Rydym yn gwybod y gall hwn fod yn amser pryderus, ac efallai fod gennych bryderon penodol os ydych yn feichiog neu os oes gennych fabi. Mae meithrin perthynas gyda'ch babi a chynnal eich perthynas gyda'ch partner, teulu a ffrindiau yn bwysig iawn nawr er mwyn helpu gyda straen a chefnogi datblygiad eich babi.
Efallai eich bod yn profi rhai emosiynau newydd neu anghyfarwydd ar hyn o bryd, a allai ddod i'r amlwg yn eich perthynas â'ch partner. Os ydych chi a'ch partner yn anghytuno am rywbeth, ceisiwch beidio â chynhyrfu ac osgoi codi eich llais. Bydd bywyd cartref tawel, meithringar yn helpu eich babi i dyfu'n hapus ac yn iach. Dyma rai awgrymiadau a allai fod o gymorth:
Mae rhieni newydd yn aml yn ei chael yn ddefnyddiol siarad â'u bydwraig neu ymwelydd iechyd os byddant yn pryderu amdanynt eu hunain neu eu partner.
I gael gwybodaeth ac awgrymiadau ar fondio gyda'ch babi ewch i:
Efallai nad yw'n union fel y gwnaethoch ei ddychmygu, dod â'ch baban adref gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle. Ond mae llawer o rieni newydd wedi bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd o nodi wythnosau cyntaf bywyd eu baban ac aros mewn cysylltiad â'r bobl yn maent yn eu caru. Dyma rai syniadau i roi cynnig arnynt
Efallai y bydd babanod hŷn hefyd yn mwynhau chwarae pi-po, gwneud wynebau doniol neu ymarfer chwifio gyda'u neiniau a'u teidiau ar alwad fideo.
Mae bod yn fam yn adeg pan fo pob profiad yn newydd, ac mae'r pandemig coronafeirws wedi cyflwyno her ychwanegol i rieni newydd. Mae'n bwysig i chi ofalu am eich iechyd meddwl eich hun er mwyn eich galluogi i reoli'r cyfnod pontio hwn i'r ffordd newydd hon o fyw. Gall beichiogrwydd a bod yn rhiant fod yn brofiad emosiynol iawn ac weithiau gall fod yn anodd gwybod a yw eich teimladau'n rhan o'r pontio y gellir ei rheoli, neu'n arwydd y gallech gael budd o gymorth ychwanegol.
Siaradwch â'ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd os ydych chi neu eich partner yn cael trafferth – maent yno i'ch cefnogi.
Mae llawer o famau newydd wedi nodi bod paratoi cynllun llesiant beichiogrwydd ac ar ôl geni yn eu helpu i ofalu am eu hunain a bod yn barod ar gyfer y cyfnod ar ôl genedigaeth eu babi. Gallwch lunio cynllun beichiogrwydd ac ar ôl geni yma.
I gael rhagor o wybodaeth am gadw'n iach gartref ewch i’n tudalen we: Aros yn Iach Gartref.
Mae crio'n normal, ond gall fod yn destun pryder i rieni newydd, yn enwedig yn y sefyllfa bresennol pan rydym i gyd yn mynd allan yn llai aml ac yn addasu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau neu deulu mewn ffyrdd newydd. Gall babanod grio am lawer o resymau fel os ydynt yn llwglyd, yn flinedig, yn wlyb/fudr neu os ydynt yn sâl. Os yw eich babi'n crio, gwiriwch yr anghenion sylfaenol hyn a rhowch gynnig ar rai technegau tawelu syml:
Efallai na fydd y technegau hyn yn gweithio bob amser. Efallai y bydd angen cyfuniad neu fwy nag un ymgais i gysuro'ch babi. Os credwch fod rhywbeth o'i le ar eich babi neu os na fydd y crio yn stopio, siaradwch â'ch meddyg teulu, eich bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd. Os ydych yn poeni bod eich babi'n sâl gallwch hefyd ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 (neu 111 os yw ar gael yn eich ardal). Os byddwch chi neu eich plentyn yn profi argyfwng meddygol dylech ffonio 999.
