Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf: achosion o amrywiolyn De Affrica yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 17 Chwefror 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn cadarnhau pedwar achos ychwanegol o amrywiolyn De Affrica o'r Coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â'r cyfanswm i 17. 

Mae'r pedwar achos newydd i gyd yn gysylltiedig â theithio rhyngwladol neu mae ganddynt gysylltiadau perthnasol, ac nid oes tystiolaeth o drosglwyddo cymunedol ehangach.

Nodwyd tri o'r achosion newydd yng Ngorllewin Cymru, ac roedd gan bob un ohonynt gysylltiadau â theithio rhyngwladol. Nodwyd yr achos newydd arall fel rhan o olrhain cysylltiadau sy'n gysylltiedig â'r achos hysbys yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bae Abertawe, a Sir Gaerfyrddin, Conwy, Castell-nedd Port Talbot er mwyn ymchwilio i achosion heb gysylltiad hysbys â theithio na chysylltiadau perthnasol.  Nid oes achos wedi'i ddatgan.

Gogledd Cymru

Cafodd achos o amrywiolyn De Affrica heb unrhyw deithio hysbys na chysylltiadau perthnasol ei nodi yng Nghonwy fel rhan o ymchwiliadau i glwstwr bach o achosion o'r Coronafeirws yno. 

Nid oes unrhyw achosion eraill o amrywiolyn De Affrica wedi'u nodi yn y clwstwr, ac mae achosion eraill a fu'n destun genoteipio wedi'u cadarnhau fel yr amrywiolyn gwreiddiol. Roedd mesurau rheoli priodol ar waith ar gyfer yr unigolyn, sydd bellach wedi gwella.  Mae olrhain cysylltiadau yn mynd rhagddo. 

Yn dilyn ymchwiliad, cafodd achos ar Ynys Môn, nad oedd wedi'i gysylltu â theithio i ddechrau, ei gysylltu yn ôl â theithio rhyngwladol.

De Cymru                   

Yn dilyn achos o amrywiolyn De Affrica heb unrhyw deithio hysbys na chysylltiadau perthnasol a nodwyd drwy ddilyniannu rheolaidd yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae person a brofwyd yn ystod olrhain cysylltiadau estynedig wedi profi'n bositif. Roedd y ddau unigolyn yn hunanynysu tra'n sâl.

Gorllewin Cymru

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chynghorau Sir Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Gaerfyrddin er mwyn ymchwilio i nifer bach o achosion o'r Coronafeirws yn yr ardal.

 

Mae dilyniannu genomeg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau bod y tri achos yn amrywiolyn De Affrica.  Mae'r rhain yn ymwneud ag un teulu ac maent yn gysylltiedig â theithio rhyngwladol diweddar. Roedd cyswllt nad oedd o'r un aelwyd, a roddodd gymorth lles i'r teulu pan oeddent yn hunanynysu, hefyd wedi profi'n bositif am Covid ac mae gwaith genoteipio pellach yn mynd rhagddo.  Cafodd cysylltiadau'r unigolyn hwn eu nodi'n gyflym, gwnaethant hunanynysu ac wedyn profi'n negyddol am y Coronafeirws.

Cysylltir ag unrhyw rai o gysylltiadau'r achosion hyn drwy'r broses Profi, Olrhain a Diogelu a rhoddir cyngor ychwanegol iddyn nhw eu hunain, eu cartref a chysylltiadau eraill.

Meddai Dr Giri Shankar Cyfarwyddwr Digwyddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae nodi'r achosion yn dangos bod prosesau sefydledig o dan y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn effeithiol.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i ganfod lle y cafwyd y feirws, ac a oes unrhyw drosglwyddo wedi digwydd.

“Nifer bach o achosion yw hyn ac nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd bod trosglwyddo parhaus yn y gymuned wedi digwydd.

“Nid oes tystiolaeth bod amrywiolyn De Affrica yn achosi salwch mwy difrifol; ceir rhywfaint o dystiolaeth y gall ledaenu'n haws, ac efallai na fydd brechlynnau - er eu bod yn dal yn effeithiol - yn gweithio cystal yn ei erbyn.

“Oherwydd ymddangosiad amrywiolynnau newydd mwy trosglwyddadwy, mae hyd yn oed yn fwy hanfodol ein bod i gyd yn cadw at y cyfyngiadau symud ac nad ydym yn cwrdd â phobl eraill.

“Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi aros gartref. Os oes rhaid i chi adael eich cartref cadwch eich pellter, golchwch eich dwylo'n rheolaidd, a gwisgwch fasg wyneb pan fo'n ofynnol yn unol â'r rheoliadau.”

Os byddwch chi neu aelod o'ch cartref yn datblygu peswch, twymyn neu newid o ran blas neu arogl, rhaid i chi hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf Coronafeirws am ddim, naill ai drwy ffonio 119 neu drwy fynd i https://llyw.cymru/cael-prawf-coronafeirws-covid-19