Neidio i'r prif gynnwy

Y GIG yn 75 – Fideo newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos y cerrig milltir allweddol

Fel rhan o'r dathliadau ar gyfer pen-blwydd y GIG yn 75 oed, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhyddhau fideo cyffrous newydd; mae hwn yn amlygu cerrig milltir allweddol yn natblygiad y sefydliad, o'r adeg y cafodd ei sefydlu yn ei ffurf bresennol yn 2009 - un o'r 12 corff cyhoeddus sydd bellach yn rhan o GIG Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydliad sy'n ymrwymedig i weithio tuag at Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach a lle mae gan bawb yng Nghymru fynediad teg a chyfartal at y pethau sy'n arwain at iechyd a llesiant da.

Ym 1999 lansiwyd Sgrinio Serfigol Cymru, ac yna rhaglenni sgrinio eraill yn 2003, gan gynnwys Bron Brawf Cymru, Sgrinio Cyn Geni Cymru a Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru.  Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal wyth rhaglen sgrinio, sy'n helpu i achub bywydau drwy alluogi ymyriadau cynnar.

Lansiwyd y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn 2005, a heddiw, mae 16 o frechiadau gwahanol yn helpu pobl ledled Cymru i atal salwch difrifol.

Lansiwyd Helpa Fi i Stopio yn 2017 ac mae wedi helpu 15,000 o smygwyr y flwyddyn i roi'r gorau i smygu.

Yn ystod pandemig Covid-19, prosesodd labordai microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru dros filiwn o samplau, ymatebodd y Ganolfan Gyswllt a sefydlwyd i 40,000 o alwadau'r flwyddyn, a chyfrannodd y sefydliad at gyflwyno mwy nag 8.6 miliwn dos o'r brechlyn Covid-19.

Meddai Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Jan Williams: “Mae pen-blwydd y GIG yn 75 oed yn gyfle i fyfyrio ar y cyfraniad sylweddol a wnaed hyd yma, a'r heriau sy'n ein hwynebu yn y blynyddoedd i ddod.

“Nid oes amheuaeth bod heriau enfawr yn ein hwynebu, wrth i ni geisio cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru.

“Fel sefydliad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wynebu'r heriau hynny heddiw, fel yr ydym wedi'i wneud yn y gorffennol.  Mae gennym Strategaeth Hirdymor wedi'i hadnewyddu yn ei lle, a fydd yn ein helpu i weithio gyda'n gilydd i gyflawni dyfodol iachach i Gymru.”