Neidio i'r prif gynnwy

Marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru yn 2018

Cofrestrwyd cyfanswm o 208 o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yn 2018. Mae hyn yn gynnydd o 23 o farwolaethau neu 12.4 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac ychydig dros 50 y cant ers 2009. Mae'r ffigurau hyn yn cynrychioli'r nifer uchaf o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau a gofnodwyd yng Nghymru yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn 2018, roedd gan Gymru yr ail gyfradd uchaf o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yn ôl rhanbarth yng Nghymru a Lloegr, sef 72 fesul miliwn o'r boblogaeth. Roedd Cymru yn ail i ranbarth Gogledd-ddwyrain Lloegr, a nododd gyfradd o 96.3 fesul miliwn o'r boblogaeth.

Mae marwolaethau oherwydd cyffuriau wedi cynyddu ymhlith dynion a menywod, cynnydd o 13 a 12 y cant yn y drefn honno, ac ar draws pob grŵp oedran ac eithrio'r rhai 20-39 oed. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y rhai 40-49 oed. 

Cafwyd y nifer uchaf o farwolaethau oherwydd cyffuriau yn ardal Bwrdd Iechyd PABM gynt, gan gyfrif am ychydig dros 30 y cant o'r marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau. Fodd bynnag, mae'r gyfran hon wedi gostwng o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Gwelwyd cynnydd yn nifer y marwolaethau yn ardaloedd Byrddau Iechyd Cwm Taf, Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Meddai Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru:

 “Mae wedi'i ddogfennu'n dda yn gynyddol bod marchnadoedd cyffuriau wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, o ran argaeledd ac amrywiaeth y cyffuriau, a bod y duedd hon yn cynyddu. Un o effeithiau mwyaf gofidus y newidiadau hyn yw'r cynnydd mewn marwolaethau cynamserol. Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi tystiolaeth amlwg o hyn gyda chyfraddau marwolaethau oherwydd cyffuriau ar eu huchaf erioed.     

“Er nad yw'n bosibl, heb ragor o ddadansoddi, i roi tystiolaeth ddiffiniol i esbonio'r cynnydd hwn o ran cyffuriau penodol, gwyddom fod 79 y cant o'r marwolaethau oherwydd cyffuriau yn 2018 yn cynnwys opioidau, gan gynnwys heroin. Mae hwn wedi bod yn batrwm cymharol gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ynghyd â bensodiasepinau a nodwyd mewn 24 y cant o farwolaethau. Fodd bynnag, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chocên wedi cynyddu'n ddramatig, ac fe'u nodir bellach mewn 15 y cant o farwolaethau oherwydd cyffuriau o gymharu â 4 y cant ddegawd yn ôl.  Gwyddom hefyd fod defnyddio amryw o gyffuriau – defnyddio gwahanol gyffuriau ac alcohol ar yr un pryd – yn arfer cyffredin ac mae'n cynyddu'n sylweddol y risg o orddos angheuol.

“Mae hanfodol ein bod yn cydnabod bod y ffigurau hyn yn ymwneud â phobl go iawn a gall yr effaith ar eu teuluoedd, partneriaid a ffrindiau fod yn ddinistriol. O ystyried maint y broblem defnyddio cyffuriau yng Nghymru, mae'n debygol y bydd pob aelod o'r boblogaeth yn adnabod rhywun y mae cyffuriau'n effeithio arnynt neu y maent yn wynebu problemau oherwydd cyffuriau, boed hwy'n gyffuriau anghyfreithlon neu ar brescripsiwn, ond efallai nad ydynt yn ymwybodol o hyn. Efallai y bydd llawer o bobl yn cuddio'r defnydd o gyffuriau neu broblemau gyda dibyniaeth ac nid ydynt yn ceisio cymorth gan anwyliaid na gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i gynnig cymorth.  Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod cymorth yn cael ei geisio'n gynnar er mwyn atal defnydd problemus a dibyniaeth rhag gwaethygu heb ofn stigma nac allgáu cymdeithasol a chydnabyddiaeth bod y defnydd o gyffuriau yn digwydd ymhlith pob grŵp oedran a phob haen o gymdeithas.”