Mae data newydd yn dangos bod marwolaethau a derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â smygu yng Nghymru yn parhau heb eu newid.
Fodd bynnag, mae rhai arwyddion bod y cyfraddau hyn yn cynyddu mewn gwirionedd i fenywod sy'n byw yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig.
Dyma'r canfyddiadau a gyflwynir yn y fersiwn ddiweddaraf o Ysmygu yng Nghymru, sef offeryn delweddu data rhyngweithiol sy'n rhoi trosolwg o smygu a'i effaith ledled Cymru.
Drwy'r offeryn, gellir ymchwilio'n fanylach i ymddygiad smygu, data canlyniadau a rhoi'r gorau i smygu yn ôl bwrdd iechyd, awdurdod lleol, amddifadedd a grŵp oedran. Yn ogystal, mae map tystiolaeth yn rhoi mynediad i ffynonellau tystiolaeth lefel uchel ar bynciau atal smygu, rhoi'r gorau i smygu a dadnormaleiddio.
Mae rhai o'r canfyddiadau allweddol o'r offeryn newydd yn cynnwys:
• Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, 18.4 y cant yw canran yr achosion sy'n smygu ar gyfer oedolion sy'n byw yng Nghymru.
• Dim ond 3.6 y cant o blant yng Nghymru, 11-16 oed, sy'n hunanadrodd eu bod yn ysmygu.
• Er bod smygu yng Nghymru gostwng yn raddol, mae'r cyfraddau smygu yn y pumed mwyaf difreintiedig yn parhau i fod yn fwy na dwywaith cyfradd y pumed lleiaf difreintiedig.
• Mae marwolaethau y gellir eu priodoli i smygu tua 3.5 gwaith yn uwch yn y pumed mwyaf difreintiedig o gymharu â'r pumed lleiaf difreintiedig ar gyfer menywod, a thua 2.5 gwaith yn uwch ar gyfer dynion. Mae'n ymddangos bod y bwlch anghydraddoldeb wedi ehangu dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mae cyfraddau derbyn i'r ysbyty y gellir eu priodoli i smygu yn gyson uwch ymhlith dynion na menywod. Ymddengys fod cyfraddau ymhlith dynion wedi peidio â gostwng. Fodd bynnag, mae cyfraddau ymhlith menywod yn codi, yn enwedig i'r rhai sy'n byw yn y pumed mwyaf difreintiedig.
Meddai Ashley Gould, Ymgynghorydd ym maes Iechyd Cyhoeddus, ac Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Rheoli Tybaco:
“Mae'r offeryn sydd newydd ei ddiweddaru yn adnodd gwych, gan ddwyn ynghyd ddata ar nifer yr achosion o smygu, a chanlyniadau ysmygu – o ran marwolaethau, derbyniadau i'r ysbyty a chlefydau allweddol gan gynnwys canserau, a chlefydau cylchrediad y gwaed a resbiradol. Mae hefyd yn cynnwys dolenni sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd i amrywiaeth o dystiolaeth lefel uchel ynghylch atal, rhoi'r gorau i smygu a dadnormaleiddio'r defnydd o dybaco.”
Mae smygu yn cyfrif am tua un o bob chwech o'r holl farwolaethau ymhlith oedolion sy'n 35 oed a throsodd. Mae canran uchel o'r rhain yn gysylltiedig â chanserau a chlefydau resbiradol.
Mae proffil newydd Ysmygu yng Nghymru yn defnyddio pecyn meddalwedd newydd i gyflwyno'r data mewn modd sy'n apelio'n weledol, yn hawdd eu deall ac sy'n addasadwy. Mae'r proffil wedi'i greu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau i gyflawni'r amcanion a nodwyd yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os hoffech chi neu rywun yr ydych chi'n ei adnabod derbyn mwy o wybodaeth am sut i stopio ysmygu, gwelwch yr ffeithlun canlynol.
I weld yr offeryn rhyngweithiol newydd cliciwch yma.