Neidio i'r prif gynnwy

Dim tystiolaeth o drosglwyddo eang yng nghymuned Wrecsam, yn dilyn ymarfer profi

Nodwyd 11 achos newydd o Coronafeirws yng nghymuned Wrecsam, yn dilyn pedwar diwrnod o brofi mewn canolfannau profi cymunedol mynediad hawdd yn Hightown a Pharc Caia.

Cafodd swyddogion iechyd sicrwydd gan y nifer isel o achosion positif a nodwyd, ar ôl i fwy na 1,400 o bobl o gymuned Wrecsam gael eu profi. 

Dywedodd Dr Chris Johnson, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Achosion Aml-asiantaeth:

“Mae’r niferoedd wedi rhoi sicrwydd inni, sydd, yn ôl pob golwg, yn dangos bod trosglwyddiad yn sylweddol is nag y tybid yn flaenorol. Mae hefyd yn bwysig nodi ei bod yn bosibl nodi cadwyn drosglwyddo debygol mewn llawer o'r achosion. O ganlyniad, nid ydym yn credu bod llawer iawn o drosglwyddo cudd yn y gymuned.

“Cysylltwyd ag achosion a gadarnhawyd trwy’r broses Profi, Olrhain, Diogelu a rhoddwyd cyngor ychwanegol iddyn nhw, aelodau o’u cartrefi a chysylltiadau eraill.

“Rydym am ddiolch i’r gymuned am eu hymateb. Nid yn unig y rhai a ddaeth i gael prawf, ond hefyd unigolion sydd wedi cael eu holrhain ac sydd wedi dangos parodrwydd i ddilyn y cyngor a gwarchod eu cymunedau.

Rydym yn atgoffa’r cyhoedd a pherchnogion busnes, er gwaethaf y niferoedd isel hyn, fod Coronafeirws yn mynd ar led yn y gymuned o hyd. “Mae gan bob un ohonom rôl bwysig i’w chwarae wrth atal lledaeniad Coronafeirws trwy lynu wrth ganllawiau cadw pellter cymdeithasol – hynny yw, sicrhau eich bod yn cadw dau fetr oddi wrth bobl eraill a golchi eich dwylo yn rheolaidd.

“Er bod profi wedi dod i ben yn y ddwy uned profi symudol, os oes gennych symptomau – hyd yn oed os yw'r symptomau hynny'n ysgafn – dylech chi gael eich profi o hyd. Gallwch gael eich profi mewn canolfannau profi drwy ffenest y car neu drwy becyn profi gartref. Ewch i https://gov.wales/coronavirus”       

Ymhlith y symptomau i gadw llygad amdanynt mae peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, a cholli neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol.

Cydlynwyd y profi cymunedol yn Wrecsam gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Wrecsam, a phartneriaid eraill, gyda chefnogaeth gan sefydliad sector gwirfoddol lleol AVOW a grwpiau cymunedol.  Fel mewn rhannau eraill o'r wlad, helpodd y fyddin i sefydlu'r unedau profi symudol.