Mae'n rhaid i dîm amlddisgyblaethol mawr weithio gyda'i gilydd mewn carchar er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth hon. Mae ein gwaith yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys cydweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y timau hyn. Ceir dolenni defnyddiol isod mewn perthynas â rhai o'r proffesiynau a gynrychiolir yn y timau hyn, nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.
Fel arfer, caiff timau gofal sylfaenol mewn carchardai eu harwain gan dîm o feddygon teulu.
Rydym yn gweithio'n agos gyda Grŵp Amgylcheddau Diogel (SEG) Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) sydd wedi cyhoeddi nifer o adnoddau er mwyn cefnogi ymarferwyr cyffredinol mewn lleoliadau carchar.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â RCGP Cymru i gynnal sesiynau astudio ar bynciau megis defnyddio sylweddau, gofal diwedd oes a Hepatitis C mewn carchardai yng Nghymru.
"Ni allwch ragweld unrhyw beth ac nid yw dau ddiwrnod yr un peth" Nursing Times (2018)
Nid yw nyrsio yn y carchar yn yrfa adnabyddus iawn. Mae nyrsys sydd â chefndiroedd mewn iechyd oedolion, iechyd meddwl, anableddau dysgu ac iechyd plant a'r glasoed yn cyflawni rolau yn yr ystad carchardai yng Nghymru.
Mae tîm Iechyd a Chyfiawnder Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei arwain gan nyrsys. Rydym yn cydweithio â phartneriaid o bob sefydliad carchar o gefndiroedd iechyd a chyfiawnder. Yn ogystal â hyn, rydym yn gweithio gyda phartneriaid allanol o Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Llywodraeth Cymru, Public Health England, y GIG yn Lloegr, y Coleg Nyrsio Brenhinol a llawer mwy.