Neidio i'r prif gynnwy

Brexit

Rydym wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd er mwyn deall yn well goblygiadau posibl Brexit i iechyd a llesiant yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae'n trafod effeithiau posibl Brexit ar iechyd tymor byr, canolig a hirdymor pobl sy'n byw yng Nghymru.

Nid yw'r adroddiad yn mynd i'r afael â chanlyniadau unrhyw ganlyniad Brexit penodol ond mae'n ystyried y niwed a'r manteision posibl y gellid eu cael o unrhyw broses Brexit. Mae symud i ffwrdd o systemau Ewropeaidd presennol sy'n sail i amaethyddiaeth a buddsoddi mewn rhanbarthau difreintiedig o Gymru yn darparu cyfleoedd i ddatblygu cynhyrchu bwyd gwell, mwy cynaliadwy a sicrhau bod plant ac oedolion sy'n byw mewn tlodi yn cael cymorth digonol i ddiogelu eu iechyd. Fodd bynnag, mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod iechyd unigolion a chymunedau agored i niwed yn ystyriaeth ganolog o ran sut y mae Brexit yn cael ei ddatrys. Mae'r adroddiad yn galw am sicrhau bod deddfwriaeth unigryw Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n cefnogi llesiant cynaliadwy, teg a hirdymor, yn ystyriaeth allweddol o ran dull Cymru tuag at Brexit a'i ganlyniadau parhaus.

Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd hefyd yn nodi materion iechyd a allai effeithio ar y boblogaeth gyfan gan gynnwys sicrhau diogelu rheoliadau iechyd cyhoeddus, neu eu cryfhau, ar dybaco, bwyd, ac alcohol a sicrhau nad yw camau diogelu o'r fath yn cael eu gwanhau gan newidiadau o ran deddfwriaeth, rheoleiddio neu gytundebau masnach yn y dyfodol. Mae ystyriaethau iechyd ehangach eraill a gynhwysir yn yr asesiad yn ystyried effeithiau'r canlynol ar iechyd:

  • Gostyngiad neu oedi o ran mynediad i feddyginiaethau newydd, treialon clinigol a dyfeisiau yn sgil y DU yn gadael cyrff rheoleiddio a chydlynu allweddol
  • Llai o allu o ran diogelu iechyd am na fydd y DU yn cyfranogi mewn systemau cydlynu iechyd cyhoeddus allweddol a dulliau rhannu tystiolaeth
  • Effeithiau ar recriwtio a chadw gweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU a Chymru
  • Colli neu leihau mynediad i gyllid yr UE yn y dyfodol ar gyfer ymchwil a datblygu, seilwaith, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a thlodi a datblygu economaidd
  • Effeithiau ar iechyd meddwl a llesiant o ganlyniad i ansicrwydd ynghylch dyfodol yr economi a chyflogaeth.

 

Dogfennau technegol

Adroddiad Technegol Goblygiadau Brexit Rhan 1
Adroddiad Technegol Goblygiadau Brexit Rhan 2