Mae swyddogaethau'r Rhaglen Diogelu Iechyd yn cynnwys:
Mae'r rhaglen yn ymdrechu i fod yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'n dibynnu ar gydweithio â rhanddeiliaid megis Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru, Byrddau Iechyd y GIG a sefydliadau'r trydydd sector. Cynhelir cyfarfodydd o'r holl sefydliadau'n rheolaidd, ac maent i gyd yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi gwasanaethau iechyd mewn carchardai, ac i weithio tuag at sicrhau bod carchardai yn cynnig amgylchedd sy'n hybu iechyd.
Mae chwe charchar i ddynion yng Nghymru, sydd gyda'i gilydd yn lletya tua 5,000 o garcharorion ar unrhyw adeg benodol:
Mae cyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygu gofal iechyd o fewn carchardai'r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Ers mis Ebrill 2006, GIG Cymru sy'n darparu gwasanaethau iechyd yng ngharchardai'r sector cyhoeddus, a Byrddau Iechyd lleol sy'n eu cyflawni i'r carchardai. Carchar preifat yw CEM ac STI Parc, a chaiff gofal iechyd sylfaenol yn y safle hwn ei gomisiynu gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymedig i gefnogi'r Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd mewn Carchardai yng Nghymru. Cytundeb ar y cyd yw hwn, rhwng Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Byrddau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n nodi blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer gwella iechyd mewn carchardai – sef:
Mae'r blaenoriaethau wedi'u llunio ar sail y cytundeb mai dull carchar cyfan o weithredu yw hwn ar gyfer gwella canlyniadau iechyd a llesiant i garcharorion yng Nghymru.
Mae rhai agweddau ar y gwaith sy'n gysylltiedig â'r Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd mewn Carchardai wedi'u gohirio ar hyn o bryd o ganlyniad i COVID-19, yn enwedig mewn perthynas â chynlluniau ymgysylltu a gwaith gyda rhanddeiliaid. Mae cerrig milltir allweddol sy'n gysylltiedig â'r llif gwaith wedi cael eu diwygio yn unol â hyn.
Darllenwch y Cytundeb partneriaeth yn llawn yma.
Mae Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Senedd Cymru wedi cwblhau ymchwiliad yn ddiweddar i ‘Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion’.
Gellir lawrlwytho'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma: