Neidio i'r prif gynnwy

Rhagfyr 2021: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 13 Ionawr 2022

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol: 

  • dywedodd 12 y cant o bobl eu bod yn bryderus iawn am ddal coronafeirws. Mae hyn yn ostyngiad o 24 y cant pan gafodd pobl eu holi flwyddyn yn ôl (14–20 Rhagfyr 2020).
  • roedd 85 y cant o bobl yn cytuno â'r polisi sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl yng Nghymru ddangos Pàs COVID y GIG neu brawf llif unffordd negyddol diweddar er mwyn mynd i glybiau nos neu ddigwyddiadau mawr. 
  • nododd 70 y cant o bobl eu bod yn defnyddio profion llif unffordd yn rheolaidd; i fyny o 55 y cant yng nghylch diwethaf yr arolwg (27 Medi tan 4 Hydref 2021).
  • mae 91 y cant yn cefnogi'r gofyniad parhaus am orchuddion wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do eraill yng Nghymru.

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu Rhagfyr 2021, pan gafodd 512 o bobl eu holi.  
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal cyfweliadau â miloedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. Ers mis Ebrill 2020, mae dros 24,000 o drigolion Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg.

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.

Adroddiad