Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau swyddogol yn dangos mai canser y croen yw'r canser mwyaf cyffredin yng Nghymru o hyd

Cyhoeddwyd: 30 Mai 2024

Canser y croen nad yw’n felanoma yw’r math mwyaf cyffredin o ganser a gafodd ei ddiagnosio yng Nghymru yn 2020 er gwaethaf gostyngiad o 17 y cant yn y nifer a gafodd ddiagnosis ers 2019 yn gysylltiedig â chyfyngiadau yn ystod y pandemig.

Yn ôl ystadegau swyddogol a ryddhawyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd cyfradd digwydded canser y croen nad yw’n felanoma, neu NMSC, ddwywaith a hanner yn fwy na chanser y prostad, sef y canser mwyaf cyffredin nesaf.
Mae nifer yr achosion o NMSC ar draws y byd yn cynyddu, ac mae hyn hefyd yn wir yng Nghymru, lle bu cynnydd o wyth y cant yn y gyfradd rhwng 2016 a 2019.

Mae’r ystadegau’n dangos bod 11,792 o achosion cyntaf o NMSC wedi’u diagnosio yng Nghymru yn 2020 sydd i lawr yn sylweddol o fwy na’r 15,000 o achosion cyntaf o NMSC a gafodd eu diagnosio yng Nghymru yn 2019.  Mae hyn oherwydd ailgyfeirio gwasanaethau tuag at bandemig Covid-19 a newidiadau a ddigwyddodd o ran mynediad cleifion at wasanaethau meddygon teulu ac ysbytai, yn hytrach na gostyngiad gwirioneddol yn nifer yr achosion.

Mae NMSC yn cyfeirio at ddau brif fath o ganser - carsinoma celloedd gwaelodol a charsinoma celloedd cennog croenol - y mae'r ddau ohonynt yn gysylltiedig ag ymddygiad gan unigolion y gellir ei atal, gan gynnwys dod i gysylltiad â golau UV o'r haul, yn ogystal â defnyddio gwelyau haul.  Er bod y canserau hyn yn cael eu trin yn llwyddiannus yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan garsinoma celloedd cennog y potensial i ledaenu i rannau eraill o'r corff, a gall carsinoma celloedd gwaelodol achosi difrod lleol difrifol os na chaiff ei drin, yn enwedig gan fod y rhan fwyaf o achosion yn digwydd ar rannau o’r corff sy'n agored i'r haul, yn bennaf yr wyneb, croen y pen, y gwddf a'r clustiau.

Mae ffactorau risg ar gyfer NMSC yn cael eu dylanwadu gan alwedigaethau fel gweithio yn yr awyr agored, teithio i wledydd poethach, patrymau’r tywydd a daearyddiaeth, math o groen, ac ymddygiad yn yr heulwen fel gwisgo hetiau haul a rhoi eli haul. Nid ydym yn deall yn iawn eto sut mae tueddiadau newidiol yn y ffactorau hyn yn y gorffennol wedi achosi'r cynnydd mewn cyfraddau NMSC ar draws y byd.

Mae’r gyfradd ddigwydded bron ddwywaith yn uwch mewn dynion nag mewn menywod, ac yn wahanol i lawer o ganserau eraill, mae’r gyfradd ddigwydded ar ei huchaf yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf ac ar ei hisaf yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf.

Dywedodd yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae ad-drefnu gwasanaethau yn GIG Cymru yn gynnar yn ystod y pandemig, a negeseuon aros gartref, yn golygu bod gostyngiad wedi bod yn nifer y bobl a oedd yn cyflwyno oherwydd cwynion am gyflwr eu croen.

“Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod y duedd gyffredinol o ran digwydded NMSC yn cynyddu, felly rydym yn disgwyl y bydd data yn y blynyddoedd i ddod yn dangos y gostyngiad hwn yn gwrthdroi wrth i nifer y bobl a fydd yn cael diagnosis 'ddal i fyny'.  Mae nifer uchel yr achosion blynyddol - bron i 12,000 - yn dangos bod NMSC yn effeithio ar nifer sylweddol o bobl yng Nghymru.

“Er bod NMSC yn hawdd ei drin fel arfer, byddai’n bosib atal llawer o’r achosion hyn petai ein poblogaeth yn ymddwyn mewn modd diogel yn yr haul yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys chwilio am lefydd mwy cysgodol, osgoi’r heulwen gryfaf yng nghanol y dydd, gorchuddio â hetiau a dillad eraill, a defnyddio eli haul o leiaf SPF30 yn rheolaidd – hyd yn oed pan fo’r tywydd yn gymylog.

“Yn ogystal, mae gorddefnyddio gwelyau haul at ddibenion cael lliw haul yn ffactor risg hysbys o ran datblygu NMSC.
“Dylech weld eich meddyg teulu os oes gennych farciau newydd ar eich croen sy’n tyfu, yn gwaedu, yn newid o ran eu golwg mewn unrhyw ffordd, byth yn gwella’n iawn, neu’n magu crachen sy’n disgyn ac yna’n tyfu eto.”

Gellir gweld yr adroddiad yma: