Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 78: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 8 Hydref 2021

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol:  

  • Roedd 67 y cant o bobl yn cytuno'n gryf â'r polisi sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl yng Nghymru ddangos Pàs COVID y GIG neu brawf llif unffordd negyddol diweddar er mwyn mynd i glybiau nos neu ddigwyddiadau mawr.  
    • roedd 24 y cant o bobl yn cytuno rhywfaint 
    • roedd 9 y cant yn anghytuno 
  • dywedodd 34 y cant o bobl y byddai'r gofyniad hwn yn eu gwneud yn fwy tebygol o fynd i glybiau nos neu ddigwyddiadau mawr 
    • dywedodd 7 y cant y byddai'n eu gwneud yn llai tebygol o fynd  
    • dywedodd 28 y cant na fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth; a  
    • dywedodd 31 y cant na fyddent yn mynd beth bynnag. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 27 Medi tan 4 Hydref 2021, pan gafodd 607 o bobl eu holi. 

Bob pythefnos, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. Dros y 18 mis diwethaf, mae dros 24,000 o drigolion Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg. 

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.