Mae Adroddiad Blynyddol Twbercwlosis yng Nghymru 2019 Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod achosion o TB yng Nghymru wedi gostwng i lai na 100. Er bod cyfanswm yr achosion yng Nghymru wedi lleihau, mae canran yr achosion a aned yn y DU wedi cynyddu. Daw'r achosion hyn yn aml o boblogaethau sy'n adrodd lefelau uchel o ffactorau risg cymdeithasol, megis bod yn ddigartref neu yn y carchar neu ddefnyddio cyffuriau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cefnogi'r gwaith o reoli achosion unigol o TB mewn carchardai yng Nghymru, yn ogystal ag achosion diweddar o TB yn un o'r carchardai yng Nghymru.
Yn 2016, cafodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arian gan Lywodraeth Cymru i gynnal rhaglen beilot ar gyfer haint TB cudd mewn carchardai. Nod y peilot oedd ateb y cwestiynau canlynol:
Cafodd y peilot ei arwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y cyd â gwasanaeth TB arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a CEM Caerdydd.
Cynhaliwyd y profion rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2018, a chafodd dros 550 o ddynion eu profi. Cafodd y sawl y gwelwyd eu bod â chanlyniad positif ar gyfer haint TB cudd sgan pelydr-x o'r frest yn y carchar (gan y Gwasanaeth Find and Treat o Lundain) er mwyn nodi unrhyw haint actif.
Gellir gweld y papur a gyhoeddwyd ynghyd â'r canlyniadau yma:
Mae pob carchar yng Nghymru wedi profi achosion a gadarnhawyd o COVID-19 ymysg y carcharorion a'r staff. Cadarnhawyd yr achosion cyntaf ymysg y carcharorion a'r staff y naill ar 17 a'r llall ar 18 Mawrth 2020. Mae carchardai yng Nghymru yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar COVID-19 mewn carchardai a chanolfannau cadw rhagnodedig eraill yn ogystal â pholisïau gweithredu Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi.
Ers canfod yr achosion cyntaf o'r coronafeirws newydd (SARS-CoV-2) yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi wedi bod yn cydweithio i ganfod achosion posibl mewn carchardai yng Nghymru ac ymateb iddynt. Ymysg mesurau eraill, ar ddechrau'r achosion yng Nghymru sefydlwyd rhaglen o brofion rheolaidd ar gyfer pob achos posibl o SARS-CoV-2 ymysg carcharorion, ac ehangwyd y rhaglen profi yn nes ymlaen i gynnwys y staff.
Caiff achosion o COVID-19 mewn carchardai yng Nghymru eu rheoli gan dimau rheoli digwyddiadau. Sefydlwyd Tîm Rheoli Achosion mewn Carchardai Cymru Gyfan ym mis Ebrill 2020, a oedd yn cyfarfod bob wythnos i ddechrau, a phob pythefnos bellach, i oruchwylio materion yn ymwneud â COVID-19 mewn carchardai yng Nghymru. Mae'r aelodau yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru, Llywodraethwyr Carchardai ac Awdurdodau Lleol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiadau misol ar COVID-19 mewn carchardai yng Nghymru: