Neidio i'r prif gynnwy

Pwysleisio pwysigrwydd brechu MMR, wrth i'r brigiad o achosion o'r frech goch yng Ngwent ddod i ben

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cwblhau eu cwrs llawn o frechlynnau MMR, wrth iddo gadarnhau bod y brigiad o achosion o'r frech goch yng Ngwent a nodwyd ym mis Ebrill 2024 bellach wedi dod i ben. 

Cadarnhawyd 17 achos unigol o'r frech goch yn ystod y brigiad. Cynhaliwyd olrhain cysylltiadau helaeth er mwyn lleihau trosglwyddiad y feirws heintus iawn. Nid oes unrhyw achosion newydd wedi'u nodi ers 20 Mai.  

Meddai Beverley Griggs, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Brigiad: “Diolch i waith caled cydweithwyr ar draws y GIG a chymorth rhieni yng Ngwent, rydym wedi gallu rheoli lledaeniad y frech goch yn y gymuned a dod â'r brigiad hwn i ben. 

“Diolch o galon i rieni plant sydd wedi cael y frech goch, neu y mae eu plant wedi bod mewn cysylltiad â'r frech goch sydd wedi dilyn cyngor iechyd cyhoeddus ac atal lledaeniad y frech goch yn eu cymunedau. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhieni hynny sydd wedi mynd â'u plant i dderbyn y brechlyn MMR neu sydd wedi cwblhau eu cwrs eu hunain o frechiad MMR”.  

“Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn sy'n gallu achosi cymhlethdodau difrifol sy'n newid bywyd. Er bod y brigiad o achosion hwn wedi dod i ben, mae'n hanfodol bod rhieni'n parhau i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu'n llawn â'r brechlyn MMR. Dyma'r ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o'u hamddiffyn - mae cael dau ddos o'r brechlyn hwn dros 95 y cant yn effeithiol wrth atal y frech goch.  

“Mae brechu hefyd yn hanfodol er mwyn helpu i atal brigiadau yn y dyfodol. Wrth i ni fynd i mewn i'r haf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i atgoffa rhieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu'n llawn cyn mynd i unrhyw ddigwyddiadau torfol. Mae'r frech goch yn lledaenu'n hawdd iawn pan fydd pobl yn agos at ei gilydd. 

“Mae hefyd yn bwysig i bobl hael eu brechu os ydynt yn teithio dros yr haf, yn enwedig i leoedd lle mae cyfraddau brechu MMR yn isel.” 

Meddai'r Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus a Phartneriaethau Strategol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae mor bwysig eich bod yn cael eich brechlyn MMR - diolch i'r holl staff a phartneriaid a weithiodd yn ddiflino fel arfer yn ystod y brigiad yr ydym i gyd yn falch iawn ei fod bellach wedi dod i ben.  

“Mae'r frech goch yn gyflwr difrifol iawn ac mae modd ei hatal yn llwyr drwy frechu. Nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny, a gallwch gael y brechlyn MMR am ddim ar y GIG beth bynnag fo'ch oedran, drwy gysylltu â'n tîm Brechu i ofyn am apwyntiad drwy ffonio 0300 303 1373.” 

Gall y frech goch fod yn salwch difrifol i blant ond gellir ei dal ar unrhyw oedran.  Gall rhieni a gofalwyr wirio statws brechu MMR eu plentyn drwy wirio llyfr coch eu plentyn, neu fynd i wefan eu bwrdd iechyd lleol. Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pan maent yn 12 mis oed a'r ail ychydig ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. 

Yn ogystal, anogir oedolion nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR ac sydd mewn cysylltiad agos â phlant neu'n gweithio mewn lleoliadau risg uchel i sicrhau eu bod yn siarad â'u meddyg teulu am frechu. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/y-frech-goch-clwyr-pennau-a-rwbela-mmr/