidd
pobl sydd mewn perygl galwedigaethol yn unig o ddod i gysylltiad â hepatitis B
pobl sy’n teithio i wledydd risg uchel
Crynodeb o nodweddion cynnyrch
Mae’r brechlyn Hepatitis B yn cael ei roi fel cynnyrch sengl neu gyfun:
Hepatitis B (HepB) unfalens: Engerix B® 10 microgram / 0.5ml, Engerix B® 20 microgram / 1ml, HBvaxPRO® 5 microgram / 0.5ml, HBvaxPRO® 10 microgram / 1ml,
Brechlyn hepatitis A a B cyfun (HeBHepA): Twinrix® Adult Vaccine, Twinrix® Paediatric, Ambirix®
Hepatitis B hecsafalent: Infanrix® Hexa, Vaxelis®
Hepatitis B ar gyfer cleifion arennol: Engerix B® 20 microgram / 1ml, Fendrix® 20 microgram / 0.5ml, HBvaxPRO® 40 microgram / 1ml
Dylid dewis cynnyrch brechlyn priodol ar gyfer y claf.
Mae’r cyfarwyddyd o ran amserlen yn y Llyfr Gwyrdd pennod 18 yn disodli'r SmPC.
Mae’r Rhaglen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn (PDF) yn cynnwys gwybodaeth am frechlynnau rheolaidd ac afreolaidd.
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld drwy ddilyn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio - GOV.UK (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau’r JCVI: chwilio e.e., Hepatitis B)
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
2017. Newid brechlyn ar gyfer y prif imiwneiddio rheolaidd i fabanod.
Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon drwy'r dudalen E-ddysgu.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddi imiwneiddio ar gael ar y dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau.
Hepatitis B: argymhellion brechlyn yn ystod cyfyngiadau cyflenwad - GOV.UK (www.gov.uk)
Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau
Templedi PGD ar gyfer y brechlyn ar gael ar y dudalen Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau.
Mae gwybodaeth goruchwylio brechlynnau ar gael ar y tudalennau isod:
Imiwneiddio Hepatitis B Newydd-anedig – Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales)
Adroddiadau labordy am y feirws Hepatitis B bob wythnos – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Os ydych chi’n ystyried y brechlyn hwn fel rhan o ddiogelu eich iechyd i deithio, edrychwch ar dudalen Brechlynnau Teithio Iechyd Cyhoeddus Cymru