Neidio i'r prif gynnwy

Nifer y bobl sy'n mynychu rhaglenni nodwyddau a chwistrellau diogel yn gostwng 27 y cant

Cyhoeddwyd: 28 Mawrth 2023

Roedd nifer y bobl sy'n mynychu rhaglenni nodwyddau a chwistrellau (NSP) yn rheolaidd yng Nghymru er mwyn cael mynediad at offer diogel i chwistrellu cyffuriau, wedi gostwng mwy na chwarter yn 2021-22, o gymharu â 2019-20. 

Mae'r ffigurau, a ddatgelwyd yn adroddiad blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru o weithgarwch NSP, yn dangos newid sylweddol o ran nifer yr unigolion sy'n mynychu'r gwasanaeth yn rheolaidd, a phroffil defnyddwyr gwasanaethau hefyd, ar ôl codi'r cyfyngiadau yn ystod y pandemig. 

Mae canfyddiadau eraill o'r adroddiad yn dangos bod chwarter o bobl sy'n chwistrellu sylweddau seicoweithredol fel heroin a chrac cocên yn dweud eu bod yn rhannu nodwyddau a chwistrellau ag eraill, ac mae traean yn rhannu offer fel llwyau, hidlenni a dŵr. 

Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys amcangyfrif o gwmpas y gwasanaeth NSP, sef y gyfran o ‘ddigwyddiadau’ chwistrellu pan fo offer chwistrellu wedi'i ddiheintio yn cael ei ddefnyddio, sy'n nodi cyfradd o 22 y cant.  Mae hyn yn cynrychioli risg glir o heintiau bacterol a throsglwyddo feirysau yn y gwaed drwy ailddefnyddio a rhannu offer chwistrellu ymhlith pobl sy'n chwistrellu cyffuriau. 

Yn ogystal, mae cyfran y bobl 50 oed a throsodd sy'n cael mynediad at wasanaethau NSP wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf ar draws pob grŵp sylweddau – opioidau, ysgogyddion ac IPEDS (cyffuriau i wella delwedd a pherfformiad). 

Meddai Rick Lines, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae rhaglenni nodwyddau a chwistrellau yng Nghymru yn darparu offer chwistrellu wedi'i ddiheintio i bobl sy'n chwistrellu cyffuriau, ac yn ceisio lleihau niwed drwy roi cyngor, gwybodaeth ac atgyfeirio i wasanaethau eraill fel gwasanaethau triniaeth arbenigol.  Mae'r gwasanaeth hefyd yn annog pobl sy’n defnyddio cyffuriau i ystyried dulliau eraill ar gyfer defnyddio cyffuriau, i'r osgoi'r risgiau cysylltiedig o chwistrellu, fel trosglwyddo feirysau yn y gwaed a heintiau bacterol.  

“Mae'r ffigurau hyn yn rhoi syniad i ni o'r darlun o'r defnydd o chwistrellu cyffuriau yng Nghymru. Mae nifer o resymau pam mae nifer y bobl sy'n mynychu'r rhaglenni NSP wedi gostwng. Gallai'r rhain gynnwys gostyngiad gwirioneddol yn nifer y bobl sy'n chwistrellu cyffuriau, gostyngiad yn nifer y bobl sy'n chwistrellu cyffuriau sy'n cael mynediad at wasanaethau NSP sy'n arwain at gynnydd mewn rhannu ac ailddefnyddio offer chwistrellu, defnydd uwch o ffynonellau chwistrellu cyffuriau amgen, neu gyfuniad o'r rhain a ffactorau eraill. 

“Mae’n bwysig ein bod yn monitro'r niferoedd hyn dros y blynyddoedd i ddod, ochr yn ochr â gwybodaeth a ddaw o ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau a staff rheng flaen, er mwyn cau'r bwlch o ran mynediad at nodwyddau a chwistrellau diogel a sicrhau bod ein gwasanaethau yn gadarn i reoli unrhyw newidiadau o ran gofynion yn y dyfodol.” 

Gellir lawrlwytho'r adroddiad yma: