Mae'n naturiol teimlo amrywiaeth o emosiynau pan fyddwch yn feichiog, yn dod yn rhieni newydd neu'n rhiant i blentyn ifanc. Mae newidiadau i'n gwasanaethau a'r arferion dyddiol wedi achosi straen a phryder ychwanegol i rai pobl. Er mwyn helpu i leddfu eich pryderon, rydym wedi ateb rhai o'ch cwestiynau cyffredin.
I'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel rhag coronafeirws, parhewch i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol ac ynysu gartref.
Os oes gennych unrhyw symptomau eraill, neu unrhyw beth arall rydych yn poeni amdano, dylech gael help meddygol fel y byddech yn ei wneud fel arfer. Gallwch gael apwyntiadau meddyg teulu o hyd neu siaradwch â'ch bydwraig neu'ch tîm mamolaeth os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Peidiwch ag aros tan y diwrnod wedyn – ffoniwch ar unwaith, hyd yn oed os yw'n ganol y nos.
Os nad oes gennych fydwraig neu dîm mamolaeth ffoniwch eich meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 (neu 111 os yw ar gael yn eich ardal).
Os nad ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn teimlo'n ddiogel gartref ac angen help a chyngor, mae cymorth ar gael:
Os ydych chi neu eich babi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.