I gael awgrymiadau ar ymdopi â babi sy'n crio Cliciwch yma.
Gallwch. Byddwch chi a'ch teulu yn dal i gael y cymorth sydd ei angen arnoch gan eich gwasanaeth ymwelwyr iechyd lleol. Efallai fod y ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu yn edrych yn wahanol ar hyn o bryd, gyda newidiadau i rai cysylltiadau rheolaidd a'r rhan fwyaf o apwyntiadau'n digwydd dros y ffôn neu gan ddefnyddio galwadau fideo, ond mae'r gwasanaeth yno o hyd i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd eich ymwelydd iechyd yn esbonio sut y mae eich gwasanaethau lleol yn addasu i'r sefyllfa bresennol a sut y gallant barhau i'ch cefnogi pryd bynnag y bydd unrhyw faterion yn codi y mae angen i chi a'ch teulu gael help gyda nhw.
Mae Galw Iechyd Cymru, meddygon teulu ac ysbytai yn dal i ddarparu'r un gofal ag y maent wedi'i wneud erioed. Os yw eich babi neu'ch plentyn bach yn sâl mae'n bwysig eich bod yn ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 (neu 111 os yw ar gael yn eich ardal) neu'n ffonio eich meddyg teulu i gael cyngor, fel y byddech wedi'i wneud fel arfer. Os byddwch chi neu eich plentyn yn profi argyfwng meddygol dylech ffonio 999.
Mae'n bwysig dilyn cyngor Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn a gall hyn ei gwneud yn fwy anodd gwybod beth i'w wneud pan fydd eich plentyn yn sâl neu wedi'i anafu. Mae gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant gyngor i rieni ynghylch pryd a sut i gael gafael ar ofal iechyd yn ddiogel i'w plant ar yr adeg hon. Cyngor i rhieni yn ystod coronafeirws (Saesneg yn unig).
Gan fod imiwneiddio'n hanfodol i iechyd eich babi, mae'n mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad yn ystod y cyfnod hwn, er efallai y bydd yn edrych ychydig yn wahanol nag o'r blaen. Bydd gwasanaethau imiwneiddio'r GIG yn cymryd rhagofalon ychwanegol i'ch diogelu chi a'ch babi. Siaradwch â'ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd i gael rhagor o wybodaeth yn eich ardal, neu ewch i Galw Iechyd Cymru i weld atebion i rai cwestiynau cyffredin yma.
Un o'r newidiadau pwysicaf y gallwch ei wneud i wella eich iechyd a diogelu eich babi yw rhoi'r gorau i smygu nawr. Mae'r rhan fwyaf o rieni newydd yn credu mai rhoi'r gorau iddi gan ddefnyddio Helpa Fi i Stopio yw'r ffordd fwyaf effeithiol o roi'r gorau i smygu, am byth.
Gall GIG Cymru ddarparu gwasanaeth Helpa Fi i Stopio, sef gwasanaeth am ddim i roi'r gorau i smygu, a all eich cefnogi chi neu'ch partner i roi'r gorau iddi.
Am rhagor o wybodaeth ewch i Helpa fi i stopio, ffoniwch 0800 085 2219 neu decstio HMQ i 80818.
Pam mae rhoi'r gorau i smygu yn bwysig i mi a fy mabi?
Os ydych chi neu'ch partner yn smygu, rydych yn fwy tebygol o gael haint anadlol a risg uwch o'r heintiau hynny'n mynd yn ddifrifol. Mae coronafeirws yn haint anadlol acíwt. Gall y weithred o symud o'r llaw i'r geg wrth smygu gynyddu'r risg o ddal y feirws. Hefyd, os bydd rhywun yn smygu yn eich cartref, bydd eich babi yn cael ei amlygu i fwg ail-law, a all effeithio ar iechyd eich babi, a chynyddu ei risg o Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS a elwir hefyd yn Farwolaeth yn y Crud).