Mae Hyfforddiant Diogelu ar gyfer Paediatregwyr y Tîm Diogelu Cenedlaethol wedi helpu paediatregwyr i ddiweddaru eu gwybodaeth am ddiogelu i safonau proffesiynol gofynnol lefel 3. Mynychodd 70 o feddygon ar draws GIG Cymru Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru ym Mae Caerdydd ar 13 Tachwedd.
Mae’r Tîm Diogelu Cenedlaethol yn rhan o gyfarwyddiaeth Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Perthynol i Iechyd (QNHAP) ac mae’n cynnwys Meddygon, Nyrsys ac Arweinwyr Ymarfer Cyffredinol Dynodedig ag arbenigedd a phrofiad sylweddol ym maes diogelu. Mae’r tîm yn rhoi ffocws strategol ac arweinyddiaeth broffesiynol i GIG Cymru i hybu llesiant a diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl, yn cynnwys plant a phobl ifanc sydd yn derbyn gofal gan eu Hawdurdod Lleol.
Galluogodd y rhwydweithio gwerthfawr hwn ar draws arbenigeddau paediatrig drafodaeth ar faterion dadleuol a chyngor arbenigol ar achosion penodol. Archwiliodd ymgynghorwyr o Gymru ac Ysbyty Great Ormond Street lawer o feysydd allweddol yn cynnwys rôl dermatoleg yn gwahaniaethu rhwng niwed a fwriadwyd a chyflyrau meddygol, y defnydd o radioleg o ran diagnosis gwahaniaethol anafiadau ysgerbydol mewn plentyndod, salwch wedi ei greu neu ei gymell a symptomau sy’n peri penbleth. Cafodd pwysigrwydd gwaith tîm aml-asiantaeth, cadw cofnodion da a chyfathrebu eu hailadrodd hefyd er mwyn sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel cyson ar gyfer y rheiny â hanes a chefndiroedd cymhleth.
Cynlluniwyd testunau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol i atgyfnerthu dysgu gan gymheiriaid a rhannu arfer gorau yng Nghymru a bydd y rhain yn cynnwys:
• Asesu a disgrifio ymddygiad ymlyniad mewn ymgynghoriad
• Therapïau ar gyfer trin anawsterau yn seiliedig ar ymlyniad
• Cymorth emosiynol a seicolegol ar gyfer gweithwyr diogelu proffesiynol
• Diogelu a phlant ag anghenion cymhleth
• Newidiadau i’r llygaid mewn anafiadau nad ydynt yn ddamweiniol
• Deintyddiaeth fforensig – sut i wahaniaethu rhwng ac adnabod marciau cnoi
• Profiadau o achosion llys heriol
Diolch i’w lwyddiant ac adborth cadarnhaol, bydd yr hyfforddiant hwn bellach yn ddigwyddiad blynyddol a ddefnyddir i adlewyrchu a thrafod materion cyfredol a bodloni anghenion hyfforddiant ein gweithlu pediatrig.
Dywedodd Rhiannon Beaumont-Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol QNAHP “Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i Baediatregwyr yn GIG Cymru gael mynediad at arbenigedd Diogelu sydd ar gael yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan alluogi gwybodaeth i gael ei drosglwyddo i ymarferwyr mewn ffordd fydd o fudd i’w hymarfer. Rwyf wrth fy modd bod y digwyddiad hwn wedi bod yn llwyddiannus ac edrychaf ymlaen at weld hwn yn dod yn ddigwyddiad rheolaidd yn y calendr Diogelu. Mae’n hanfodol bod Paediatregwyr ac eraill yn gallu cael y dystiolaeth orau sydd ar gael a rhannu arfer gorau, sy’n cael ei ddarparu mewn ffordd sydd yn hygyrch ac yn ddefnyddiol”.