Gofynnwyd i bob un ohonom aros gartref er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws, gyda chanllawiau penodol i oedolion hŷn neu'r rhai sydd mewn mwy o berygl.
Gall creu arferion newydd ac addasu i'r newidiadau hyn deimlo'n anodd. Mae teimlo'n bryderus neu'n rhwystredig yn normal, felly mae'n bwysig cymryd camau i ofalu am eich llesiant meddyliol.
Defnyddiwch y dull canlynol er mwyn helpu i dawelu eich meddwl a gofalu am eich teimladau, eich corff, eich meddyliau a'r hyn rydych yn ei wneud bob dydd:
Edrychwch ar ein tudalen ‘Sut i ofalu am eich llesiant’ i gael syniadau cyffredinol ar sut i beidio â chynhyrfu.
Yn ystod y cyfnod heriol hwn byddwn yn treulio llawer mwy o amser gartref ac ar wahân i'n teulu a'n ffrindiau. Bydd hyn yn golygu rhai newidiadau mawr i'n gweithgareddau a'n harferion arferol. O ganlyniad, mae gofalu am ein hiechyd meddwl a chorfforol yn mynd i fod yn bwysicach nag erioed. Mae gennym rai awgrymiadau a dolenni defnyddiol isod i helpu gyda hynny.