Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i effeithiau cyfyngiadau symud COVID-19 llawn Cymru ar wrthdrawiadau traffig ffyrdd.
Rhwng mis Ionawr a mis Mai 2020, nododd y gwaith ostyngiad o bron 47 y cant mewn triniaeth gwasanaeth iechyd ar gyfer anafiadau traffig ffyrdd o gymharu â'r un cyfnod yn 2019.
Meddai Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus:
“Yn anffodus, mae gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yn un o ganlyniadau trafnidiaeth a theithio. Ar adeg o newid sylweddol i'n hymddygiad trafnidiaeth a theithio gwelsom hefyd fod anafiadau a gafwyd mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd bron wedi'u haneru.
“Er bod hyn yn newyddion i'w groesawu o ran cost ddynol teithio a thrafnidiaeth, bydd angen rhagor o waith dros gyfnod amser hwy i weld a oes ‘effaith COVID-19’ barhaol ar anafiadau gwrthdrawiadau traffig ffyrdd.
“Rydym i gyd wedi profi newidiadau eithafol i'n bywydau ers mis Ionawr,” parha Dr Jones.
“Er bod y rheolaethau hyn yn angenrheidiol ond yn aml yn annymunol, mae'r ffaith bod gostyngiadau mewn gwrthdrawiadau wedi'u cyflawni o fewn amserlen fer yn dangos yr hyn sy'n bosibl.
“Yr her sydd o'n blaenau yw nodi polisïau sy'n anelu at gynnal newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad sy'n annog teithio llesol, ac integreiddio hynny ag opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus diogel a chynaliadwy pan fo'n briodol er mwyn i ni allu cynnal newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad
“Os gellir cynnal y lleihad o ran defnydd car a chynnydd mewn gweithio gartref, gallai gyfrannu yn yr hirdymor at ostyngiad cyson mewn gwrthdrawiadau,” casglodd.
Roedd hyn yn ymwneud â dadansoddi data o safleoedd monitro ansawdd aer parhaus ledled Cymru a ddangosodd fod crynodiadau rhai llygryddion aer, gan gynnwys nitrogen deuocsid, wedi gostwng yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19 Cymru (rhwng diwedd mis Mawrth a diwedd mis Mai 2020).
“Yr hyn y gallwn ei weld yw bod gostyngiadau a fesurwyd o ran allyriadau llygryddion aer sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth wedi'u canfod oherwydd bod mwy o bobl yn aros gartref ac yn teithio llai.
“Fodd bynnag, gellir gwrthbwyso'r enillion hyn drwy gynnydd mewn llygryddion awyr agored eraill yn ogystal â chynnydd posibl mewn amlygiad i lygryddion aer dan do.”
Adroddiad
COVID-19 a gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yng Nghymru – Barn iechyd cyhoeddus