Mae gwasanaethau ar gael i'ch cynorthwyo chi ac eraill y gallwch fod yn poeni amdanynt. Gall siarad am eich pryderon a'ch problemau wneud pethau'n haws.
Siaradwch â rhywun os nad ydych chi'n iawn
- Llinell Gymorth C.A.L.L.
Dyma linell gymorth iechyd meddwl bwrpasol i Gymru, gall roi cymorth gwrando ac emosiynol cyfrinachol i chi, a'ch helpu i gysylltu â chymorth a allai fod ar gael yn eich ardal leol. Ffoniwch 0800 132 737 neu decstio ‘help’ i 81066.
- Llinell Wybodaeth Mind Cymru
I gael gwybodaeth am fathau o broblemau iechyd meddwl, lle i gael help, meddyginiaeth, triniaethau angen ac eiriolaeth. Ffoniwch 0300 123 3393, anfonwch neges e-bost i info@mind.org.uk neu decstio 86463.
- Samariaid Cymru
Lle diogel i chi siarad ar unrhyw adeg yr hoffech, yn eich ffordd eich hun – am beth bynnag sy'n eich poeni. Ffoniwch am ddim ar 116 123 neu anfonwch e-bost at jo@samaritans.org
- PAPYRUS
Cymdeithas atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc. HOPELINEUK 0800 068 4141 (o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 10pm, a 2pm i 10pm ar benwythnosau a gwyliau banc).
- MEIC
Cymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed ar agor o 8am tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â nhw am ddim drwy ffonio 080880 23456, neges destun 84001 a negeseua gwib ar eu gwefan.
- Cyngor ar Bopeth
Mae'n rhoi cyngor ar gymorth ariannol a gall eich cyfeirio at asiantaethau eraill a allai eich helpu - 03444 77 20 20 (9am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener).